主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Edrych i lawr tuag at adeilad Goleg Camwy, de uchaf, gyda Ty Camwy ar y chwith Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy
Mari Phillips yn ymuno a dathliadau Coleg Camwy yn y Gaiman

Mae cael cynnig swydd fel athrawes Gymraeg ym Mhatagonia yn fraint ynddi'i hun ond mae cael bod yma yn ystod dathliad canmlwyddiant Coleg Camwy, neu'r Ysgol Ganolraddol, fel y'i gelwid, yn fwy o fraint byth.

Sawl dathliad
'Rwyf wedi bod yn dyst i sawl dathliad pwysig yn hanes yr ysgol ers bod yma.

Ar Fehefin 3 cynhaliwyd y pumed ar hugain Microeisteddfod Camwy yn hen gapel Bethel yma yn y Gaiman, ble roeddwn i'n beirniadu dawnsio gwerin - braint arall yn enwedig o weld mor uchel oedd y safon.

Bu cystadlu brwd o 2.30 y prynhawn hyd 11.00 o'r gloch y nos a chefais wefr o weld cymaint o blant yn mwynhau cystadlu yn y Gymraeg a'r Sbaeneg a'r cyfan wedi ei drefnu gan y disgyblion brwdfrydig o dan arweiniad ymroddedig eu hathrawon.

Roedd hi'n braf eu gweld yn cymryd cyfrifoldeb a theimlo perchnogaeth dros drefniadau'r diwrnod.

Profiad rhyfedd oedd clywed Cân y Cadeirio yn cael ei chanu mewn Castellano a braf oedd gweld Antonella Sarteschi o'r Gaiman ac Agustín César Lostra o Drelew yn rhannu'r brif wobr lenyddol am gyfansoddi darn o farddoniaeth.

Parti ar yr iard
Yna, ar Ddydd Mawrth Mehefin 20, yn dilyn 'acto' i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Faner, cynhaliwyd parti ar iard yr ysgol gyda phawb wedi dod â bwyd a diod ar gyfer yr achlysur a chwis hwyliog i gloi wedi ei baratoi gan yr athro Cymraeg, Gabriel Restucchia a'i wraig, Lucia.

Roedd mwynhad y plant yn dyst o awyrgylch hyfryd a chartrefol yr ysgol uwchradd hon sydd ar ben Heol Michael D Jones yn y Gaiman.

Cinio canmlwyddiant
Uchafbwynt y dathlu, heb os nac oni bai, oedd y Cinio Canmlwyddiant nos Sadwrn, Mehefin 24, yn y Gimnasio Municipal gyda'r disgyblion unwaith eto yn cymryd rhan flaenllaw ar y noson trwy weini mor ddiwyd ar y byrddau a'r 500 o westeion.

Dangoswyd ffilm yn olrhain hanes yr ysgol o'i chychwyn yn 1906 hyd heddiw, wedi ei pharatoi yn grefftus gan Hector MacDonald a Mary Zampini, y ddau yn gyn-ddisgyblion yn yr ysgol.

Arwyddair ar wal yr ysgolYn ogystal â dangos clip fideo a lluniau amrywiol roedd y ffilm hefyd yn cynnwys cyfweliad gyda Luned Roberts de González a fu'n Brifathrawes yr ysgol am 39 o flynyddoedd.

Goreu arf . . .
Yn wir, wrth edrych ar arwyddair uniaith Gymraeg yr ysgol, Goreu Arf Arf Dysg, anodd oedd credu fy mod i filoedd o filltiroedd i ffwrdd o Gymru yn Ne America yn dathlu pen-blwydd ysgol sydd â lle mor amlwg i'r Gymraeg ar ei chwricwlwm.

Hir oes iddi a diolch am gael bod yn dyst i'r dathlu.
Mari Phillips, athrawes Gymraeg y Gaiman a Dolavon.





de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy