主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Fred Green Cofio Fred Green
Marw un o gymeriadau hynod y Wladfa ym Mhatagonia

Ionawr 2002

Dau gyfraniad i Gofio Fred Green:
- Dolen gyswllt a'r gorffennol
- Cathrin Williams yn cofio

Ym marwolaeth Fred Green collodd y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia un o'i chymeriadau hynotaf a dolen gyda chychwyn y fenter ryfeddol yn yr Ariannin.

Yn wr diwylliedig, cadarn ei Gymreictod, yr oedd Fred Green hefyd yn hyddysg yn arferion y paith a chanddo ymwybyddiaeth ddofn a gwybodaeth drylwyr o'r etifeddiaeth Gymraeg.

Yn ddisgynnydd y mewnfudwyr cyntaf siaradai amdanynt o adnabyddiaeth a drosglwyddwyd yn uniongyrchol gan eich rhoi chwithau mewn cysylltiad uniongyrchol a hwy hefyd.

Ei daid a'i nain a ddaeth i'r Ariannin o Gymru; ar y Mimosa yn 1865.

R.J. Berwyn oedd y taid, cofrestrydd cyntaf y Wladfa ac yn un o'r 12 aelod o'r Cyngor a etholwyd i lywodraethu yno.

Ef hefyd oedd golygydd y newyddiadur cyntaf, Y Brut, a'r athro cyntaf yno.

Wrth hel atgofion cyfeiriai Fred yn aml iawn at "Taid Berwyn" ac nid oes amheuaeth nad oedd yn eilun yn ei olwg a'i ddylanwad yn fawr arno.

Y gwr hwnnw a fyddai'n mynnu fod y plant yn brawddegu'n gywir ac yn safonol gan arddel geiriau Cymraeg yn unig fel "Bonwr" yn hytrach na'r "Mr" Saesneg.

Yn naturiol ddigon, y Gymraeg oedd iaith aelwyd Fred Green yntau ac i sicrhau y gallai ei bedwar plentyn - dwy ferch a dau fab - ysgrifennu yn ogystal â siarad yr iaith anfonodd y ddau hynaf i Ysgol Tregaron am ddwy flynedd ac yn ddiweddarach anfonodd y naill o'r ddau arall i goleg amaeth Llysfasi yng Nghlwyd a'r llall i Aberystwyth am ddwy flynedd gan gynnwys blwyddyn yn y Coleg Addysg Bellach yno.

Yr oedd yn Steddfotwr brwd a theithiai'r chwe chan milltir o Gwm Hyfryd i'r Gaiman a Threlew ar gyfer Eisteddfod yr Ifanc ac Eisteddfod y Wladfa bob blwyddyn.

Yr oedd Fred Green hefyd ymhlith y nifer fechan o Wladfawyr a oedd yn medru Saesneg.

Yr oedd yn ymwelydd cyson â Chymru ac ar ymweliad yn 1983 cofnododd ei atgofion, Pethau Patagonia, a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Mei y flwyddyn wedyn.

Yn y flwyddyn 2000 yr oedd ei ymweliad olaf.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf yr oedd yn arferiad ganddo dreulio'r gaeafau o Batagonia gan na allai ddygymod, meddai, a'r oerni. Er gwaethaf ei oed teithiai ei hun nid yn unig yng Nghymru ond ar Gyfandir Ewrop hefyd.

Yr oedd ei ddiddordebau yn eang gan ymddiddori mewn digwyddiadau bydeang yn wleidyddol ac ym myd busnes gan ddarllen yn helaeth.

Yr oedd yn uchel ei ganmoliaeth o'r National Geographical Magazine.

Yr hyn a fyddai bob amser yn rhoi blas ar ei sgwrs fyddai wybodaeth am hanes ac arferion y gwladfawyr.
Wedi treulio llawer o amser yn y cyfrwy yr oedd yn hyddysg yn arferion y paith neu'r "camp" fel y geilw'r gwladfawyr eu ffermydd ar y paith.

Ond ffafriai ychen yn hytrach na'r ceffyl fel anifeiliaid gwaith.

"Anifail digon twp ydi'r ceffyl - mae ychain yn gallach o lawer," meddai.

Yr oedd yn hyddysg mewn dulliau hela a gallai nid yn unig restru bob un o'r lleoedd arwyddocaol ar yr hirdaith o Ddyffryn Camwy i Gwm Hyfryd a'r Andes ond hefyd egluro arwyddocâd enwau fel Nant y Pysgod, Dyffryn yr Allorau, Bocs Gin ac ati.

Yr oedd ganddo adnabyddiaeth uniongyrchol o lawer o'r hen gymeriadau neu yr oedd o fewn un cenhedlaeth i'w hadnabod ac yr oedd yr hanesion amdanyn nhw yn fwy ar ei gof.

Cofiai gyfarfod a'r cymeriad hynod hwnnw John Daniel Evans - dyn tawel a dwys, oedd ei gof ohono.

Bu Fred Green farw yn Nhrevelin, yng Nghwm Hyfryd a oedd mor annwyl iddo, yn 88 oed.

Meddai Cathrin Williams, yn sgrifennu o Batagonia:

Roedd y Bnr Fred Green yn ddyn gwahanol.

Roedd yn edrych yn wahanol, gyda'i hances yn lle tei a'r chal llydan dros ei ysgwyddau pan fyddai'n oeri.

Gwisgai fel rhyw gaucho soffistigedig a thynnai sylw pan gerddai strydoedd Trevelin ac Esquel gyda'i gorff main yn syth.

Roedd ei Gymraeg yn fwy Cymreig nag eiddo'r Cymry a mynnai ei siard yn ei phurdeb gan ddefnyddio geirfa oedd, ar adegau, yn hynafol ac yn ddieithr i'r glust.

Mynnai fod ei deulu'n Gymry da ac i'r diben hwn roedd wedi anfon dau o'r plant i Gymru i gael eu haddysg uwchradd, a bu'r ddau arall yno, hefyd, pan oeden nhw ychydig yn hnach.

Gwyddai lawer am Gymru, ond gywddai fwy am ei wlad ei hun, yn enwedig talaith Chubut.

Fred Green wrth law, doedd dim angen llyfrau am ei hanes, ei thirwedd na'i bywyd gwyllt, ac mae ei hunangofiant, Pethau Patagonia, yn dyst o hynny.

A pha ryfedd fod y gwr hwn yn ymgorfforiad o'r pethau hynny sy'n cyfrif i'r Cymro, ac yntau yn wyr i un o'r Hen Wladfawyr, R. J. Berwyn, un a wnaeth gymaint dros y sefydliad yn y blynyddoedd cynnar.

Bu Fred Green yn byw am flynyddoedd ar ei estancia, Primavera, yn ardal Rhyd yr Indiaid. Symudodd oddi yno i Pennant, y tu allan i Drevelin, a chafodd dwsianau o Gymry groeso ar ei aelwyd o a Vera, a chael mwynhau cwmni'r plant, Charle, Mary, Alwen ac Erik Iolo.

Ond roedd ei fyd yn llawer ehangach na'i filltir sgwar gan ei fod yn siarad drwy'r radio â chyfeillion yng Nghymru a mannau eraill.

Ac roedd anian y crwydryn ynddo. Ymwelai'n gyson â Chymru ac, yn ddiweddar, a Gibraltar.

Pam Gibralta, tybed? Wel, am fod Y Bnr Fred Green yn ddyn gwahanol.

Fydd y Wladfa ddim yr un fath i lawer o Gymry hebddo.





de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy