主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cymry'n pleidleisio Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Dathlu canmlwyddiant 'Pleidlais Ysgol 18' ym Mhatagonia

Ebrill 30, 2002


Cymry'r Wladfa yn dewis eu gwlad

Er gwaethaf ei henw diramant y mae i Ysgol 18 yng Nghwm Hyfryd, Patagonia, le allweddol nid yn unig yn hanes y Wladfa Gymreig yno ond yn hanes yr Ariannin ei hun.

Trwy bleidlais yn yr ysgol hon gan mlynedd yn ôl i heddiw y dewisodd y Cymry cynnar mai rhan o Ariannin fyddai Cwm Hyfryd ac nid rhan o Chile.

Gyda'r bleidlais hon enillodd yr Ariannin 130 lîg sgwâr o dir ffrwythlon a allasai fod yn rhan o Chile erbyn heddiw.

Ac fel sawl dydd arall o bwys yn Ariannin y mae diwrnod y bleidlais honno, Ebrill 30, yn dal i gael ei gofio a'i ddathlu.

Ymgecru am y ffiniau

Bu ymgecru ynglyn â'r ffiniau rhwng Ariannin a Chile am flynyddoedd gyda'r naill wlad a'r llall yn mynnu mai hwy oedd biau'r tiroedd ffrwythlon yn ardal Cwm Hyfryd a llechweddau'r Andes.

Yn y diwedd, penderfynwyd rhoi'r dewis i'r bobol i ba wlad oeddan nhw eisiau perthyn.

Un o'r rhai a adroddodd yr hanes ar bapur yn ei lawysgrifen daclus oedd John Daniel Evans - El Molinero, y Melinydd - un o bennaf arloeswyr y Wladfa ym Mhatagonia a'r gwr a wnaeth fwy na neb i ddatblygu Trevelin yn dref o bwys.



Plygu'r faner

"Bu'r degfed ar hugain o Ebrill 1902 yn ddiwrnod pwysig iawn i ni," meddai wrth adrodd yr hanes. "Daethom ynghyd i Ysgol Rhif 18 a byddai'r cyfarfod yn aros yn hanes Ariannin fel digwyddiad tyngedfennol.

"Cyrraedd yno'n gynnar a'n teuluoedd gyda ni yn barod i wynebu'r dydd.

"Yr oedd pwyllgor y ffin wedi cyrraedd a'i neges oedd rhoi diwedd ar y ddadl rhwng y ddwy wlad. Daethai Syr Thomas Holdich yma fel arolygydd Prydain, y Perito Francisco P. Moreno dros Ariannin a'r Dr Balmaceda dros Chile.

"Pan ofynnwyd i ni o dan ba faner y dymunem fyw bu'r datganiad yn unfrydol.

"Rhwng cymeradwyaeth a bonllefau o Viva plygodd y Dr Balmaceda yn araf faner Chile a syrthiodd dau ddeigryn mawr hyd ei ruddiau.

"Carai yntau ei wlad a bu bod yn dyst i weld colli'r tiroedd iddo deimlo'n hynod o bruddglwyfus."

Nid yn unig bu dewis y Cymry yn fodd i'w hanwylo yng ngolwg yr awdurdodau yn Ariannin ond hefyd aeth yn groes a chonfensiwn o bennu ffiniau gwledydd yn ôl rhediad afonydd.

Yma, o ddilyn rhediad Yr Afon Fawr - Rio Grande - byddai llawer o'r tiroedd sy'n awr yn Ariannin yn perthyn i Chile.

Gyda'r llywodraethau yn methu â dod i gytundeb penderfynwyd, yn y diwedd, ofyn i'r trigolion lleol ddewis i ba wlad oedden nhw am berthyn.

Bu'r bleidlais yn ysgol y Cymry - Ysgol 18 - ar Ebrill 30, 1902, gyda Syr Thomas Hungerford Holdich wedi ei anfon o Loegr i sicrhau chwarae teg.

Mae llun o'r pleidleiswyr y tu allan i'r ysgol i'w weld o hyd ar barwydydd yn Y Wladfa.

Gwrthod rhodd o dir

Pe byddai'r bleidlais wedi mynd y ffordd arall byddai'r Wladfa Gymraeg ei hun wedi ei rhannu'n ddwy a gwladfawyr Dyffryn Camwy yn ddinasyddion yr Ariannin ond rhai Cwm Hyfryd dan law Chile.

Nid oes amheuaeth mai'r posibilrwydd hwn a ddylanwadodd yn bennaf ar y Cymry wrth iddyn nhw fwrw eu pleidlais.

Yr oedd cadw'r cysylltiad â theuluoedd y Dyffryn chwe chant o filltiroedd i ffwrdd yn bwysicach yng ngolwg trwch y boblogaeth na hyd yn oed rhodd o lîg o dir yr un a addawodd Chile iddynt am eu pleidlais.

Ond fe blediai rhai o arweinwyr y gymdeithas Gymraeg achos Chile er mwyn ennill llwybr i arfordir y Môr Tawel a marchnad i'w cynnyrch yn Chile.

Yr hyn sy'n syndod yw na fu i Gymry mor hirben a'r gwladfawyr hyn berswadio Ariannin i roi iddynt yr un faint o dir a Chile yn rhodd am eu pleidlais.

I ddathlu canmlwyddiant y bleidlais bu cymanfa ganu yng Nghapel Bethel Trevelin ddydd Sul ac ymhlith yr ymwelwyr â Chwm Hyfryd yn ystod y dathlu bydd disgynnydd i Syr Thomas Holdich, a'r arlywydd ei hun.

Bu corau'r ardal yn ymarfer emynau Cymraeg ac anthemau yr Ariannin a Chymru mewn pedwar llais.






de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy