主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd
Mae cynlluniau ar y gweill i wneud y Wladfa Gymreig yn ganolbwynt 'twristiaeth diwylliannol' ym Mhatagonia.


Mae'r arbrawf yn cychwyn i gyd-fynd a Gwyl y Glaniad, Gorffennaf 28, 2004, gyda'r bwriad o'i ymestyn erbyn dathliadau 140 mlynedd glaniad y Cymry cyntaf y flwyddyn nesaf.

Y tu ôl i'r fenter mae Adran Ddiwylliant talaith Chubut a'r Adran Dwristiaeth.

Fel rhan o ddathliadau Gwyl y Glaniad eleni, 2004, trefnir teithiau o gwmpas y capeli a adeiladwyd gan y gwladfawyr cyntaf.

Rhagwelir y bydd hyn yn gychwyn i gynllun a fydd nid yn unig yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ddiwylliannol bwysig ond hefyd o les i'r economi leol.

Cynllun uchelgeisiol
"Lluniodd Ysgrifenyddiaeth Ddiwylliant ac Ysgrifenyddiaeth Dwristiaeth talaith Chubut strategaeth uchelgeisiol dymor byr i ledaenu a gwerthfawrogi'r diwylliant Cymreig cyfoes yn Chubut, ei gynhyrchion a'i botensial twristaidd," meddai datganiad gan yr adran ddiwylliant yn tynnu sylw at y cynllun.

Arwyddair ar fur Coleg Camwy Bu hysbysebion, yn barod, ar sianeli teledu cenedlaethol Ariannin i dynnu sylw at yr ymgyrch gydag aelodau amlwg o'r gymdeithas Gymraeg ym Mhatagonia yn cymryd rhan - Côr Ysgol Gerdd y Gaiman, Héctor Ariel Mac Donald, Luned Roberts de González, Tegai Roberts, Gerallt Williams, Waldo Williams, Isabel Irma Roberts de Williams, Rackel Davies, Aluina Thomas, Valy Pugh, May Hughes, Mair Davies a Gabriel Restuchia.

Dywedodd Fernando Lopez Guzmán o'r Ysgrifenyddiaeth Ddiwylliant mai'r nod yw "codi ymwybyddiaeth o'r pwnc yn y wlad trwy gyflwyno gwybodaeth sylfaenol am yr etifeddiaeth Gymraeg bwysig ym Mhatagonia.

Glaniodd y Cymry cyntaf ym Mhatagonia ar Orffennaf 28, 1865, ym Mhorth Madryn ac y mae hi eleni hefyd yn ganmlwyddiant marwolaeth un o hyrwyddwyr pennaf y mudo hwnnw o Gymru, Lewis Jones y mae ei enw yn dal i gael ei gadw'n fyw ym Mhatagonia yn enw'r dref, Trelew.

Enghraifft brin
Mae ymdrech y Cymry i wladychu'r wlad yn un o'r enghreifftiau prin hynny o wladychu di-drais gyda chydweithrediad â'r brodorion cynhenid.

Yr oedd diogelu eu Cristnogaeth Gymraeg yn ganolog i ymdrechion y gwladfawyr cynnar a dywedir fod olion hynny i'w weld hyd heddiw ar strwythur cymdeithasol Chubut heddiw er mai rhan fechan iawn o'r boblogaeth sy'n Gymry erbyn hyn.

"Y mae eu breuddwyd wedi dwyn ffrwyth ac heddiw mae'n angenrheidiol gweithio'n galed i ledaenu gwybodaeth am ei bwysigrwydd a diogelu'r etifeddiaeth," meddai datganiad yr Ysgrifenyddiaeth Ddiwylliant.



Arwydd ty te Cymreig"Nid oes llawer o ymwybyddiaeth am y Wladfa ym mannau eraill y weriniaeth," ychwanega.

I gyd-fynd a 140 pen-blwydd y glaniad yn 2005 mae cynllun i adfer rhai o'r nifer o gapeli Cymreig traddodiadol sydd yn y Wladfa - a adeiladau sy'n cael eu hystyried fel y dystiolaeth fwyaf gweladwy o'r presenoldeb Cymreig.

Teithiau capel
Dywedodd Nadia Hildemann, sy'n gyfrifol am y prosiect ar ran yr Ysgrifenyddiaeth Twristiaeth, y bydd y capeli yn rhan o deithiau twristaidd gyda disgynyddion y gwladfawyr neu alodau'r capeli ar gael i dywys ymwelwyr.

"Nid yn unig bydd canlyniadau'r prosiect o les i dwristiaeth ddiwylliannol ond bydd hefyd yn fodd i hybu cynhyrchion yn ymwneud â'r diwylliant Cymreig a'i hetifeddiaeth," meddai.





de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy