主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Baneri Cymry Ariannin Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad
Catrin Morris yn cael Gŵyl y Glaniad i'w chofio ym Mhatagonia


Gorffennaf 2008
Ar Orffennaf 28 bob blwyddyn mae Cymry Patagonia yn dathlu glaniad yr Hen Wladfawyr yn y Bae Newydd ym Mhorth Madryn ym 1865.

Eleni rydym yn dathlu 143 o flynyddoedd.

Y cwch yn dynesu at y lan Fel rhan o'r dathliadau mae capeli'r dyffryn yn agor eu drysau i weini te i ymwelwyr ac mae'r gystadleuaeth yn gref! Cewch fwyta bara menyn, jam cartref, teisen blât, teisen hufen, teisen ddu a phob math o gacennau eraill sy'n temtio'r llygad a'r bol.

Actio'r glaniad
Eleni, am y tro cyntaf erioed, penderfynodd ein teulu ni fynd i weld y dathliadau ym Mhorth Madryn lle maent yn actio'r glaniad cyntaf hwnnw wrth i'r Cymry cynnar rwyfo i'r lan i'w croesawu gan Edwin Cynrig Roberts ac Indiaid brodorol y Tehuelches ar gefn ceffylau.
A dyna a fu eleni!

Ers awr fe welwyd cwch bach gwylwyr y glannau allan yn y bae. Wrth iddo'n raddol ddod yn agosach fe welwyd, ymysg y rhwyfwyr, hanner dwsin o bobl wedi eu gwisgo yn nillad y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Wedi glanio Carient faner Cymru a baner y Wladfa newydd - draig goch ar gefndir glas a gwyn, sy'n cyfuno baner yr Ariannin a baner Cymru.

Ar y traeth yn eu disgwyl gyda dwy faner debyg yr oedd cymdogion yn cymryd rhan Edwin Cynrig Roberts ac eraill gyda thanllwyth mawr o dân gan fod y gwynt yn finiog oer.

Cân draddodiadol
Bu helynt cael y gwladfawyr lawr o'r cwch i'r ceffylau ar y lan ond llwyddwyd yn y pen draw gyda llond y lle o gymeradwyo.

Roedd y cyhoedd yn gwylio'r cyfan o'r lan o gwmpas Amgueddfa Puenta Cuevas lle adroddir hanes y glaniad gwreiddiol.

Gorymdeithio wedyn at y brodorion a ganodd gân draddodiadol o groeso a dawnsiodd Criw o Ysgol Gerdd y Gaiman ddawns werin Gymraeg.

Râs y gasgen gwrw oedd yn dilyn - cynrychiolwyr yr Indiaid brodorol yn rasio yn erbyn cynrychiolwyr y Cymryl.

Ar y traeth Dwi ddim yn credu fod llawer o wirionedd yn yr ail-greu hwn ond roedd yn gryn dipyn o hwyl er ei bod hi mor oer y bore hwnnw ym Mhorth Madryn.

Ni allwn ond dychmygu sut y teimlai'r Cymry cyntaf hynny o weld tir mor ddiffaith a theimlo gwynt llym Patagonia am y tro cyntaf y diwrnod hwnnw ym 1865.

Eleni, fodd bynnag, fe'n gwahoddwyd ni i de wedyn gan ffrindiau ond bu'n rhaid i ni godi o'r bwrdd bwyd yn gynnar gan ein bod yn cynrychioli Ysgol yr Hendre yn seremoni ailagor Pont yr Hendre yn Nhrelew am chwech o'r gloch y prynhawn.

Mynd a wnaethon ni, gan addo dychwelyd wedyn.

Adeiladwyd Pont yr Hendre ym 1888 mewn cydweithrediad rhwng y Cymry cynnar a'r Indiaid brodorol ond fe ddymchwelodd y bont mewn damwain angheuol yn hwyrach.

Ailadeiladwyd hi; ond ddwy flynedd yn ôl penderfynwyd nad oedd hi'n ddiogel bellach ac wedi ymgynghori â'r trigolion lleol penderfynwyd adeiladu pont haearn gref a'i gwisgo mewn pren, fel ei bod yn ymdebygu i'r bont wreiddiol - ind yn llawer cryfach.

Seremoni Ysgol yr Hendre Bu'r seremoni ym mhresenoldeb holl feiri pob un o'r trefi cyfagos, gweinidogion y dalaith a'r prif ddyn ei hun, Mario Das Neves, llywodraethwr talaith Chubut.

Arian i ysgol
A'r peth cyntaf a wnaed oedd datgan fod talaith Chubut yn cytuno i adeiladu adeilad newydd i Ysgol yr Hendre!
Gwych!

Golyga hyn fod talaith Chubut yn cydnabod, cefnogi a hyd yn oed yn hyrwyddo'r ysgol Gymraeg hon ac mae hynny'n gam mawr ymlaen i ni yn yr ysgol - o fod yn wynebu cau un wythnos i fod yn dathlu'r wythnos ganlynol.
Gwych!

Cafwyd seremoni hyfryd, gyda chanu a dawnsio gwerin gan grŵp Gwanwyn Trelew, John Humphreys y pensaer, Cesar Gustavo MacKarthy, maer Trelew a Mario Das Neves ei hun yn siarad.

Uchafbwynt y cyfan oedd y tân gwyllt ac agor y bont yn swyddogol ond y gwir yw nad wyf yn cofio fawr ddim gan fy mod mor brysur yn asesu'r datganiad a'r cytundeb a arwyddwyd nes 'mod i'n methu canolbwyntio llawer ar ddim byd!

Camau breision
Dydy'r newyddion ddim wir wedi suddo i mewn eto, er fy mod i wedi treulio amser yn pwyso a mesur popeth.

Credaf fod llywodraethwr y dalaith, drwy roi hanner miliwn o pesos i ni, yn cydnabod yr ysgol ac yn wir yn cydnabod y cytundeb a arwyddodd gyda Rhodri Morgan ddwy flynedd yn ôl.

Mewn gwirionedd mae'n rhoi hwb anferth i'r ysgol ac yn cynnig cydnabyddiaeth wleidyddol bwysig iawn.

Gobeithio y gallwn weld yr ysgol yn ffynnu nawr ac yn symud i'r dyfodol gyda chamau breision a hyderus.

Wedi'r seremoni dychwelwyd i'r Gaiman at ein ffrindiau a dathlu Gŵyl y Glaniad, a llwyddiant Ysgol yr Hendre mewn dull gwahanol - dros wisgi a sgwrs ac ambell emyn....wedi'r cyfan Cymry Patagonia ydym ni.






de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy