主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cofgolofn i'r bydwragedd Sgrech y dathlu!
Catrin Morris de Junyent yn son am ymateb rhyfeddol i Wyl y Glaniad yn Nhir Halen, Patagonia

Babis a Gwyl Glaniad 2003 Patagonia
Heddiw aethon ni i Dir Halen - eto. Taith o 100 km yno ac yn ôl.
Do, mi fuon ni yno ar gyfer y seremonïau dathlu Gwyl Glaniad ond tase rhywun yn gofyn i mi beth ddigwyddodd neu be ddywedodd y siaradwyr fuasai gen i ddim syniad.
Felly dyma ddychwelyd.

Y Glaniad
Ar Orffennaf 28 yn y flwyddyn 1865 y glaniodd y fintai gyntaf o Gymry ar draeth Porth Madryn i oerfel gwynt Patagonia ac ar y diwrnod hwn bob blwyddyn, felly, fe welir dathliadau lu yn yr ardal anghysbell hon o Dde America.

Te mewn hen gapeli
Falle y gwyddoch am y te enwog a gynhelir yn yr hen gapeli ar hyd a lled Dyffryn Camwy, neu ddyffryn yr afon Chubut, fel y gwelir ar fapiau ac a adnabyddir gan y mwyafrif o Archentwyr.

Os ewch am dro ar hyd y dyffryn rhwng tua thri a phump o'r gloch ar y diwrnod hwn fe welwch fwy o bobl yn mynychu'r capeli nag a welir ar unrhyw Sul.

Machlud, Lle Cul Mi welwch giwiau o ddwsinau o bobl yn aros i gymryd eu lle ar feinciau caled y capeli er mwyn profi danteithion y menywod lleol a fu'n chwysu dros y tân er mwyn pobi eu teisennod, a'u bara cartref.

Berwi yn y buarth
Yng nghapel sinc Lle Cul mi welwch y te'n berwi ar dân coed pren yn y buarth;
Ym Mryn Crwn mi welwch rasys ceffylau a chystadlaethau marchogaeth eu tebyg na welir yng Nghymru;
Yn hen gapel Bethel, y Gaiman mi gewch gyngerdd a chlywed pobl hen ac ifanc yr ardal yn canu ac adrodd yn Gymraeg.

Os ym Mhorth Madryn, efallai y gwelwch chi'r Cymry cynnar yn dod i'r lan o'u cwch ac yn glanio unwaith eto ar draethau'r dre - ond y tro hwn mi gân nhw ddewis aros mewn gwesty cyfforddus efo gwres canolog nid ar ddarn o graig oer heb fawr ddim lloches rhag yr elfennau.

Ym mhentref Tir Halen
Ond fe ddechreuir y dathliadau bob blwyddyn ar fore'r 28ain efo seremoni dan ofal Cymdeithas Dewi Sant, Trelew, ac eleni roedd hon ar dop y dyffryn yn y pentref agosaf at geg y ffosydd, sef Tir Halen.

Ni welwch yr enw hwn ar ddim arwydd ffordd gan mai "28 de Julio" neu "28ain o Orffennaf" ydy enw'r lle erbyn hyn.

Pentref bach ydyw efo dyrnaid o dai, ysgol, campfa, amgueddfa, llyfrgell, a gorsaf heddlu sy'n gwasanaethu'r ffermydd cyfagos, a dyma lle roedd y seremonïau i fod eleni.

Cymraes ydw i yn briod ag Archentwr ac yn magu teulu yn Nhrelew, Patagonia.
Felly, fel aelod cyfrifol o'r gymdeithas Gymreig yma, a chyn-athrawes Gymraeg a ddysgai dan adain Cymdeithas Dewi Sant, Trelew, mi ymlwybrais i Dir Halen ar fore oer diwrnod Gwyl Glaniad eleni.

Es â'r merched bach efo fi. Mae Elen yn 21 mis oed a Maite yn dri mis.

Roedd Milton, fy ngwr, wedi gorfod gweithio.

Dylwn i fod wedi darllen yr arwyddion. Roedd popeth yn dweud wrtha i am aros yn y ty yn gynnes y bore hwnnw. Ta waeth, mi es, gan gasglu Eiry Miles, athrawes y Gaiman a Dai, ei chariad, ar y ffordd.

A dyma sgrech!
O gyrraedd y gampfa roedd y lle'n llawn o bobl gyfarwydd oedd wedi gyrru neu deithio efo ffrindiau a theulu yno o bob cwr o'r dyffryn. Ac wedi cyfarch cymaint ag oedd yn bosibl dyma eistedd yn barod ar gyfer y seremoni.

Daeth tawelwch ac ymdeithiodd cynrychiolwyr y cymunedau amrywiol a'u baneri i ben y llwyfan .... a dyma sgrech. A sgrechian di-ball.

Cododd pawb ar eu traed i ganu anthem genedlaethol yr Ariannin efo'i rhagarweiniad hir, ond y tro hwn i gyfeiliant sgrechian y babi.

Doedd Maite brin wedi codi ei llais erioed yn ystod ei bywyd bach cyn hyn ond, y bore hwn, mi benderfynodd brotestio a gadael i'r byd wybod ei bod yn gwrthwynebu cael ei llusgo i'r lle anghysbell hwn yn yr oerfel.



Teyrnged i'r bydwrageddWelon ni ddim o'r seremoni, na chlywed araith Gabriel Restucha na chlywed côr Ysgol Gerdd y Gaiman yn canu.

Ac wedi mynd allan i'r awyr iach i weld dadorchuddio cofgolofn i'r bydwragedd a fu'n rhoddi o'u hamser a'u sgiliau ar hyd a lled y dyffryn cyn i'r meddygon cyntaf gyrraedd, dyma ddechrau eto.

Sgrech ar ôl sgrech. Glywon ni ddim côr Dolafon yn canu nac anerchiad Carlos Dante Ferrari, awdur lleol, colli'r asado a'r cig rhost traddodiadol ac o'r diwedd bu rhaid i ni ei throi hi am adre.

Dychwelyd i ddathlu eto
Felly dyma ddychwelyd y pnawn yma. Teithio'n bedwar y tro hwn, yn hamddenol drwy'r Gaiman a Dolafon cyn cyrraedd Tir Halen ac aros y tu allan i'r amgueddfa leol i weld y cerflun prydferth a thrawiadol iawn i'r bydwragedd.

Dyma ymweld â'r amgueddfa a gadael i Elen redeg ar y glaswellt ac yn y parc naill ben.

Cael picnic ar lan yr afon a chael pnawn bach tawel a bendigedig yn gwneud rhywbeth rydym ni wrth ein boddau yn ei wneud - mynd am dro ar hyd y dyffryn hardd hwn sydd yn deyrnged i lafur y Cymry a drodd yr anialwch yn dir ir a ffrwythlon.

A'r tro hwn efo'r ddwy ferch fach yn ddiddig a bodlon eu byd.





de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy