主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Edi Teyrnged i ffotograffydd blaengar
Cofio Edi Dorian Jones


Yn oriau mân bore Llun Mai 12 bu farw Edi Dorian Jones yn Nhrelew, talaith Chubut, Patagonia, wedi cystudd anarferol o hir a phoenus.

Er nad yw ei enw'n adnabyddus yn y wlad hon y tu hwnt i gylch cymharol gyfyng, roedd ei gynnyrch fel ffotograffydd wedi derbyn clod pawb a gafodd y cyfle i'w weld a'i werthfawrogi.

Teithio
Cyflogwyd ef tan ei ymddeoliad cynnar gan y sefydliad a oruchwyliai afonydd Chubut a ffosydd dyrfhau Dyffryn Camwy. Yn rhinwedd ei swydd, teithiodd ledled y dalaith eang, yn cario'i gámara i bob cwr ohoni.

Dechreuodd ei yrfa fel ffotograffydd proffesiynol pan gyflogwyd ef ar gytundeb rhan amser gan Jornada, newyddiadur bywiocaf y dalaith ar y pryd ac yn y swydd honno cofnododd yn bennaf achlysuron swyddogol a digwyddiadau annisgwyl y dydd.

Efallai mai'r cyfnod hwn a wnaeth iddo deimlo'n hapusach yn gweithio mewn du a gwyn.

Gydag amser, ychwanegodd bortreadau o gymeriadau yn ogystal â golygfeydd, gan ffurfio archif werthfawr iawn y dylid ar bob cyfrif ymdrechu i'w diogelu.

Cynhaliodd arddangosfeydd nifeurs, gan boblogeiddio'i enw ledled ei fro a thu hwnt. Gwelwyd yn fuan bod yna ddawn arbennig yn perthyn iddo a denwyd cylch bychan o'i edmygwyr i brynu ei luniau - cylch a ehangodd yn gyflym.

Yn anochel, ac yn gynyddol, dangosodd cwsmeiriaid barodrwydd i dalu pris uwch na'r cyffredin am ei waith ac ehangwyd ei apêl.

Dangos parch
Yn ogystal, dangosodd Edi lawer o barch tuag at waith nifer o'i ragflaenwyr. Pan benderfynodd perchnogion newydd Jornada gael gwared â llawer o ddeunydd o'u harchifau, trosglwyddwyd i'w ofal gasgliad ffotograffydd cynta'r Wladfa, yr arloeswr a'r masnachwr llwyddiannus John Murray Thomas.

Llwyddodd i adfer sawl llun oedd wedi dioddef oherwydd traul amser a diffyg gofal. Mae hwn yn gasgliad gwirioneddol werthfawr ac, er bod rhai o'r lluniau wedi ymddangos erbyn hyn mewn cyhoeddiadau megis Una Frontera Lejana, ni welodd y mwyafrif ohonynt olau dydd hyd yn hyn.

Tasg bleserus i rywun yn y dyfodol (agos, gobeithir) fydd pori drwy holl gasgliadau Edi Jones, i'w diogelu a'u cyhoeddi.

Nifer o luniau
Ymddangosodd ei luniau mewn nifer o lyfrau, llawlyfrau, taflenni, pamffledi a chardiau post. Yn 1999 cyhoeddodd Capillas Galesas en Chubut (Capeli Cymraeg yn Chubut), cyfrol safonol ar yr addoldai a godwyd ym mlynyddoedd cynnar y Wladfa a'r Andes.

Roedd yn ddisgynnydd i dri o arloeswyr y Mimosa, sef ei hen-hen nain, Eleanor Davies Dyffryn Dreiniog; ei mab hithau o'i phriodas gyntaf, Thomas Jones Glan Camwy; a'i wraig yntau, Sarah Jones.

Ymfudodd ei hynafiaid eraill o 1875 ymlaen. Gedy wraig (Graciela) a dau fab (Lenard ac Allan).

Roedd yn frawd i Mirna Ferreira, Pennaeth Ysgol Gerdd y Gaiman, ac yn gefnder i Edith MacDonald (Y Gaiman) ac Elvey MacDonald (Llanrhystud).






cysylltiadau
  • Lowri Rees yn holi Edi Dorian Jones

  • de america

    Yr Ariannin
    Apel am pesos coch y delyn

    Newyddion y Gaiman

    Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

    Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

    Ymweliad criw Ystradgynlais

    Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

    Eisteddfod Trevelin 2004

    Taith côr i ymweld â gwreiddiau

    Newyddion

    Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

    Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

    Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

    Kyffin Williams ym Mhatagonia

    Marw Ieuan May Jones

    Agor Ysgol yr Hendre

    Chwilio am wreiddiau

    Newyddion Gorffennaf 2006

    Taith bro'r Gadlas

    Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

    Teyrnged i ffotograffydd blaengar

    O Batagonia i wlad ei dadau

    Llwyddiant cynllun athrawon

    Darlith i gofio Lewis Jones

    Diwrnod y gêm

    O Grymych i Ariannin

    Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

    Hwb i ddawns y glocsen

    Angen cymorth yn Nhrelew

    Croesawu ymwelwyr

    Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

    Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

    Cofio'r croesawydd siriol

    Newyddion Rhagfyr

    Newyddion Mehefin 2006

    Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

    Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

    Cofio Moelona

    Cofio'r Mimosa

    Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

    Ysgol feithrin

    Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

    Newyddion Mawrth 2006

    Marw Marta Rees, Plas y Coed

    Marw Mair Davies

    Ethol Cymro yn faer

    Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

    Yn y llwch a'r lludw

    Cyfarfod Karen a Glyndŵr

    John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

    Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

    O Fro Dinefwr i'r Wladfa

    Enw newydd i ysgoloriaeth

    Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

    Aelodau newydd
    Gorsedd y Wladfa 2008


    Cofio Virgilio Horacio González

    Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

    Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

    Gŵyl y Glaniad 2005

    Pecynnau i ysgolion

    Darganfod y Gymraeg

    Eisteddfod 2007

    Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

    Ysgol y Dreigiau Bach

    Cinio blynyddol

    Croeso i gylchgronau Cymraeg

    Ymweliad Cor Merched y Gaiman

    Marw cerddor neilltuol

    Ysgol Trelew

    Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

    Cadair y Wladfa 2005

    'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

    Cyhoeddi hanes Bethlehem

    Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

    Athrawon 2007

    Arwyddion dwyieithog

    Colli bardd swynol

    Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

    Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

    Paratoi i ddathlu canrif a hanner

    Mimosa - canmol y fenter

    Y Mimosa

    Maradona:

    Lluniau Patagonia

    Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

    Sgrech y dathlu!

    Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

    Cofio Fred Green

    Edrych ymlaen at lanolin

    Profiad Patagonia

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Dafydd Du ym Mhatagonia

    Nadolig yng ngwres yr haf

    Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

    Ymweliad Côr y Wladfa

    Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy