主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O Fro Dinefwr i'r Wladfa
Hywel Jones yn sgrifennu am daith i'w chofio i Batagonia - Hydref 2004

Profiad bythgofiadwy oedd y daith i Batagonia.
Ffodus oeddem i gael brodor o'r Wladfa,. Mair Edwards, nawr o'r Bala, i'n harwain.

Teithiodd deg ohonom o ardal Llandeilo am hanner awr wedi chwech y bore i ymuno â 30 o Ogledd Cymru.

Teithwyr Bo Dinefwr ar y paithCyrhaeddom Borthladd Awyr Gatwick a hedfan odd yno am chwech yr hwyr i Madrid, ac ar awyren arall i'r Ariannin gan lanio ym Maes Awyr Ezeiza Buenos Aires.

Gwledd am bumpunt
Treuliasom bedair noson yn ardal Florida o'r ddinas a'r noson gyntaf cawsom wledd arbennig am bum punt (yn ein harian ni) yn cynnwys stecen cig eidion oedd yn fwy o faint ac yn fwy blasus na dim a gefais erioed yng Nghymru!

Ar y dydd Mawrth bu'r daith drwy'r ddinas yn agoriad llygad gyda'r uchafbwynt yn ymweliad â Chromen Eva Peron a fu farw yn 1952 yn 33 oed.

Mae'r rhan fwyaf o hanes y wraig ryfeddol hon yn dal i fod yn ddirgelwch.

Cawsom hwyl wrth weld Sioe Tango yn Elviejo Almacen.

Cawsom gyfle i gael trip mewn bad ar yr afon Plat i weld ynysoedd ei delta a bu inni gerdded i'r porthladd a chael fferi i ochr arall y delta i ymweld â thalaith Uruquay sy'n debyg iawn i wlad Portiwgal mewn sawl ystyr.

Bore Gwener oedd y diwrnod inni adael am Batagonia gan hedfan o Faes Awyr Aeroparque i gyrraedd Trelew ac ymlaen i Esquel - Tref yr Ysgall - wrth droed yr Andes, gwyn gan eira, er ei bod yn ddiwrnod braf o wanwyn.

Canolfan gymdeithasol
Braf a chynnes oedd croeso Cymry'r Wladfa yn y Ganolfan Gymdeithasol, a adeiladwyd drwy ymdrech ddyfal a diffuant Hazel Charles Evans, nawr o Landybie. Croeso gan Hazel Charles Evans - canol -  i Ysgol Gymraeg yr Andes

Cafodd gymorth Rini Griffith a thros ddwy flynedd bu'r ddwy yn codi arian trwy "werthu brics" am bunt yr un.

Er syndod i ni, roedd bwydlen Gwesty Tehuelche - ac, yn wir, bedwar gwesty arall - mewn Cymraeg a Sbaeneg.

Dyma her i westai Cymry-Cymraeg gyda'r Saesneg ddylai'r arfer fod!

Camp ceffyl
Ymlaen a ni fore Sadwrn ar dren hynafol La Trochita neu yr Old Patagonian Express ac yna ar fws i Drefelin a gafodd ei henwi felly, gan i John Daniel Evans sefydlu melin yno.

Braf oedd cael ymweld a'i gartref a elwir heddiw yn "Cartref Taid" a gwrando ar ei wyres yn sôn amdano yn fanwl yn y Sbaeneg a'i gyfieithu i ni gan Shirley a Paula.

Tafliad carreg o'r tŷ gwelsom fedd a chofeb Malacara - ceffyl enwog John Daniel Evans.

Dywed yr hanes i 30 o Indiaid ymosod arno ef a thri Chymro arall yn Nyffryn y Merthyron - Valle Martires - ar Fawrth 4, 1884, pan oeddent yn teithio i gyfeiriad yr Andes i chwilio am aur.

Lladdwyd tri -Richard B. Davies o Lanelli, John Hughes Caernarfon a John Parry o Ddinbych - ond llwyddodd John Daniel Evans i ddianc drwy gyflymder anhygoel ei geffyl chwim.

Eglurodd ar ôl cyrraedd adref iddo allu cyfleu i'w geffyl y sefyllfa ddifrifol ac i'r ceffyl lwyddo i neidio'n wyrthiol dros ddibyn ac afon.
Methodd yr Indiaid a'i ddal.

Felly, arbedwyd bywyd John Daniel Evans gan ei geffyl arbennig.

Erbyn iddo gyrraedd adref, gwelwyd coesau a charnau'r ceffyl yn waed i gyd a hynny, gan nad oedd wedi ei bedoli.

Wedi gofal manwl gan ei feistr diolchgar gwellodd Malacara o'i anafiadau ac fe fu byw am 25 mlynedd hyd 1909.

Wedi'r fath orchest rhaid oedd gosod cofeb deilwng iddo.

Cyn ymadael a Threvelin rhaid oedd ymweld a Chaffi Nain Maggie i gael te Cymreig 'slawer dydd sef; -te, bara ac ymenyn, caws, jam a tharten.

Parc Cenedlaethol
Drannoeth, y Sul, ymweld a Pharc Cenedlaethol Los Alceres, cael taith ar gwch gan gynnwys cinio a chyrraedd Capel Seion, Esquel, i oedfa'r hwyr dan arweiniad y pregethwr gwadd, y Parch Byron Davies, Maesteg. Coeden 2,600 mlwydd oed, 57 metr o uchel ym Mharc Los Alceres

Swm y casgliad oedd £100-hyn yn cyfateb a £1,000 o bunnoedd yn arian yr Ariannin.

Cafwyd seibiant ddydd Llun felly dydd Mawrth bu, taith o 11 awr trwy filoedd ar filoedd o aceri o dir diffaith heb goed na pherth i Drelew.

Da oedd cael cyrraedd Gwesty Libertador ac yno cwrdd a Dafydd Wigley a'i briod Elinor Bennett, beirniad cerdd yn Eisteddfod y Wladfa yn Nhrelew.

Carreg fedd
Dydd Mercher daeth cyfle i fynd i El Tombo i weld y pengwin cyn ymweld â Chapel Berwyn yn Rawson ac yn ôl i Drelew Bedd Lewis ac Ellen Jonesi ymweld â Chapel Moreia a gweld bedd Lewis Jones a'i briod Ellen. Cofiaf y geiriau ar y garreg fedd:
"A egyr ei genau yn ddoeth a chyvraith trugaredd sydd ar ei thavod hi."

Roedd Dydd Iau yn ddiwrnod Cyhoeddi Eisteddfod 2005, cyfle i weld aelodau newydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd yn y Gaiman a the a chacennau eto yn festri Capel Bethel.

Yn y prynhawn cefais y profiad personol unigryw o ymweld ag Eglwys Dewi Sant Dolavon ble bu cefnder fy nhad, John Washington Jones, gynt o Faeshenarth, Rhydcymerau yn weinidog rhwng 1920 a 1926.

Ei gapel arall oedd Moreia, Trelew.

Daeth y diwrnod i ben gydag ymweliad â fferm lle megir bustych Henffordd a diddorol iawn oedd y rhod ddŵr a oedd yn sicrhau cyflenwad o ddŵr i'r tir.

Diwrnod yr Eisteddfod
Diwrnod y bu hir ddisgwyl amdano oedd dydd Gwener, diwrnod yr Eisteddfod a barhaodd tan yn hwyr iawn.

Paratoi i gyhoeddi Eisteddfod Cynhaliwyd yr Eisteddfod mewn gymnasiwn a da oedd gweld Baner y Ddraig Goch yn chwifio ochr yn ochr a Baner yr Ariannin.

Teimlais fod yr agoriad yn drawiadol iawn. Canwyd Anthem Genedlaethol y wlad a bu gweddi gan y Parch Carwyn Arthur, brodor o Lanymddyfri ac yna bechgyn a merched yn dawnsio'r Tango.

Uchel oedd safon y cystadlaethau i gyd a da oedd gweld Elinor Bennett yn feirniad cerdd a'i phriod Dafydd Wigley yn gwmni diddan i bawb.

Bore Sul aed i Gapel Bethel y Gaiman i gael ymuno mewn Cymanfa.

Roedd y capel yn orlawn a nifer fawr yn gorfod aros y tu allan, ond yn ymuno â'r canu hyfryd serch hynny.

Roedd yno saith arweinydd - pump o'r Wladfa ac Elinor Bennett a Gwilym "Plas" Llwyndyrus o Gymru.

Y Mwynhau Eisteddfod y Wladfa n ystod yr oedfa cafwyd eitemau, un yr emyn ar y dôn Clawdd Madog a ganwyd gan enillydd yr unawd yn yr Eisteddfod, Hywel Williams o Landudno, ac unawd gan Nia, merch Gwilym "Plas".

Yn bresennol roedd, Dafydd Wigley, Elvey Macdonald a Hector Ariel Macdonald y trefnydd cerdd.

Ymhlith y rhai a ganwyd mewn hwyl tebyg i eiddo'r Diwygiad, i gyfeiliant organ tebyg i'r American Reed Organ, yn cael ei chwarae gan Ceris Gruffudd Aberystwyth - Ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin - oedd: Mae D'eisiau Di bob awr a Hapus Awr.

Canwyd rhai penillion yn Sbaeneg ac yn y Gymraeg ar yn ail a diddorol a bendithiol oedd clywed pawb yn canu Dyma gariad fel y moroedd ar Dôn y Botel wrth adael y capel.

Wedi'r canu brwdfrydig da oedd cael cyfle i fwynhau asado neu farbaciw mewn canolfan.

Gweld y morfilod
Bore Llun teithiasom i gyfeiriad Puerto Piramide yn Mhenryn Valdes er mwyn mynd ar fwrdd llong i'n cludo i weld y morfilod yn y bae a chael cyfle i dynnu lluniau ohonynt.

Ogofau lle dywedir i'r Cymry cyntaf gysgodi Ymlaen yr aethom i'r Borth Madryn i weld ble y glaniodd y Cymry oddi ar y llong Mimosa ar Orffennaf 28, 1865.

Gwelsom rai o'r ogofau lle bu i lawer ohonynt fyw am rai wythnosau. Profiad annifyr iawn i'r Cymry alltud, wedi edrych ymlaen, siŵr o fod, at gael gwell byd yno, nad oedd yn bosibl yn y Gymru dlawd bryd hynny.

Ardal ddigon diffaith oedd ardal Bryn Gwyn a welsom wrth deithio ar fore Mawrth.

Wedi cinio hanner dydd yn y Tŷ Gwyn fe'n cludwyd i ymweld âa'r Amgueddfa yn y Gaiman a'r Ysgol Gymraeg cyn dychwelyd i'r Tŷ Gwyn am de.

Dydd Mercher ,rhaid oedd gadael yn fore am Faes Awyr Trelew er mwyn hedfan y daith o ddwy awr i gyrraedd Buenos Aires ar gyfer y daith tuag adref.

Rhaid oedd aros am wyth awr am yr awyren a fyddai'n ein cludo i ddinas Madrid.

Wna'i ddim anghofio'r diwrnod hwnnw a minnau'n dathlu fy mhen-blwydd yn drigain oed.

Da o beth i ni fod Mair Edwards, arweinydd y parti, wedi trefnu parti i ni mewn gwesty moethus yn ninas Buenos Aires a hynny wedi lliniaru tipyn ar yr aros.

Gadawsom am ddeg o'r gloch y nos a chyrraedd Madrid am ddeg y bore drannoeth. Dilwyn Davies, Brechfa, a phengwins El Tombo Rhaid oedd mynd ar fwrdd awyren arall i'n cludo i Gatwick erbyn pedwar o'r gloch y prynhawn ond roedd hi'n dri o'r gloch fore Gwener pan gyrhaeddom dref Llandeilo ar ôl teithio gan gyfrif y gwahaniaeth o bedair awr rhwng amser Cymru ac amser y Wladfa, parhaodd y daith 38-awr.

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan ffrindiau a chymdogion a'r amlaf oedd; "Wnes ti fwynhau?" a'r ateb pendant yw; "Do mas draw."
Ac os daw cyfle am ymweliad arall fe fyddaf yn awyddus iawn i ddychwelyd.
Beth am i chi ddod gyda fi?






de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy