主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llwyddiant cynllun athrawon
Bu cynnydd rhyfeddol yn nifer y rhai sy'n mynd i ddosbarthiadau Cymraeg yn Y Wladfa ym Mhatagonia.


Wrth gyflwyno adroddiad am lwyddiant cynllun dysgu Cymraeg a sefydlwyd yno yn 1997 dywedodd yr Athro Robert Owen Jones wrth gyfarfod blynyddol Cymdeithas Cymru Ariannin yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005 fod 600 o bobl yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg bob blwyddyn yno.

Ond hyd yn oed wedyn dywedodd mai dim ond megis dechrau y mae'r gwaith o adfer yr iaith.

Dywedodd wrth aelodau Cymdeithas Cymru Ariannin i 730 o bobl o bob oed fynychu dosbarthiadau a gynhaliwyd gan athrawon o Gymru yn 2001.

Trafferthion economaidd
Fodd bynnag, yn sgil trafferthion economaidd yr Ariannin y blynyddoedd ers hynny, bu rhywfaint o ostyngiad yn y niferoedd.

Ond hyd yn oed wedyn, meddai, mae'r cyfartaledd yn 600 y flwyddyn.

"Yn 2004 yr oedd yna 57 o ddosbarthiadau yn cyfarfod rhwng un a phedair gwaith yr wythnos.

"Yr oedd hynny 125 awr yr wythnos o ddosbarthiadau Cymraeg gyda'r rhai oedd yn eu mynychu yn amrywio o ddwy i 80 oed," meddai.

Cyfle i siarad
Er y gellir disgrifio nifer o fynychwyr y dosbarthiadau hyn yn ddysgwyr y mae eraill yn siaradwyr Cymraeg rhugl yn manteisio ar y cyfle i gymysgu a'i gilydd drwy gyfrwng y Gymraeg.

"A chael rhywbeth na chawson nhw ddim yn ystod eu mebyd eu hunain," meddai am yr aelodau hynaf o'r dosbarthiadau.

Heb amheuaeth y prif sbardun i'r diddordeb newydd yn y Gymraeg ym Mhatagonia yw cynllun a weinyddir gan y Cyngor Prydeinig i anfon athrawon Cymraeg yno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfrannu at y gost.

Ar hyn o bryd mae hysbyseb yn y wasg am dri o athrawon newydd ar gyfer 2006.

Ysgolion meithrin
Yn sgil gweithgarwch athrawon dros y chwe blynedd ddiwethaf dywedodd Robert Owen Jones, sy'n arolygu'r gwaith ar ran y Cynulliad, fod ysgolion meithrin "wedi ennill eu tir" yn sylweddol gyda'r oriau dysgu wedi ymestyn o dair awr yr wythnos i 13 awr.

Ar ben hynny dywedodd fod pob disgybl mewn dwy ysgol uwchradd yn cael gwersi Cymraeg wythnosol ac y mae gweithgarwch pellach mewn ysgolion cynradd.

"Y mae hyn yn rhywbeth na fyddai wedi gallu digwydd ddeng mlynedd yn ôl yn Y Wladfa," meddai.

Teyrnged i athrawon
Talodd deyrnged hael i'r gwaith a gyflawnwyd gan yr athrawon Cymraeg sydd wedi treulio cyfnodau yn amrywio o flwyddyn i ddwy flynedd yno.

"Mae yna lot o bethau yn codi calon dyn ," meddai Robert Owen Jones gan gyfeirio at y modd y mae holl gymdeithaseg y Gymraeg wedi newid.

"Erbyn heddiw mae'r hen syniad o israddoldeb a chywilydd o fedru siarad Cymraeg wedi mynd - mae llawer mwy o barch at yr iaith erbyn hyn," meddai.

"Ond dydi'r gwaith ddim yn dalcen hawdd ac mae'r athrawon wedi gwneud yn arbennig o dda efo adnoddau prin ryfeddol.

"Nid mater hawdd yw mynd allan yno. Y mae'n fater o newid patrwm bywyd yn gyfangwbl," meddai.

Gallai'r patrwm hwnnw olygu cynnal dosbarth cyntaf y dydd rhwng saith a naw y bore a'r olaf cyn hwyred â naw y nos," meddai.

Nid chwarae
"Ac y mae llawer mwy o waith i'w wneud eto," rhybuddiodd.

"Nid yno i chwarae efo'r iaith y maen nhw ond yno i greu pobl ddwyieithog," meddai gan ychwanegu fod ymestyn gweithgareddau cymdeithasol yn y Gymraeg yn rhan o'r her hefyd.

Ond yr oedd yn amlwg oddi wrth ei anerchiad fod ymdeimlad o'r Gymraeg yn mynd o nerth i nerth mewn rhan o'r byd lle yr oedd i bob diben wedi marw ar un adeg gyda thuedd ymhlith rhieni'r pumdegau i wrthod trosglwyddo'r iaith i'w plant gan beri i'r iaith droi yn un gyfrinachol bron ac un i osgoi ei harddel yn gyhoeddus.

Pan dreuliodd Robert Owen Jones flwyddyn yn astudio'r Gymraeg yno yn 1973-4 fe'i hargyhoeddwyd ei fod yn dyst i'w marwolaeth.

Mor wahanol yw pethau heddiw gyda hyd yn oed rhai nad ydynt o waed Cymreig yn mynychu dosbarthiadau.

Tair blynedd i ddechrau
Sefydlwyd y Cynllun Dysgu Cymraeg sydd mor llwyddiannus am dair blynedd yn 1997 ond bu mor llwyddiannus y mae'n awr wedi ei ymestyn hyd at ddiwedd 2008.

Bob blwyddyn mae'r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia yn tynhau.

Ond gofidiodd Robert Owen Jones fod y gyllideb ar gyfer y cynllun yn parhau yr un heddiw ag oedd yn 1997.

"Mae angen mwy o gyllideb," meddai.

Cyn dyfodiad y Cynllun Dysgu Cymraeg yn '97 bu gwirfoddolwyr fel Cathrin Williams a Gwilym Roberts yn cynnal dosbarthiadau ac yn braenaru'r tir.




de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy