主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ysgol y Dreigiau Bach
Cofio un mlynedd ar ddeg sefydlu Ysgol Feithrin Y Ddraig Fach yn Nhrelew

Un mlynedd ar ddeg yn ôl, ym mis Mawrth 1996, agorwyd yr ysgol feithrin gyntaf yn Nhrelew, ysgol feithrin Y Ddraig Fach.

Arloeswyr y fenter Yr oedd hwn yn ddechrau tymor o addysg Gymraeg sydd wedi parhau hyd heddiw diolch i fenter rhieni awyddus yn cynnwys; Sandra Jones de Hugas, Adriana Roberts a Jorge Pfleger, Violeta Brooks de Roberts a'i brawd George, Daniel Aphesbero a'i wraig, Waldo Williams a Fabiana González, Alejandra González (a'u rhieni yn gydweithwyr dibynadwy: Rudy a Norma), Dona Hughes, Ana Davies de Rosetto a'i nain, Proserpina Morgan de Davies, yn bresennol ar gyfer yr agoriad, a'i rhieni, Ansel a Celia, parod eu cymorth yn wastad, Rhona Lloyd a Leandro Secchi,

Cafodd gwisg ysgol o goch, gwyrdd a gwyn, sy'n adlewyrchu pwrpas addysgiadol yr ysgol o feithrin iaith a diwylliant Cymru, ei llunio gan y rhieni a'r athrawes a'r un cynllun sy'n cael ei ddefnyddio gan ysgol yr newydd yr Hendre a agorwyd yn ddiweddar yn Nhrelew.

Yn y dosbarth Ariannwyd yr ysgol feithrin wreiddiol trwy daliadau gan y rhieni a derbyniwyd rhoddion o ddeunydd addysgiadol a cherddorol gan gwmnïau fel Y Lolfa a Sain yng Nghymru.

Ar gyfer prynu deunydd dechreuol a dodrefn cafwyd rhodd gan Delith Pugh de Jones o'r Gaiman.

Mewn quincho - adeilad tu allan i'r tŷ ar gyfer defnydd dyddiol - o eiddo'r athrawes, yn ardal San Davíd (Dewi Sant) yn Nhrelew, dechreuodd Mónica Jones de Jones y gwaith o hadu'r diwylliant Cymreig, gyda chymorth ei gŵr, Gwyn, a'u merch Geraldine.

Bu'r dosbarthiadau yn llwyddiannus iawn a buan oedd y plant yn adrodd ac yn canu'r Gymraeg mewn nosweithiau llawen ac eisteddfodau lleol yn Y Gaiman ac yn Nhrelew.

Mae angen diolch hefyd i May Williams de Hughes a gyfrannodd yn frwdfrydig.

Trosglwyddwyd yr ysgol feithrin i ddwylo Cymdeithas Dewi Sant wedi i Mónica a'i theulu ymfudo i Gymru am gyfnod yn 1997.

Peth da yw cofnodi'r atgofion am yr ysgol feithrin cyn iddynt fynd ar goll a diolch i'r llond llaw o rieni, rhai ohonynt heb gysylltiad o gwbl â Chymru, am wneud diwylliant a iaith Cymru yn rhan o'u hunaniaeth Patagonaidd.

Dreigiau bach cyntaf yr ysgol feithrin oedd Adriana Apehesbero, Adriana Pfleger, Juan Pfleger, Ainara Hugas, Glyn Williams, Nicolás González, Leandro Ruy Secchi Lloyd, Leila Mauriz, Francisco Rossetto Davies a Maia Garzonio.






cysylltiadau
  • Agor ysgol newydd

  • de america

    Yr Ariannin
    Apel am pesos coch y delyn

    Newyddion y Gaiman

    Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

    Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

    Ymweliad criw Ystradgynlais

    Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

    Eisteddfod Trevelin 2004

    Taith côr i ymweld â gwreiddiau

    Newyddion

    Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

    Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

    Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

    Kyffin Williams ym Mhatagonia

    Marw Ieuan May Jones

    Agor Ysgol yr Hendre

    Chwilio am wreiddiau

    Newyddion Gorffennaf 2006

    Taith bro'r Gadlas

    Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

    Teyrnged i ffotograffydd blaengar

    O Batagonia i wlad ei dadau

    Llwyddiant cynllun athrawon

    Darlith i gofio Lewis Jones

    Diwrnod y gêm

    O Grymych i Ariannin

    Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

    Hwb i ddawns y glocsen

    Angen cymorth yn Nhrelew

    Croesawu ymwelwyr

    Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

    Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

    Cofio'r croesawydd siriol

    Newyddion Rhagfyr

    Newyddion Mehefin 2006

    Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

    Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

    Cofio Moelona

    Cofio'r Mimosa

    Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

    Ysgol feithrin

    Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

    Newyddion Mawrth 2006

    Marw Marta Rees, Plas y Coed

    Marw Mair Davies

    Ethol Cymro yn faer

    Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

    Yn y llwch a'r lludw

    Cyfarfod Karen a Glyndŵr

    John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

    Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

    O Fro Dinefwr i'r Wladfa

    Enw newydd i ysgoloriaeth

    Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

    Aelodau newydd
    Gorsedd y Wladfa 2008


    Cofio Virgilio Horacio González

    Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

    Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

    Gŵyl y Glaniad 2005

    Pecynnau i ysgolion

    Darganfod y Gymraeg

    Eisteddfod 2007

    Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

    Ysgol y Dreigiau Bach

    Cinio blynyddol

    Croeso i gylchgronau Cymraeg

    Ymweliad Cor Merched y Gaiman

    Marw cerddor neilltuol

    Ysgol Trelew

    Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

    Cadair y Wladfa 2005

    'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

    Cyhoeddi hanes Bethlehem

    Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

    Athrawon 2007

    Arwyddion dwyieithog

    Colli bardd swynol

    Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

    Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

    Paratoi i ddathlu canrif a hanner

    Mimosa - canmol y fenter

    Y Mimosa

    Maradona:

    Lluniau Patagonia

    Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

    Sgrech y dathlu!

    Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

    Cofio Fred Green

    Edrych ymlaen at lanolin

    Profiad Patagonia

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Dafydd Du ym Mhatagonia

    Nadolig yng ngwres yr haf

    Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

    Ymweliad Côr y Wladfa

    Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy