主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Tom Gravell Enw newydd i ysgoloriaeth
Enwi ysgoloriaeth er cof am gyfaill mawr i'r Wladfa

Bydd 'Ysgoloriaeth y Wladfa', Coleg Llanymddyfri, yn cael ei hadnabod fel Ysgoloriaeth Tom Gravell o hyn allan.

Y mae hyn er cof am un o gyfeillion mawr y Wladfa yng Nghymru ac un a oedd yn uchel ei barch ymhlith Cymry Patagonia.

Bu farw Tom Gravell o Gydweli yn 2004 yn dilyn gwaeledd hir.

Uchel ei barch
Ond er gwaethaf ei waeledd llwyddodd i ymweld â'r Wladfa 13 o weithiau i gyd.

Hynny, er yr ofnai yn ystod ei unfed ymweliad ar ddeg yn 1999 mai hwnnw fyddai ei ymweliad olaf oherwydd cyflwr ei iechyd.

Yr oedd ei gariad tuag at Gymry Patagonia yn angerddol a'u parch hwythau iddo yntau yr un mor gynnes.

Y bobl
Dywedai mai'r bobl oedd yn gwneud y Wladfa yn lle mor arbennig.
"Y bobl yn fwy na dim sy'n fy nhynnu yn ôl yma ond mae yna hefyd ambell i lecyn lle mae'r hen baith yn agor ei law i fy nghroesawu i hefyd - ond cyfeillgarwch y bobl yn fwy na dim arall ydi'r dynfa ac edmygedd o'r ymdrech fawr a wnaeth y gwladfawyr cynnar," meddai yn ystod un o'i ymweliadau diwethaf.

Bydd llawer yn croesawu penderfyniad Coleg Llanymddyfri i enwi Ysgoloriaeth y Wladfa er cof am y gŵr a wnaeth gymaint yn y Saithdegau a'r Wythdegau i adeiladu a chryfhau y cysylltiadau rhwng Cymru a'r Wladfa.

Pasg 2007
Fel rhan o'r Ysgoloriaeth bydd ei fab, David Gravell, Cydweli, yn talu costau'r daith awyren yn y dyfodol.

"Mae'r Coleg yn ddiolchgar iawn i David sy'n hen ddisgybl ac yn awr yn ymddiriedolwr," meddai Glyn Evans o'r coleg.

Ar hyn o bryd mae Mr Evans mewn cysylltiad â Luned Gonzalez a Camilla Irianni ym Mhatagonia ar gyfer dewis y nesaf i dderbyn Ysgoloriaeth a threulio tymor y Pasg 2007 yn Llanymddyfri.

Y cyntaf
  • Yng Nghymru daeth Tom Gravell i amlygrwydd fel gwerthwr ceir. Sefydlodd fodurdy Gravells yng Nghydweli ym 1932. Ef oedd y cyntaf i werthu ceir Renault yng Nghymru ac mae'r busnes hwnnw yn parhau yn un llewyrchus.
    Gwerthodd ei gar Renault cyntaf, ddydd Gŵyl Dewi 1954.

    Dechreuodd ei yrfa mewn sied fechan fel contractor a gwerthwr glo gan lywio ei fusnes i fod yn un o werthwyr ceir mwyaf y gorllewin ac, erbyn hyn, y cwmni a fu'n gwerthu ceir Renault hira ym Mhrydain.

    Derbyniodd yr MBE yn 1998.
    Roedd Mr Gravell, a oedd yn 91 oed pan fu farw, yn flaenor yng Nghapel Morfa er 1947 a bu'n faer Cydweli ddwywaith.






  • de america

    Yr Ariannin
    Apel am pesos coch y delyn

    Newyddion y Gaiman

    Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

    Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

    Ymweliad criw Ystradgynlais

    Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

    Eisteddfod Trevelin 2004

    Taith côr i ymweld â gwreiddiau

    Newyddion

    Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

    Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

    Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

    Kyffin Williams ym Mhatagonia

    Marw Ieuan May Jones

    Agor Ysgol yr Hendre

    Chwilio am wreiddiau

    Newyddion Gorffennaf 2006

    Taith bro'r Gadlas

    Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

    Teyrnged i ffotograffydd blaengar

    O Batagonia i wlad ei dadau

    Llwyddiant cynllun athrawon

    Darlith i gofio Lewis Jones

    Diwrnod y gêm

    O Grymych i Ariannin

    Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

    Hwb i ddawns y glocsen

    Angen cymorth yn Nhrelew

    Croesawu ymwelwyr

    Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

    Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

    Cofio'r croesawydd siriol

    Newyddion Rhagfyr

    Newyddion Mehefin 2006

    Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

    Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

    Cofio Moelona

    Cofio'r Mimosa

    Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

    Ysgol feithrin

    Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

    Newyddion Mawrth 2006

    Marw Marta Rees, Plas y Coed

    Marw Mair Davies

    Ethol Cymro yn faer

    Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

    Yn y llwch a'r lludw

    Cyfarfod Karen a Glyndŵr

    John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

    Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

    O Fro Dinefwr i'r Wladfa

    Enw newydd i ysgoloriaeth

    Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

    Aelodau newydd
    Gorsedd y Wladfa 2008


    Cofio Virgilio Horacio González

    Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

    Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

    Gŵyl y Glaniad 2005

    Pecynnau i ysgolion

    Darganfod y Gymraeg

    Eisteddfod 2007

    Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

    Ysgol y Dreigiau Bach

    Cinio blynyddol

    Croeso i gylchgronau Cymraeg

    Ymweliad Cor Merched y Gaiman

    Marw cerddor neilltuol

    Ysgol Trelew

    Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

    Cadair y Wladfa 2005

    'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

    Cyhoeddi hanes Bethlehem

    Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

    Athrawon 2007

    Arwyddion dwyieithog

    Colli bardd swynol

    Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

    Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

    Paratoi i ddathlu canrif a hanner

    Mimosa - canmol y fenter

    Y Mimosa

    Maradona:

    Lluniau Patagonia

    Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

    Sgrech y dathlu!

    Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

    Cofio Fred Green

    Edrych ymlaen at lanolin

    Profiad Patagonia

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Dafydd Du ym Mhatagonia

    Nadolig yng ngwres yr haf

    Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

    Ymweliad Côr y Wladfa

    Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy