主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Croeso ym Mhlas y Coed: Y Parchedig Arthur Meirion Roberts, Rhys Meirion Roberts, Gwyn Rees, Hazel Charles Evans a Marta Rees, Ionawr 1994 Marw Marta Rees, Plas y Coed
Storm o wraig mewn corff eiddil

Ddydd Sul, Medi 10, 2006, bu farw Marta Rees, y Gaiman.

Ie, Marta Rees, y Gaiman, ond cafodd ei magu'n rhannol yn Comodoro gan i deulu yno ei chymryd atynt wedi marw ei mam.

Afrikaans oedd iaith y teulu hwnnw a dyna ail iaith Martha, gyda Saesneg yn drydedd iaith a Chymraeg yn cloffi yn y gynffon.

Yn y cyfnod pan oedd Marta'n ifanc roedd llawer o fechgyn o'r Dyffryn yn gweithio yn Comodoro Rivadavia, ac yn eu plith Gwyn Rees, yr oedd ei fam yn berchen tŷ te Plas y Coed, y Gaiman. Dyma briodi, ac ymhen blynyddoedd, a Dilys Jones, mam Gwyn, bellach wedi marw, ddod yn ôl i'r Gaiman a rhedeg y tŷ te.

Dod yn enwog
Yno y bu Gwyn a Marta am flynyddoedd a daeth Plas y Coed yn enwog drwy'r ardal ac yng Nghymru am ei groeso cynnes, ei fwyd ardderchog a'i ardd oedd gyda'r brydferthaf yn y Dyffryn.

Yn wir, deuai pobl yno yn unswydd er mwyn tynnu lluniau'r blodau y bu Gwyn mor ddyfal yn eu tyfu.

Ond Marta oedd brenhines y gegin a'r tebot! Unwaith yr oedd y bara menyn wedi ei dorri doedd dim yn rhoi mwy o bleser i Marta na mynd trwodd i'r ystafell fwyta i siarad efo'r ymwelwyr. Ac unwaith y dechreuai siarad doedd dim pall ar y sgwrsio.

Croeso anghyffredin
Bu'n freuddwyd gan y ddau agor gwesty bach ond Marta ei hun orffennodd y gwaith hwnnw ar ôl marw Gwyn ac yno y cafodd rhai cannoedd o Gymry lety a chroeso anghyffredin.

Nid dim ond gwely a brecwast roddai Marta iddyn nhw. O na, roedd yn llenwi'r oergell fechan â danteithion fel mafon neu deisen fach, a hynny heb godi ceiniog yn ychwaneg amdanyn nhw.

Colli ei golwg
Roedd Marta'n storm o wraig mewn corff digon eiddil, yn taranu'n aml yn erbyn hyn a'r llall, ac yn erbyn hwn a'r llall, hefyd, ond roedd yna galon gynnes iawn o dan y gwgu mawr!

Fe gefais i, fel llawer un arall, lond gwlad o garedigrwydd ganddi hi.
Oes ryfedd, felly, a hithau bellach yn drist ac unig, wedi colli ei golwg fwy neu lai yn llwyr, i gyfeillion ifanc iddi yn y Gaiman agor cronfa er mwyn iddi gael triniaeth yn Buenos Aires?

Bu'r ymateb i'r cais am arian yn anhygoel yn y Dyffryn ac yng Nghymru hefyd, a ddechrau fis Mawrth eleni cafodd Marta cornea newydd a'i galluogodd i weld tua 30%.

Does dim rhaid dweud ei bod wrth ei bodd ac er na chafodd fyw yn hir wedi hynny, bu gallu gweld ychydig unwaith eto, ynghyd â sylweddoli fod gan gymaint o bobl ar ddwy ochr yr Iwerydd feddwl mawr ohoni, yn foddion i adfer peth o'i hen ysbryd a'i hurddas.

Cymeriad
Fel y dywedais, rhyw gloffi yn y gynffon ar ôl tair iaith arall wnâi Cymraeg Marta Rees ond ni fu neb erioed yn fwy cefnogol i bopeth Cymreig.

Bydd bwlch mawr iawn ble bu'r wraig fach hon, a hynny ymysg cymdeithasau ac unigolion a elwodd o'i haelioni mawr.

Mae cymeriadau'n brin a chyda marw Marta dyna golli un a lwyr haeddodd ei galw'n 'gymeriad'.
Cathrin Williams




de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy