主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dafydd Du ym Mhatagonia Dafydd Du ym Mhatagonia
Bwthyn, gwin rhad, Llyn y Gadair a sugno dwr trwy faco!

Tair rhaglen radio mewn tair wythnos - dyna nod Dafydd Du pan aeth i'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn ddiweddar.

-Rhaglen ddogfen am blant a phobol ifanc a'u hagwedd at y Gymraeg,
- Sioe o Asado - sef barbiciw Cymry Patagonia - ac
- Uchafbwyntiau'r Eisteddfod flynyddol.

"Taith mewn dau dacsi, dau fws, dwy awyren ac un picyp a barhaodd 35 awr ac yr oeddwn wedi cyrraedd y Gaiman," meddai Dafydd.

Calon Lân
ar yr awyren

"Un o uchafbwyntiau'r daith? Roeddwn i ar yr awyren o Buenos Aires i Drelew ac fe eisteddodd dynes ganol oed o'r enw Silvia wrth fy ymyl.

"Rywsut, deallodd mod i o Gymru ac fe fynnodd ganu Calon Lân i mi. Dwi ddim yn meddwl fod ganddi yr un dafn o waed Cymraeg a doedd gen i ddim digon o Sbaeneg i wybod sut ac ymhle y dysgodd hi'r emyn. Ond fe'i canodd yn ddigon da.

"Roedd y paith yn sych ag yn faith a'r croeso - fel y tywydd - yn gynnes. Ail sioc y daith oedd clywed record o Hogia'r Wyddfa ar y radio - sioc anferthol.

Adfywiad yn cychwyn

"Roedd y Gymraeg i'w chlywed ac arwyddion yn yr iaith i'w gweld ond teimlo roeddwn i ar ddechrau'r daith mai cychwyn mae'r adfywiad a bod llawer o ffordd i fynd.

"Treuliais fy noson gynta yn Y Dafarn Las ac er mor felys y cwrw Quilmers ac er mor ddifyr y cwmni roeddwn i wedi blino'n lân a gorfod mynd i 'ngwely'n gynnar - tua phump y bore oedd hi!

Dydy pobol ddim yn mynd i'w gwelyau mor gynnar ym Mhatagonia - ond maen nhw'n cael siesta yn y prynhawniau!

"Y daith nesa oedd o'r Dyffryn fyny i'r Andes. Rwan 'mod i wedi blasu'r gwin rhad roeddwn i'n ysu am flasu'r Maté - ewadd stwff sur. Fel sugno dwr drwy faco!

Pawb yn sugno fo drwy welltyn o gwpan a'i basio fo o un i'r llall. Doedd o ddim yn beth hygienic iawn am wn i. Petae dolur gwddf gan un person, maen siwr gen i y bydde pawb yn cael dolur gwddf.

Mewn bws dros y paith

"Yr ail wythnos, aethon ni mewn bws ar hyd y Paith. Maen nhw'n dweud na fedrwch chi werthfawrogi'r Paith onibai eich bod chi mynd mewn bws. Naw awr a hanner o daith. Dwi'n cofio Rhyd-yr-Indiaid - byddai Clint Eastwood yn ymddangos yn ddigon cartrefol yno.

"Daeth plismon mewn i'r bws a dod yn fygythiol ata i - fe gês i dipyn o fraw ond wedi iddo weld fy mhasport i roedd e'n llawer mwy cyfeillgar.

"Syndod mawr oedd canfod mor debyg yw'r Andes i'r Wyddfa - onibai bod dim parotiaid gwyllt na phiwmas ar ochrau'r Wyddfa.

"Un o ryfeddodau'r daith oedd sefyll wrth ymyl Llyn Brychan uwchben Trefelin a deall yn union sut y cafodd Cwm Hyfryd yr enw. Wedi bod mewn bws am bron i ddeng awr yn teithio ar draws y paith sych roedd gweld y cwm gwyrddlas yn fendigedig.

"I'r Cymry wedi taith o dri mis, mae'n siwr ei bod yn olygfa ryfeddol.

"Cawson ni groeso gynnes yn Esquel a Threfelin ond wedi tridiau roedd yn rhaid symud ymlaen unwaith eto.

Bechgyn Y Bwthyn

"Yn y Gaiman fe gês i'r profiad o ymweld â chymdeithas dynion Y Bwthyn. Maen nhw'n cwrdd bob nos Wener, pob un yn cyfrannu pum peso tuag at gynnal ty yr athrawon Cymraeg. Fe gawson ni asado (arall), jwg fawr o win a mwynhau sgwrs a chân i gyfeiliant gitâr.

"Dim ond dau oedd heb rywfaint o waed Cymreig - ond pob un yn dallt rywfaint o'r iaith.

"Ar ôl sawl gwydriad o win fe gytunais i adrodd Llyn y Gadair, T. H. Parry-Williams - ac fe wnes i hynny gydag angerdd. Diolch i'r gwin!


"Mae pawb yn gwybod yn iawn pryd i stopio yfed - does byth ddim meddwi yn y Wladfa.


Yn yr Eisteddfod

"Yr wythnos ola aethon ni i'r Eisteddfod yn Nhrelew. Roedd cystadlaethau llefaru a chanu yn Gymraeg a Sbaeneg. Roedd hyn yn rhyfedd - roedd llawer mwy o angerdd yn y canu Cymraeg nag yn canu Sbaenaidd. Ond yn y cystadlaethau adrodd roedd y llefaru yn llawer mwy cynnil yn y Gymraeg ac yn hwyliog dros ben yn y Sbaeneg.

"Bu'n ddiwrnod ofnadwy o brysur, rwy'n siwr i mi gyfweld tua 30 o bobol - yn feirniaid, bardd y Gadair a chystadleuwyr.

"Ac yr oedd hi'n noson hwyr fel hen Eisteddfodau lleol yng Nghymru - tuag un o'r gloch y bore. Yr unig wahaniaeth oedd fod pawb yn lle mynd adre yn mynd ymlaen i dafarn neu i neuadd am fwyd a'r hwyl yn parhau tan tua saith o'r gloch y bore.


Diweddu lle bu dechrau'r daith

"Daeth y tair wythnos i ben gydag ymweliad â Phorth Madryn - profiad swreal. Y fi yn gorffen fy nhaith lle dechreuodd taith y Gwladfawyr.

Yr oedd yn brofiad eitha emosiynol o wybod be ddigwyddodd i'r Cymry.

"Mae hi yn sicr yn stori o lwyddiant o dan amgylchiadau sy'n swnio'n ofnadwy. Ac y mae ôl y Gymraeg a diwylliant Cymru mor amlwg ar ardal mor fawr."






de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy