主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Lewis Jones Cofio Lewis Jones yn y Wladfa
Cathrin Williams, ar ymweliad â'r Wladfa ym Mhatagonia, yn sôn am gyfarfodydd i nodi canmlwyddiant marw Lewis Jones - yr amlycaf a'r mwyaf dylanwadol o'r gwladfawyr cynnar.


Pobl Patagonia yn cofio arloeswr
Ddydd Gwener, Tachwedd 26, roedd Trelew, Rawson a Moriah yn Nyffryn Camwy, Chubut, yn cofio marw un o'i sylfaenwyr a'r un a weithiodd yn galetach na neb, efallai, tuag at lwyddiant y fenter fawr o sefydlu Gwladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Eraill a gafodd y freuddwyd ond Lewis Jones oedd yno ym mhwys a gwres y dydd yn ceisio sicrhau fod y breuddwydion yn troi'n wirioneddau ymarferol.
Iddo fo mae'r diolch fod y rhan fwyaf o'r Cymry a ymfudodd i'r Wladfa yn y flwyddyn 1865 wedi aros yno.

Cant a mil
Gwnaeth gymaint dros y Wladfa newydd hon, gan fod yn lladmerydd rhyngddi a'r llywodraeth yn Buenos Aires, cychwyn dau bapur newydd y mae un ohonyn nhw, Y Drafod, yn fyw hyd heddiw, rhoi cychwyn 'r syniad o reilffordd i gysylltu'r Dyffryn a'r porthladd ym Madryn er mwyn hyrwyddo masnach, a chant a mil o bethau eraill.Teg iawn felly, ar ganmlwyddiant ei farw, bod y bobl yma yn ei gofio gyda chryn dipyn o rwysg a balchder.

Bu'r seremoni gyntaf yn yr ysgol yn Nhrelew y rhoed arni enw Lewis Jones, gyda rhai o bwysigion y dref a'r cymdeithasau lleol, ynghyd â phlant yr ysgol, yn cymryd rhan.

Fel sy'n arferol mewn seremoni o'r fath roedd baneri Cymru ac Ariannin yn amlwg iawn yma fel ym mhob un arall o'r prif seremonïau, a chanwyd anthem genedlaethol y ddwy wlad.

Drwy gydol y dydd cafwyd areithiau yn sôn am gyfraniad Lewis Jones, ac yn sicr, byddai pawb oedd wedi mynychu pob seremoni yn gwybod y cyfan amdano erbyn diwedd y dydd.

Ar dir yr ysgol hon mae cerflun o ben Lewis Jones ac yma gosodwyd torch o flodau.

Munud o ddistawrwydd
Er mai i Drelew y rhoddwyd enw Lewis Jones, Rawson, neu Trerawson fel yr oedd ar y dechrau oedd sefydliad cyntaf y Cymry, ac yno yng Nghapel Berwyn, y cynhaliwyd y seremoni nesaf a hynny yn yr awyr agored.

Digon tebyg oedd y patrwm yma, ond yn ogystal â'r hyn a gafwyd yn Nhrelew fe ostyngwyd y baneri oedd ar y polyn y tu allan i'r capel a chael munud o ddistawrwydd er cof cyn eu codi eilwaith.

Wedi'r seremoni swyddogol aeth pawb i mewn i'r capel i gynnal gwasanaeth byr, ble cafwyd ychydig o eiriau mwy personol am Lewis Jones gan ei or-wyres, Luned Roberts de González.

Dadorchuddio plac
Erbyn hyn, roedd y bore drosodd ond nid felly'r cofio.
Yn Nhrelew, am bump o'r gloch, dadorchuddiwyd plac ar dalcen y tŷ ble bu Lewis Jones yn byw a ble sefydlodd Eluned Morgan, ei ferch, ysgol.

Ychydig oedd y rhai a ddaeth ynghyd yma yng ngwres y dydd ond roedd y dadorchuddio yn urddasol yn ei symlrwydd.

Cyfarfod ola'r dydd oedd un yng Nghapel Moriah.
Yma, yn y fynwent ble gorwedd cymaint o'r hen wladfawyr, y mae bedd Lewis Jones a'i wraig ac yma y gosodwyd torch o flodau gan rai o'i ddisgynyddion.

Digon tebyg oedd y gweithgareddau y tu allan i'r capel, ac yma eto, ar ôl y seremoni cafwyd gwasanaeth byr yn y capel ei hun. Hyfryd oedd gweld tair o or- or- wyresau Lewis Jones yn canu dau emyn, un ohonyn nhw yn y Gymraeg.

Teimladau cymysg
A'r argraff a gafodd hyn oll ar un o Gymry oedd yn ddigon ffodus i fod yma yr amser iawn?
Cymysg oedd y teimladau ar ddiwedd y dydd. Roedd siom o weld nad oedd mwy o bobl yn barod i dalu eu gwrogaeth i ddyn mor fawr ac mor amlwg, un na fyddai'r Wladfa'n bod oni bai amdano.

Tybed beth fyddai'r gwron yn ei ddweud am y diffyg Cymraeg yn yr holl weithgareddau?

Siaradodd neb air ohoni, dim ond canu pennill o ambell emyn a'r anthem genedlaethol.

Oedd, wrth gwrs, roedd yno nifer fawr nad oedden nhw'n deall Cymraeg, ond mae'n amlwg nad ydi'r meddylfryd o wneud pethau'n ddwyieithog ddim wedi cyrraedd Y Wladfa.

Gobeithio nad ydi Lewis Jones yn troi yn ei fedd, druan!






cysylltiadau


de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy