主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Monica Eisteddfod 2007
Mónica'n ennill y gadair yn Eisteddfod Y Wladfa

3 a 4 Tachwedd 2007
Mónica Jones a enillodd gadair Eisteddfod Y Wladfa eleni.

Dyma'r ail dro iddi gael ei chadeirio.

Wedi ei geni a'i magu ym Mhatagonia mae Mónica yn briod â Gwyn Jones sydd wedi symud o Gymru i fyw yn Y Wladfa.

Cân actol
Yn ôl yr adroddiadau bu'r Eisteddfod flynyddol sy'n cael ei chynnal yn Nhrelew yn un llwyddiannus iawn ac ymhlith y cystadlaethau a aeth a bryd y gynulleidfa yr oedd cystadleuaeth cân actol gyda'r Gaiman yn cyflwyno Tôn y Melinydd mewn gwisgoedd da iawn i gynrychioli gwartheg, defaid, cwpwrdd, mochyn tew ac ati.

Ysgrifennodd Criw Trelew eiriau gwreiddiol yn sôn am y berthynas rhwng Cymru a Phatagonia gan gyfeirio at briodasau diweddar; Dewi Wyn a Liliana, Catrin a Milton, Tito ac Ann Marie er enghraifft.

Seremoni'r CadeirioYn y gân darluniwyd teulu o Gymru yn dod i'r Wladfa i chwilio am gariadon i'w mab a'u merch ac athrawesau Ysgol Yr Hendre, Trelew, yn paredio o flaen y bachgen i'w ddenu ac amryw o ddynion am ddenu'r ferch.

Dyfarniad y beirniad oedd: 97 marc i'r Gaiman a 97 a hanner i Drelew.

Wyth ymgeisydd
Ar y Sadwrn yr oedd defod y Cadeirio gyda Mónica Jones a fu'n byw yn y Gaiman ac yng Nghymru ond sy'n awr yn byw yn Esquel yn fuddugol gyda'i cherdd Alawon y Gwynt allan o wyth o ymgeiswyr.

Nid oedd teilyngdod yn nghystadleuaeth y Goron.

Yn ystod yr un eisteddiad trosglwyddodd Elvey Macdonald dystysgrifau i rai a fu'n fuddugol yng nghystadleuaeth Y Wladfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru.

Anrhydeddwyd Cymdeithas Cymru- Ariannin hefyd gyda'i chadeirydd, Gruff Roberts yn cadeirio'r cwrdd pnawn. Cystadlaethau llewyrchus oedd un y côr teulu a'r gystadleuaeth emyn hunan ddewisiad efo Billy, Marcelo G., Roberto Jones ac Andrés Evans yn cystadlu gyda Roberto yn fuddugol yn canu Finlandia "yn effeithiol a chynnil".

Fel pob eisteddfod dda yn Y Wladfa yr oedd yn hwyr y nos ar bethau'n dirwyn i ben ac yr oedd nifer o eitemau o safon uchel yn y Gymraeg yn ogystal â'r Sbaeneg.

Y corau
Bu tri chôr yn cystadlu yn yr ail gystadleuaeth gorawl yn Gymraeg: 1 - Gaiman; 2 - Universitario Trelew dan arweiniad Sonia Baliente; 3 - Cordillera ( Trevelin ac Esquel) dan arweiniad Glenda Powel.

Dau gôr meibion fu'n cystadlu a'r dôn oedd Myfanwy: 1 Gaiman; 2 Madryn dan arweiniad Judith Williams.

Cymanfa
Yn dilyn, yn ôl y drefn arferol, bu cymanfa ganu wych y bore Sul canlynol ym Methel, y Gaiman gyda Mari Morgan - gynt o Lanelli ond yn awr o'r Unol Daleithiau - a Gwyn Williams yn arwain.

Mae Mari Morgan yn gobeithio dod a chôr Cymraeg America i'r Ariannin y flwyddyn nesaf..






de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy