主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clydwyn ap Aeron Jones a'i briod Marw cerddor neilltuol
Bu farw Clydwyn ap Aeron Jones, cerddor blaenllaw yn Y Wladfa

Ionawr 14, 2008
Teyrnged Catrin Morris

Collodd y Wladfa un o'i hanwyliaid ac un o'i chewri ym marwolaeth Clydwyn ap Aeron Jones.
Roedd ei gorff yn lluddedig ac roedd hi'n amser rhoi'r gorau i frwydro yn erbyn natur.

Ond mae ei gymar, Alicia, ei frawd bach, Dewi Mefin, e'i deulu i gyd a'n cymuned fach ni yma yn Nyffryn Camwy a'r Ariannin yn gweld bwlch a cholled ar ei ôl.

Athro cerdd
Roedd yn 95 oed ac wedi treulio ei fywyd yn dysgu am ac yn addysgu am gerddoriaeth.

Roedd yn aelod o Orsedd y Beirdd ers y Pumdegau pan oedd yn astudio yn Llundain ac fe safodd arholiadau'r Orsedd yr adeg honno.

Bu'n dysgu yn un o ysgolion pwysicaf Buenos Aires ac mae ei drefniannau a'i gyfansoddiadau yn gyfarwydd i gorau ar hyd a lled y wlad.

Deuthum i'w adnabod fel disgybl.
Daethai i'r gwersi Cymraeg bob wythnos ym Mhorth Madryn ac roedd yn ffefryn mawr gen i gan fod golau a direidi yn ei lygaid na allai dim ei guddio.

Cofiwch chi, roedden ni'n anghytuno'n llwyr ar un peth sylfaenol iawn - dywedai Clydwyn nad oedd y Gymraeg yn iaith caru ac mai Sbaeneg oedd fwyaf naturiol i weithgareddau carwriaethol a minnau'n trio ei berswadio ei bod hi'n bosibl gwneud "Popeth yn Gymraeg"!

Cyfarfod i anrhydeddu Clydwyn yn y Gaiman, 1999Roedd hi'n fraint ei adnabod ac yr oedd yn eironig mai fi oedd yn ei ddysgu ef gan fod ei Gymraeg yn esiampl inni i gyd.

Neilltuol
Pan glywaf y gair 'neilltuol' byddaf bob amser yn meddwl am Clydwyn gan mai ef a glywais yn defnyddio'r gair hwn am y tro cyntaf. Nid oedd dim byd yn 'arbennig' nac yn 'allan o'r cyffredin' iddo ef, ond "yn neilltuol"!
Ac felly ef ei hun.

Tra yn ei wythdegau nid oedd yn arwain côr ei hun er iddo fod yn arwain côr unedig Chubut ar un adeg ond fe roddai help llaw i gorau'r ardal er mwyn rhoi ychydig o sglein i'w mynegiant cyn cyngherddau pwysig neu'r Eisteddfod.

Roedd llawer o'r arweinyddion yn dibynnu arno am hyn - arno ef ac ar Alicia, ei wraig, gan eu bod yn gerddorion heb eu hail ac yn bobl roedd pawb yn eu parchu.

Ac os meddyliwch amdanom ni'r Cymry a chythraul y canu roedd hyn yn neilltuol tu hwnt.

Tan y diwedd
Cyfansoddai tan yn ddiweddar.
Gwn ei fod wrthi'n cyfansoddi darn i delyn ond nis gwn os orffennodd y gwaith. Roedd am gadw ei feddwl yn heini ac am ddysgu cymaint ag y medrai.

Bu'n briod ddwywaith. Yn gyntaf ag un o drigolion y gymdeithas Gymraeg yn Nyffryn Camwy ond rhoddodd y gorau i'r briodas er mwyn ffurfio perthynas gydag Alicia, ei ddisgybl 30 mlynedd yn iau nag ef, ac fe barhaodd y berthynas honno dros ddeugain mlynedd.

Ysgrifennodd lyfr ar hanes y delyn a chefais y fraint o gydweithio gydag ef ar lansiad y llyfr ac roedd bob amser yn bleser gweithio gydag ef gan ei fod yn gwerthfawrogi popeth ac roedd yn ddiolchgar am bob ymdrech a wnaech drosto.

Ailsefydlu'r Orsedd
Ef oedd y prif symbylydd, ynghyd a'i frawd Dewi Mefin, y tu ôl i ailsefydlu Gorsedd y Wladfa, Patagonia, a denu'r Archdderwydd Meirion a 90 o Gymry gydag ef i'r seremoni ailsefydlu yma yn y Gaiman fis Hydref 2001.

Ef oedd y Llywydd Anrhydeddus ac roedd yn bresennol ym mhob cyfarfod o'r Orsedd tan yn ddiweddar.

Âi hefyd i bob cyngerdd yn Nhrelew, y Gaiman a Phorth Madryn.

Doedd hi ddim o bwys os mai cerddorfa o blant, opera o Buenos Aires ynteu Eisteddfod y Wladfa oedd yr achlysur yr oedd ef yn sicr o fod yno gydag Alicia yn cefnogi ac yn mwynhau.

Bydd colled fawr ar ei ôl, i Alicia a'i deulu'n bennaf ond i ni gyd a gafodd y fraint o adnabod Clydwyn ac o brofi ei gwmni a gwres ei bersonoliaeth.

Catrin Morris





de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Ymweliad Cor Merched y Gaiman

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

Paratoi i ddathlu canrif a hanner

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy