Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Stryd ar Phuket wedi'r difrod Colli 1/4 miliwn mewn 1/4 awr
Chwefror 2005
Dyma stori Nicola Williams o Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch - roedd hi yno.
Dros y Nadolig es ar fy ngwylia i Ynys Phuket yng ngwlad Thai. Roedd yr Ynys yn baradwys. Roedd y traeth yn hir gyda thywod mor wyn â'r eira a'r môr yn glir ac yn gynnes.

Treuliasom ddiwrnod Nadolig yn ardal Patong. I'r chwith roedd traeth hyfryd ac i'r dde roedd siop ar ôl siop ar ôl siop. Roedd y stryd yn llawn o bobl yn cael amser braf ac yn yfed y mwynhad.

Cawsom ginio Nadolig hwyliog mewn tafarn Wyddelig yng nghanol y stryd. Wedyn aethom ar y funud olaf i weld sioe fywiog oherwydd ein bod ni i fod ar drip cwch y diwrnod hwnnw.

Cyn wyth y bore diwrnod Sant Steffan aethom o'r gwesty moethus ar gwch ar hyd ochr ddwyreiniol o'r Ynys. Roedd yr haul yn tywynnu, y gwres yn uchel a'r môr yn ffyrnig, ond roeddwn yn mwynhau gweld yr ynysoedd dymunol a'r ffordd ar fyw mor unigryw.

Wrth i ni eistedd am fwyd mewn pentref wrth ymyl y môr, gwelsom bobl yn neidio ar eu cychod hir digri ac yn helpu yr henoed i adael y pentref. Ni feddyliom ddim amdano, oherwydd nid oeddem yn adnabod y ffordd yr oeddent yn byw. Efallai fod hyn yn arferol.

Daeth dyn bach gwyllt atom a gwaeddodd 'WATER WATER BIG WATER' wrth iddo ein hel oddi ar y cei. Pan oeddem yn mynd fel mellten yn ein cwch bach gwyllt roedd fy nghalon yn fy ngwddf. Cyrhaeddasom dir tuag ugain munud wedyn, ac yn y fan honno yr oeddem am bedair awr yn eistedd yn y gwres.

Trwy'r oriau cawsom ein trin fel teulu brenhinol. Roedd y dynion lleol yn rhoi gwybodaeth o'r digwyddiadau inni - y pontydd yn cau, y traethau wedi eu troi a'u pennau i'w waered. Wrth edrych ar y môr, ni fyddech yn meddwl fod y fath ddifrod wedi digwydd, roedd o'n esmwyth fel gwydr. Daeth niferoedd o gychod yn gollwng pobl ar y lan ac yna rasio i ffwrdd. Wrth glywed am y don oedd wedi dinistrio'r strydoedd yr oeddwn wedi eu cerdded y diwrnod cynt allwn i ddim coelio, ddim deall.

Ar ôl gorfod mynd yn ôl ar hyd y môr cyraeddasom yn ôl yn i'r porthladd. Doedd dim ffordd i allu mynd yn ôl i ochr arall yr Ynys felly eistedd yn y porthladd am oriau oedd yr unig ddewis. Roedd tafarn drws nesaf gyda sgrîn fawr yn dangos y newyddion. Wrth edrych ar y lluniau, roeddwn yn adnabod strydoedd a siopau, roedd o'n anhygoel fod fath ddifrod wedi digwydd dim ond deg munud i ffwrdd.

Am chwech o'r gloch ar ôl awr mewn bws poeth cyraeddasom yn ôl i'r gwesty. Roedd y siopau bach dymunol ar hyd y ffordd wedi eu dinistrio, gyda gwydr ym mhob man. Yr unig fath o gysylltiad posib oedd neges destun, roedd y llinellau ffôn wedi disgyn felly gorfod gyrru negeseuon yn y modd yma i'n ffrindiau adref i adael iddynt wybod ein bod yn ddiogel.

Y bore wedyn aethom yn ôl i Patong. Roedd y stryd yn hollol wahanol, fel bod bom wedi ffrwydro. Ar y chwith gwelsom y traeth gyda chychod yn eu hanner a choed palmwydd ar eu hochrau. I'r dde roedd siop ar ôl siop wedi eu dinistrio. Er fod y bobl yn bresennol, roedd y stryd yn ddistaw fel y bedd. Roedd yn rhaid i ni wylio lle yr oeddem yn rhoi ein traed rhag ofn sathru ar wydr. Wrth edrych ar y llanast a oedd unwaith yn fwyty del, roedd o'n fwy tebyg i lun plentyn bach, gyda chwch tu mewn a cheir ar ei ben. Roedd pysgod marw ar ochr y stryd a dŵr yn dal tu mewn i rai o'r adeiladau. Anodd coelio fod y stryd anhrefnus yma unwaith yn llawn o wynebau hapus a phobl yn cael amser da.

Wrth gerdded yn araf a thrïo edrych ar yr olygfa anhygoel cyraeddasom at wal y dafarn Wyddelig. Wel, beth oedd ar ôl o'r dafarn. Roedd y cadeiriau cerrig tu allan wedi eu lluchio tu mewn a'r tu mewn wedi ei luchio at y cefn. Nid oedd o'n lle hwyliog rŵan.

Pedwar diwrnod i fynd cyn amser i ni orfod mynd adref. Bob diwrnod roedd y sefyllfa'n gwella ac yr oedd pobl Thai yn dal i drïo'i gorau i achub unrhyw ddarn o stoc i allu ei adfer. Wrth adael yr Ynys, gwelsom faint oedd y difrod wedi ymestyn.

Rydym yn teimlo mor ffodus i gael dod trwy'r drychineb a dod adre yn ôl yn ddiogel. Ni anghofiwn Nadolig 2004 tra byddwn ni byw.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý