Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Torth orau'r dydd yn Tesco - diolch i Rhydian Ysgol Carreg-lefn
Rhagfyr 2008
Cyn i mi gael cyfle i orffen ysgrifennu newyddion Yr Arwydd yr wythnos diwethaf mae'n teimlo fel ei bod hi'n amser i mi ysgrifennu newyddion y mis nesaf!

Mae'r misoedd mor brysur y dyddiau hyn fel bod yr amser yn brysur diflannu ac mi fydd hi'n Nadolig cyn i ni droi.

Cafwyd Gwasanaeth y Cofio yma yn y Pentref.

Hwn oedd y tro cyntaf am wn i, i drigolion y pentref ymgynnull o flaen y Maes Coffa, ynghyd a phlant y pentref.

Cawsom wasanaeth cofiadwy gan y Canon Geraint Edwards a gyda chynulleidfa dda yn bresennol.

Buom mewn Sioe Gemeg yn y Wylfa a drefnwyd gan Gyrfa Cymru - sioe yn llawn bangs a pops uchel dros ben oedd hon gyda'r bwriad o ddangos i blant pa mor ddiddorol y gall gwyddoniaeth fod.

Mae'n debyg iddynt lwyddo'n hawdd, gan i'r plant wirioni clywed a gweld yr holl ffrwydriadau!

Mae gwersi beicio wedi dechrau yn yr ysgol y tymor hwn. Mae plant Bl 5 a 6 yn cael cyfle i ddod yn hyddysg mewn diogelwch y ffordd.

Mae cyfres o 6 gwers dros y tymor, pob un yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o farchogaeth beic yn ddiogel.

Yn olaf cafodd y plant yr Adran Iau gyfle i fynd i Tesco Bangor ar ymweliad.

Y tymor hwn rydym yn dilyn thema Taith y Fanana, o'i chychwyn yn y trofannau i gownter siop. Yn sgil y gwaith hwn, roedd yn bwysig bod y plant yn cael cyfle i weld sut roedd y ffrwyth yn cyrraedd pen ei thaith.

Roedd Tesco wedi darparu yn ardderchog ar ein cyfer - gyda gwledd o ffrwythau a fideos yn egluro'r broses.

Yn ogystal a bananas rydym hefyd yn astudio creu a chrasu bara. Cyn i'r plant greu eu bara eu hunain, roeddynt yn teimlo ei bod yn bwysig iddynt weld sut mae cwmnïau mawr megis Tesco yn creu bara. Felly cawsant fod yn bobyddion, a dysgu'r broses o wneud bara go iawn. Ew am hwyl.

Tan tro nesaf - hwyl!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý