Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Clychau'r gog Ysgol Carreg-Lefn
Mai 2009
Dim gwerth o newyddion y mis yma!

Dim ond pythefnos byr sydd wedi bod ers i ni ddychwelyd ar ôl y Pasg.

Wedi dweud hynny, cafwyd ambell ddigwyddiad diddorol yn yr ysgol.

Bu Bl 6 yn Ysgol Goronwy Owen yn gwylio sioe bypedau.

Rhan o'r cynllun pontio rhwng Ysgol Gynradd ac Uwchradd oedd y cyflwyniad, ac roedd pawb wedi mwynhau eu hunain yn arw.

Bu plant yr ysgol i gyd yn darganfod am y pentref.

Cafodd y Babanod gyfle i fynd i chwilio am flodau gwyllt yn arbennig clychau'r gog, gan iddynt fod eisiau astudio Natur a Bywyd ar Ffarm.

Y bwriad oedd paentio eu lluniau. Roedd yn dipyn o helfa a dweud y lleiaf gan fod y blodau gwyllt yn mynd yn brin.

Lluniau

Bu Mr Gwynant Parri yma yn tynnu lluniau ysgol - pawb yn posio a gwenu trwy'r bore - ond mi fydd y lluniau yn rhai gwerth chweil!

Yn olaf y mis yma bu'r ysgol yn Llandudno ar gyfer Jambori, neu Rimbojam fel a'i galwyd gan yr Urdd. Roedd y plant wedi bod yn dysgu'r caneuon drwy gydol yr wythnos, a braf oedd eu gweld yn clapio a chanu gyda channoedd o blant eraill i ganeuon cyfarwydd.

Bu i ni benderfynu gwneud diwrnod ohoni hefyd a chael picnic ar y Prom yn Llandudno. Diwrnod bendigedig i ddweud y gwir!

Hen ysgol

Ar yr un diwrnod aeth yr Adran Iau am helfa eu hunain - i chwilio am ysgol gyntaf Carreg-lefn.

Mae'r ysgol hon yn cuddio tu ôl i Felin Nant. Ar ôl cerdded ar draws y caeau, a heibio'r felin ddŵr sydd yn ddiddorol dros ben ynddo'i hun, mi gyrhaeddwch yr ysgol.

Mae'n rhyfeddol bod gymaint o'r ysgol yn parhau gan feddwl bod y dyddiad ar y wal yn dynodi 1748!

Roedd y plant wedi rhyfeddu gweld maint yr ysgol, a bod unrhyw blentyn wedi cael addysg yn y fath le. Agoriad llygaid go iawn!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý