Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Pen-blwydd arbennig
Ionawr 2006
Mae organ y Capel Mawr yn Amlwch yn 100 oed, ac yn parhau yn offeryn arbennig iawn

Dyma fel ysgrifennodd Eryl Rowlands (cyn-organydd yn y Capel) am yr organ yn Yr Arwydd Chwefror 1988.

Mae organ y Capel Mawr yn offeryn arbennig iawn. Gwir fod rhai mwy na hi yng nghapeli Mon, ond hi yn ddios yw'r organ efo'r pwer mwyaf o 'i maint y gwn i amdani.

Er fod organ Moreia, Llangefni yn fwy, nid yw i 'w chymharu a'r organ hon o ran grym.

Owen Hughes, gweinidog y Capel o 1892-1906 oedd yn gyfrifol dros ei chael, fel yr organ bibau gyntaf i unrhyw gapel Cymraeg ym Mon.

Erbyn Hydref 1905, roedd y gwaith ar fin dechrau, ond roedd Owen Hughes yn ei fedd cyn agor yr organ ar 6 Mehefin 1906, gan Roland Rogers, Bangor.

Adeiladwyd hi gan gwmni Alexander Young a'i Feibion, Manceinion, ar gost o £800.

Mae iddi 1278 o bibau, dau faniwal a bwrdd pedalau, dau ddwsin stop lleisiol a phum stop cyplysu, gyda phum piston troed.

Fe'i chwythid ar y dechrau gan ddwy fegin fawr a godid ac a ostyngid drwy droi olwyn fawr a handlen arni.

Ym mlynyddoedd y chwythu a llaw, rhaid fyddai i rywun fynd allan a chnocio llawr y llwybr ar gyfer cefn yr organ i ddweud wrth y chwythwr pa bryd i ddechrau a pha bryd i beidio chwythu.

Erbyn 1912 fe gafwyd peiriant nwy i 'w chwythu a pheiriant petrol tua 1929.

Fel yn hanes llawer un a llawer peth mae 100 o flynyddoedd yn gadael ei ô1.

Mae angen sylw eithaf sylweddol ar yr organ ac mae'r Swyddogion mewn trafodaethau i ganfod y ffordd ymarferol yrnlaen.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý