Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Wolfgang Amadeus Mozart Trosiad Ken yn ennill clod!
Ebrill 2004
A hithau'n adeg cyffrous ar gyfer byd y ddrama yng Nghymru gyda sefydlu'r Theatr Genedlaethol newydd, mae Gwasg Gomer newydd gyhoeddi addasiad Cymraeg o ddrama Amadeus gan Peter Shaffer.
Cyfiethiwyd y ddrama i dros ugain o ieithoedd a bellach gellir ychwanegu'r Gymraeg at y rhestr honno.

Pan fu farw Mozart yn 1791, roedd si ar led iddo gael ei wenwyno gan gerddor arall, Antonio Salieri. Dyma fan cychwyn drama lwyddiannus Peter Saffer. Noswyl ei farwolaeth, mae Salieri'n hel atgofion am ei berthynas dymhestlog â Mozart, a'r amgylchiadau a arweiniodd at dranc un o'r cyfansoddwyr mwyaf a welodd y byd erioed.

Addaswyd y ddrama i'r Gymraeg gan Ken Owen, Marian-glas. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd ugain mlynedd yn ôl yn ogystal â Choron Eisteddfod Pontrhydfendigaid am gyfansoddi drama wreiddiol.

Roedd yr her o drosi Amadeus yn fodd iddo ddwyn ynghyd ddau faes sy'n rhoi pleser aruthrol iddo, sef drama a cherddoriaeth. Llwyfanwyd yr addasiad Cymraeg cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd yn 2000 gyda Wynford Elis Owen ac Arwel Gruffydd yn chwarae'r prif rannau.

Yn ôl cylchlythyr Cymdeithas Ddrama Cymru: "Trosiad dramodydd yw hwn...mae Ken Owen yn amlwg wedi mynd o dan groen y cymeriadau."

Ceir deunydd perfformio ac astudio ardderchog yn y ddrama a bydd cymdeithasau drama ac adrannau drama mewn ysgolion a phrifysgolion ledled Cymru yn siwr o groesawu'r cyhoeddiad hwn.

Manylion llyfryddol: Amadeus, Peter Shaffer. Addasiad Ken Owen - ISBN 184323352 5 Gwasg Gomer £5.99.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý