Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Sian Owen Llongyfarchiadau i Siân
Ebrill 2008
Newydd da o lawenydd mawr i bawb yn nalgylch Yr Arwydd ydi'r cyhoeddiad mai Sian Owen o Farian-glas ydi enillydd Adran Gymraeg cystadleuaeth barddoniaeth Féile Filiochta 2007.
Mae hon yn gystadleuaeth ryngwladol sy'n cael ei chynnal yn Iwerddon bob blwyddyn a bydd y Feile Filiochta yn gwobrwyo enillwyr mewn deg iaith. Eleni daeth dros 4,000 o gynigion i law.

Ysgrifennodd Siân am ferch mewn cyflwr manig wedi dringo Pont y Borth, yn sgîl darllen am yr anhwylder wrth wneud gwaith ymchwil ar gyfer nofel.

Ym mis Ebrill bydd yn teithio i Iwerddon i seremoni wobrwyo lle bydd yn darllen ei cherdd fuddugol a chasglu gwobr ariannol o 1,000 euro.

Ar hyn o bryd, mae Siân yn astudio'n rhan amser ar gyfer PhD mewn Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg yn y Brifysgol ym Mangor, sy'n gryn newid byd ar ôl ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg.

Wedi cyfnodau gyda'r Ö÷²¥´óÐã yn cynhyrchu rhaglenni i Radio Cymru ac yna'n golygu gwersylfrau gwyddonol i CBAC yng Nghaerdydd. Dros ddeng mlynedd yn ôl dychwelodd y teulu i Fôn, lle bu'n magu tri o blant, yn gweithio fel cyfieithydd ar ei liwt ei hun a lle mae'n aelod o dîm beirdd Bro Alaw.

Enillodd Siân Gadair Eisteddfod Môn yn y flwyddyn 2000, ac yna'r Goron a'r Tlws Rhyddiaith yn Eisteddfod Môn, Cylch y Garn yn 2005, yn ei milltir sgwâr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý