Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Harbwr Amlwch © Bwrdd Croeso Cymru Un llythyren yn ddigon!
Ionawr 2003
Mae Ken Owen wedi sylwi ar amryw o wallau iaith yn ei ddydd wrth ddarllen proflenni'r papur bro, a rhai yn codi gwên!
Gyda rhifyn mis Rhagfyr, mi fydda i'n rhoi heibio fy meiro goch a rhoi'r gorau iddi i ddarllen proflenni Yr Arwydd. Efallai fod yna rai ohonoch chi dan yr argraff fod darllen proflenni papur bro yn hen orchwyl diflas a bod cribinio trwy hynt a helynt ardaloedd cylch Bodafon yn chwilio am wallau yn dasg anniddorol dros ben. Sgersli bilif!

Mae'r mân lithriadau wedi rhoi modd i fyw i mi dros y blynyddoedd a rhoi homar o wên ar fy wyneb i hefyd. Y gwirionedd ydi, mae hi mor hawdd i'r cysodydd ei methu hi ac mi ryfeddech chi gymaint o wahaniaeth mae hepgor un llythyren fach yn gallu ei wneud.Er enghraifft, dyma oedd ym mhroflenni fis Medi eleni o dan Cemaes

"Braf oedd cael croesawu llu o gyfeillion Moreia a chyn-aelodau yn cynnwys setiad o deulu Buarth y Foel gynt...Pob clod i deulu' Moreia am fwydro i weld cyrraedd can mlynedd a boed llwyddiant i'r Eglwys yn y dyfodol."

Brwydro' wna teulu Moreia, wrth gwrs, nid mwydro'. A beth am hwn 'ta ym mis Mehefin 1998 pan fu Cyngor Cymuned Llanfechell yn cwrdd un noson :

"Trafodwyd problemau ffydd yn yr ardal."

Ew, dyna i chi bobl agos at eu lle ydi Cynghorwyr Llan - yn pryderu am eneidiau eu trigolion... hyd nes i chi sylweddoli mai problemau ffyrdd' oedd ar yr Agenda mewn gwirionedd! Yna, mi ymddangosodd hyn yn rhifyn Ebrill y llynedd

"Yr hyn sydd yn taro dyn yw yr ysgrifen gywrain oedd gan bawb a'r gofal mawr a gymerid gyda phob llwyth o wellt a nwydau eraill."

Nwyddau', tybed?

Mi fyddai pobol Penysarn (a gwraig fy hen athro Ffrangeg yn Ysgol Amlwch) yn filain iawn petawn i heb weld y camgymeriad nesaf yma

"Y wraig wadd oedd Mrs Myra Jones, Benllech, neu Myra Pencroesa i ni yn y Sarn. Soniodd am Benysarn pan oedd hi yn eneth ysgol a phawb yn rhoi ei bwt i mewn efo hen atgofion melyn."

Go brin mai codi'r felan ar bobl oedd y nod!

Dyma un bach digrif arall y sylwais i arno'n gynharach eleni

"Y wraig wadd oedd Mr Lilian Hughes, Amlwch."

Yn amlwg, y mae colli'r llythyren s' yn ddigon i roi 'secs chenj' i chi! Ac mae yna bethau rhyfedd yn gallu digwydd wrth i chi drawsnewid llythrennau

"Llongyfarchwn Batri Glesni a'u cyfeilydd, Mrs Glenys Ann Roberts ar eu cyfraniad i Sasiwn Chwiorydd y Gogledd ym Mhorthaethwy yn ddiweddar."

Pan ymddangosodd y nesaf yma, mi fues fn crafu fy mhen am yn hir cyn sylweddoli beth yn union oedd o'i le,

"Ar osod: Ty Capel Bethel, Maes y Llan, Bodwrog. Am fwy o fanylion a theledu, cysylltwch a'r Ysgrifennydd."

Beth gebyst oedd arwyddocad set deledu wrth geisio gosod Ty Capel, meddech chi? Dim oll, wrth gwrs, achos "am fwy o fanylion a thelerau" oedd y geiriau cywir.

A beth am hwn?

"Maen dda gennym glywed ..? Go brin.

Mae peryg i mi swnio'n gyfoglyd o hunangyfiawn, ar draul cysodwyr clên O. Jones. Llangefni. heblaw am y ffaith fy mod in methu gweld myrdd o gamgymeriadau eraill o fis i fis. Yn ddieithriad. pan fydd Yr Arwydd ei wely a'r hynaws Gwilym Hanes yn taro copi drwv'r llythyrau, mi fedrwch chi fod yn saff y bydd yna wall arall amlwg i'w weld yn berffaith blaen rywle neu'i gilydd.

Ond, diolch i'r drefn, mae Dewi Jones yn un parod ei faddeuant a chreadur meidrol ydw innau - meidrol darllenwr proflenni Beibl Saesneg 1631. Hanes trist ac ofnadwy sydd i'r darllenwr proflenni hwnnw a fethodd sylwi bod y gair not ar goll yn adnod 14, pennod 20 llyfr Exodus. Dyma'r adnod a ymddangosodd yn y Beibl hwnnw:

Thou shall commit adultery.

Am ei bechodau, mi gafodd y darllenwr proflenni grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru! A dweud y gwir, dyna pam rydw in rhoi'r gorau iddi i ddarllen proflenni - rhag ofn na fydd Golygydd nesaf Yr Arwydd mor drugarog â Dewi Jones!

Ken Owen, Marian-glas


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý