Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Gareth Rowlands Problem Gareth
Mawrth 2007
Mae yna lawer o Fro'r Arwydd wedi mynd i'r Merica dros y blynyddoedd ac wedi gwneud yn dda drostynt eu hunain.
Erbyn hyn mae Gareth Rowlands o Fenllech yn un ohonynt.

Ond tydi bywyd ddim yn hawdd ac mae Gareth ar ei gyfyng gyngor yn y wlad bell. Ac nid methiant ond llwyddiant sy'n achosi penbleth.

Fel seren ym myd chwaraeon mae'n rhaid i Gareth ddewis rhwng pêl-droed a phêl-droed Americanaidd gan fod dau hyfforddwr mewn gwahanol Golegau yn Tennesse yn ei chwennych - neu mewn geiriau eraill "Ar ei ôl o.'

Ac nid yn aml y caiff bachgen ddau wahoddiad Colegol fel hyn i ddyrchafu ei hun a graddio mewn gyrfa y mae eisoes mor llwyddiannus ynddi.

Fel disgybl chwe troedfedd a thair modfedd yn Ysgol Syr Thomas Jones fe enillodd Gareth Ysgoloriaeth pêl-fasged i'r King's Academy yn Knoxville, Tennesse, ddwy flynedd yn ôl.

Erbyn hyn daeth yn amser i'r chwaraewr dawnus 18 oed wneud penderfyniad ond fe fydd unrhyw ddewis o'i eiddo yn golygu aberth ariannol.

Yn ôl ei dad Elfed mae ei ddyfodol yn dibynnu ar y gefnogaeth ariannol a gaiff ym Môn.

Mae Gareth yn fachgen amryddawn iawn mae wedi chwarae rygbi ac mae'r Americaniaid yn fawr edmygu ei ddawn cicio.

Bu ar dreial hefo West Bromwich, Birmingham a Blackburn a bu'n chwarae i'r Amwythig.

Yn awr mae wedi cael cynnig dwy ffordd i ennill gradd ond mae arno fawr angen $10,000 i fynd yn ei flaen, neu fe fydd rhaid iddo droi ei gefn ar gyfleoedd fuasai'n gwyrdroi holl gwrs ei fywyd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý