Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Un o'i ddarluniau Adnabod yr Artist : Huw Jones
Tachwedd 2003
Symudais yn ôl i Gymru yn 1999. Cyn hynny roeddwn yn byw ar gyrion Llundain yn Swydd Essex. Roeddwn yn gwybod am yr ardal yma gan fy mod wedi tyfu i fyny yn y Benllech tan oeddwn yn 9 oed ac wedi mynychu Ysgol Llanallgo.

Dw i wedi bod yn hapus iawn ers symud i Farian-glas ac mae'r ardal yn dylanwadu ar fyngwaith celf. Mae'r gymysgedd o dirwedd, golygfeydd arfordirol a'r adeiladau hen a newydd wedi treiddio i fy ngwaith.

Mae yna olau a lliwiau arbennig yn yr ardal ac mae yna deimlad o hanes a Chymreigrwydd sydd hefyd yn bwysig i mi. Byddaf yn gwneud lluniau mewn pensel, dyfrlliw a phaent olew.

Uchafbwyntiau diweddar fy ngyrfa fel arlunydd oedd arddangos fy ngwaith yng Nghystadleuaeth Arlunydd Cymraeg y Flwyddyn yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ac yn Arddangosfa Gelf a Chrefft yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod eleni. Byddaf yn arddangos casgliad newydd o waith yn y Ganolfan Hamdden ym Miwmares flwyddyn nesaf ac yn Oriel Môn y flwyddyn wedyn.


Ers rhyw ddwy flynedd dw i wedi bod yn dysgu dosbarth celf i oedolion yn Hen Ysgol Marian-glas. Dechreuodd y dosbarth dan nawdd Sefydliad y Merched ac mae nawr yn agored i unrhyw un sydd a diddordeb, gan gynnwys dynion?

Mae'n rhoi pleser i mi drosglwyddo fy ngwybodaeth am beintio a dylunio ac mae'n gwneud i mi deimlo fy mod yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol.

Dw i hefyd yn dysgu yn Ysgol Coed Menai (hen Ysgol Treborth) sy'n ysgol i fechgyn gydag anghenion addysgol ac anghenion ymddygiad arbennig.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý