Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Grês Pritchard Grês Pritchard MBE
Chwefror 2010
Llongyfarchiadau mawr i Mrs Grês Pritchard ar dderbyn yr anrhydedd MBE.

Mae Grês yn adnabyddus ac yn cael ei hanrhydeddu am ei gwasanaeth a chyfraniad gwerthfawr i gerddoriaeth am flynyddoedd lawer ar Ynys Môn.

Daeth y newyddion da i'n clyw ar ddechrau'r flwyddyn, ond nid dyma pryd y daeth Gres i wybod am yr anrhydedd byddai'n ei derbyn.

Cyrhaeddodd lythyr i gartref Grês a'i gwr Donald Glyn a'u meibion Rhys a Siôn, ganol fis Tachwedd a bu rhaid iddi arwyddo y byddai'n cadw'r newyddion yn dawel tan ddechrau'r flwyddyn.

Roedd y gyfrinach yn ddiogel rhwng Grês a Donald Glyn am sawl wythnos cyn cyhoeddwyd y newyddion i bawb yn y Flwyddyn Newydd.

Mae Grês yn gyfeilydd i Gôr Meibion y Traeth ers deugain mlynedd ac yn arweinyddes ar ddau gôr yn y Llan ers eu sefydlu, deng mlynedd yn ôl.

Mae Côr Meibion y Foel yn cyfarfod bob nos Fawrth, Côr Merched, Lleisiau Llannerch bob nos Fercher a Chôr Meibion y Traeth bob nos Lun.

Weithiau, bydd ganddi gyngerdd ar nos Wener neu nos Sadwrn a Chymanfa Ganu ar nos Sul! Prin iawn yw'r nosweithiau rhydd!

Beth fydd Grês yn mwynhau ei wneud yn ei amser hamdden meddech chi?

Wel, ymlacio wrth y piano wrth gwrs, hynny ydi, os nad yw'n rhoi gwersi cerdd!

Ar ô1 dywed y newyddion da, daeth criw teledu Wedi 7 i ffilmio Grês wrth ei gwaith efo plant Ysgol Penysarn a gwelwyd y cyfweliad ar S4C y noson honno.

Mae Grês hefyd wedi ei chyfweld gan Dei Tomos ar ei raglen ar Radio Cymru.

Mae wedi derbyn llu o gardiau yn ei llongyfarch, dros 160 ohonynt yn falch drosti ac yn credu fod yr anrhydedd yn un haeddiannol iawn.

Ymysg y cardiau, derbyniodd un gan Ieuan Wyn Jones A.C., Carwyn Jones P.W., Peter Hain A.S. ac Alur Ffred Jones A.C..

Mae hefyd wedi derbyn anrhegion lu a mawr yw ei gwerthfawrogiad a' diolch i bawb.

Yn ei geiriau ei hun, mae wedi bod yn ffodus iawn o'i gwaith ac wedi mwynhau cymaint.

Mae wedi cael cyfuno pleser, diddordeb a gwaith yn un.

Mae wedi cael cymdeithasu, gwneud ffrindiau a chymysgu a chymaint dros y blynyddoedd ac wedi mwynhau pob munud.

Nid oes gan Grês yr un bwriad o arafu a gwneud llai sydd yn newydd da i ni gyd!

Tra fod iechyd yr caniatáu, bydd Grês yn dal ati i weithio'n galed a rhoi gymaint i eraill.

Dymuniadau gorau i chi ym Mhalas Buckingham Edrychwn ymlaen i glywed yr hanes!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý