Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Diaconiaid Bethel 1954 Diwedd cyfnod eto ond atgofion yn aros
Ebrill 2003
Onid yw'n chwith meddwl fod drysau Capel Bethel, Rhosybol wedi cau erbyn hyn a llawer "Bethel" arall hefyd, a'r eiddo yn mynd i estroniaid.
Yn y rhifyn diwethaf cafwyd hanes yr achos o'i ddechreuad, ac yn wir yr oedd yn ddiddorol dros ben yn enwedig i rywun fel fi sydd wedi cael ei magu a'i dwyn i fyny yn y capel a'r Ysgol Sul yma Methel

Atgofion melys
Mae gennyf atgofion melys iawn amyr amser a dreuliais ym mhentref Rhosybol ac yng Nghapel ethel. Yn ystod fy mhlentyndod yr oedd yna Ysgol Sul lewyrchus iawn ym Methel gyda nifer dda o blant. Yr oedd llawer o blant y pentref yn mynychu Ysgol Sul Capel Mynydd Parys ar fore Sul ac yna yn dod i Ysgol Sul Bethel yn y prynhawn.

Myfanwy Thomas (Jones gynt) a Mair Williams (Thomas gynt) fyddai'n gyfrifol am y plant lleiaf; Mrs Amelia Jones, Trigfa, hefo'r plant ychydig hyn, yna Mrs Gwladys Williams, Siop Newydd a William Thomas, Bryn Hyfryd hefo'r bobl ifanc. Yr oedd yna ddosbarth oedolion hefyd gyda "phregethwr y Sul" yn gyfrifol.

Yr Eisteddfod
Yr oedd Cymanfa Ysgolion Sul Dosbarth Amlwch ar ffurf Eisteddfod - gyda 12 o Ysgolion Sul y Dosbarth yn cystadlu ar ganu a llefaru ac, wrth gwrs, yr Arholiad Llafar i'r plant lleiaf a'r Arholiad Ysgrifenedig i'r plant hyn. Yn wir rhaid dweud fod plant Bethel yn rhoi cyfrif da iawn ohonynt eu hunain yn yr oll o'r adrannau. Bellach does fawr o neb o "Blant Bethel" ar ôl yn y pentref.

Bedyddiadau
Wrth ddarllen hanes Bethel yn y rhifyn diwethaf yr oedd yn dod i'n cof am y Bedyddiadau. Mae gennyf gof plentyn am fedydd yn Llyn Merris gyda'r diweddar Barchedig W Morton Jones yn gweinyddu. Cofiaf i drio o feibion Llythyrdy Rhosgoch, Richard, Edgar a ohn Thomas gael eu bedyddio ac iddynt fynd i gartref fy nhaid a nain, Robert a Mary Price, Pennant i newid. Ni chofiaf os oedd rhywun arall wedi mentro y pryd hynny. Cofiaf hefyd i'r Parchedig W Morton Jones weinyddu bedydd arall, y tro yma yn y fedyddfa yn Sêt Fawr y capel a 4 neu 5 o ferched o Gapel Llanfair M.E. yn mynd ymlaen. Os cofiaf yn iawn efallai fod yna un brawd hefyd.

Sawl blwyddyn yn ddiweddarach bedyddiwyd Myfanwy, Trigfa, Mair, Bryn Hyfryd a Hannah Pritchard, Glangors Bach, gan y diweddar Barchedig Owen ones, Pont-rhyd-y-Bont ac wedyn yn ddiweddarach eto Gareth, Jean a Susan, Llythyrdy, Rhosgoch; Anne Thomas, Bryn Hyfryd, a John Williams, Tan Rallt, gyda'r Parchedig W Clifford Davies, Amlwch yn gweinyddu.

Wrth gwrs mae bedydd wedi bod yno yn ddiweddarach hefyd - Hugh ac Owen John Pritchard, Glangors Bach, a Catherine Jones, Lleifior.

Mae chwith meddwl nad yw Bedyddfan Bethan yn bod bellach ac na chaiff Llyn Merris ei ddefnyddio i'r pwrpas yma eto.

Dyna'r peth da am atgofion - all neb eu ddwyn oddi wrthych.
Anne Thomas


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý