Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
pont grog newydd yn Millau Pontydd
Hydref 2008
Yn ystod mis Mai eleni, tra yn Ffrainc ar wyliau, aethom i weld y bont grog newydd yn Millau (Canolbarth Ffrainc) - un o'r pontydd crôg uchaf a mwyaf arbennig drwy'r byd.

Mae'r bont wedi ei hadeiladu i groesi o'r ucheldir ar un ochr i ddyffryn Y Tarn i'r ochr arall - tua milltir a hanner o hyd - ac mae'r tŵr canol yn uwch na thŵr Eiffel.

Buom yn ymweld a nifer o arddangosfeydd a chanolfannau twristiaid newydd sbon sydd wedi eu sefydlu i ddehongli'r bont hon.

Mae twristiaid yn llifo i'r ardal i'w gweld ac yn dod a bywyd newydd i ardal wledig wrth i'r diwydiant traddodiadol (gwneud menig lledr) edwino.

Mae'r dref wedi manteisio ar enwogrwydd y bont ac wedi mynd ati yn ddyfeisgar i gynllunio gweithgareddau ar gyfer y bobl sy'n dod i'w gweld.

Ar ôl dod adref dechreuais feddwl am ein pontydd ni.

Ar hyn o bryd mae llawer o gwyno am broblemau traffig ar ddwy bont y Fenai a sôn am gael trydedd bont, efallai, ond beth am y ddwy bont bresennol?

Wrth eu croesi mor aml rydym yn dueddol o'u diystyru ac anghofio am eu hanes.

Yn eu dydd roedd y ddwy mor flaengar eu pensaernïaeth a phont Mlllau, ac yn gerrig milltir nodedig yn natblygiad peirianneg ac adeiladwaith pontydd.

Roeddent yn fwy chwyldroadol byth yn eu heffaith ar drafnidiaeth - ar drafnidiaeth rhwng Dulyn a Llundain ac ar drafnidiaeth leol.

Roedd yn rhyddhad mawr i bobl gael peidio croesi dŵr peryglus y Fenai ym mhob tywydd mewn fferi fechan ac yn rhyddhad mwy i ffermwyr Môn am nad oedd rhaid i'r gwartheg nofio drosodd mwyach.

Mae arddangosfa ddifyr iawn o hanes y pontydd a'u cyfraniad i'r ardal i'w gweld yn Nghanolfan Thomas Telford sydd wedi ei lleoli ar yr A5 ger yr eglwys yn y Borth. Mae yno nifer o ffilmia diddorol am adeiladu'r pontydd hefyd.

Mae'r Ganolfan yn awyddus iawn i gasglu hanesion ac atgofion lleol am y pontydd.

Fuodd un o'ch hynafiaid y gweithio ar y pontydd gwreiddiol?

Fuoch chi neu un o'ch teulu yn gweithio ar ailadeiladu Pont y Borth neu Bont Llanfair?

Os oes gennych stori i'w rhannu neu luniau i' dangos galwch yn y Ganolfan am sgwrs.

Bydd y Ganolfan: yn cau dros y gaeaf (ddiwedd Medi) ac ail agor eto yn haf 2009. Ann Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý