Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Y Di-wifr Adeg y Di-Wifr
Hydref 2003
Adeg y di-wifr oedd hi pan oeddwn i'n hogyn er mai'r Saesneg Wireless a ddefnyddiai bron pawb. Enw addas oedd o hefyd ar y math yna o radio a fodolai cyn dyfodiad y portable, oedd yn un y gellid ei chario o gwmpas yn hwylus.

Mae amryw yn cofio'n iawn fel yr oedd angen gwifren hir o gefn y di-wifr, drwy dwll yn ffrâm y ffenestr agosaf ac yna drwy'r awyr i ben y polyn hiraf y gallasai rhywun ei gael a'i osod ym mhen pellaf yr ardd, a gwifren arall o agos yr un lle i beg copr pwrpasol wedi ei guro i'r pridd tan y ffenestr er mwyn daearu'r derbynnydd.

Batri gwlyb ar ffurf potel yn mesur rhyw bedair modfedd ar ei thraws wrth naw modfedd o uchder, hwnnw'n dal dau blât wedi eu gorchuddio mewn asid ac iddi glust haearn er hwyluso ei chario oedd prif darddiad yr ynni a fyddai ei angen i gael swn o'r di-wifr. Credaf fod un neu ddwy o'r math hwnnw o fatri ar gael ymhlith y creiriau yng nghyntedd Ysgol y Sarn heddiw.

O dipyn i beth fe fyddai nerth y batri yn gwanhau, hynny yn ôl y defnydd a wnaed o'r derbynnydd. Byddai felly'n ofynnol cael dwy botel fatri, un yn y set, a'r llall mewn modurdy neu rhywle tebyg a gynigiai'r gwasanaeth o'i hail-fywhau.

Siop Pentref yn y Sarn fyddai'r gyrchfan i ni, ac fe ellir ddychmygu'r drafferth a fyddai o'i chael yno o'm cartref ar gyrrau Traeth Dulas. Beic fyddai gennyf i'r gorchwyl wythnosol bron, a phur anodd fyddai ei farchogaeth hefo'r teclyn gwydr yn un llaw.

Nid dyna ychwaith oll o anghenion y di-wifr gan y byddai angen batri mawr, fel y galwem ni y talp trwm o fatri sych a rhyw naw modfedd ysgwâr a barhai am rhyw naw mis eto, yn ôl y defnydd a wnaed o'r set. Doedd rhywun ddim wedi gorffen ymorol wedyn ychwaith, am y byddai ambell dro angen adnewyddu batri sych arall, un fflat a elwid Gris Bias.

Nid oes dwywaith amdani na fu dyfodiad y di-wifr yn gaffaeliad gwir werthfawr, yn enwedig i ni drigolion cefn gwlad ac fe sylwaf yn ôl y dangosiad am yr un a bwrcaswyd gan fy rhieni mai ym 1939 y daeth i'n ty ni am y tro cyntaf.

Un o'r brodyr Evans a gadwai'r siop yn yr adeg a gofiaf, Ifans Beics y gelwid o a chofiaf i mi brynu fy meic newydd cyntaf yno. Hynny ar ôl i mi raddio o reidio'r sgrags a farchogem yn blant.

Byddai nosau'r gaeaf wedi tueddu i lusgo 'mlaen yn araf braidd pe buasem heb y gallu i dderbyn darlleniad o adroddiad o nofel enwog T Rowland Hughes O Law i Law, sydd yn hanes hen lanc o chwarelwr yn dosbarthu dodrefn a chelfi ei gartref yn dilyn marwolaeth ei fam. I ni'r bobl ifanc ar y pryd roedd gwrando ar anturiaethau Gari Tryfan yn fuan wedi ein dychweliad o'r ysgol yn wledd nas anghofiwyd gennym.

Gwrando ar wasanaeth crefyddol ar fore Sul fyddai uchafbwynt yr wythnos i amryw o'r to hynaf ac fe gaed hefyd raglen o rhyw chwarter awr ar nos Wener, honno eto'n grefyddol ei naws ond yn ysgafn a difyr. Anghofiwn i ddim chwaith mo'r Noson Lawen, hefo'i harwyr fel y Co Bach, Y Tri Thenor a Robert Roberts, Tai'r Felin a llu o rai eraill a roddasant fodd i fyw i ni yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel. Y cyfan yn dod i'n cartrefi drwy'r ddyfais werthfawr ond hynod o drafferthus, sef y di-wifr.

Owie Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý