Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Brian Jones yn cynnal sesiwn gyda'r plant Ysgol Carreg-lefn
Mawrth 2009
Dyma ni ym mis Chwefror ac mae hi'n brysur tu hwnt arnom yn yr ysgol.

Mae'r Clwb Celf wedi bod yn brysur y tymor hwn a'r plant wedi bod wrthi'n gweithio'n galed yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Celf a Chrefft yr Urdd.

Mae'r plant hefyd wedi bod yn adrodd neu ganu hefyd ar gyfer yr Eisteddfod.

Y gem bêl-droed fawr - wel wna i ddim sôn llawer am honno!! Mi fydd rhaid i chi droi i newyddion Ysgol Rhosybol - mae'n siŵr y bydd y rhieni yn clochdar yn fanno!

Dwi'n dal i ddweud bod y dyfarnwr yn unochrog! Roedd yn gem gyffroes tu hwnt - ac er i ni golli o un gol - nid oedd yr hogiau yn or siomedig gan ei bod wedi bod mor agos.

Cofiwch - mi fydd yn stori wahanol pan ddaw Rhosybol draw i Garreg-Iefn ar gyfer y return fixture!!

Mae Mr Gwynedd Jones o Ysgol Syr Thomas Jones wedi dechrau dod draw i roi gwersi gymnasteg i blant lleiaf yr ysgol. Roedd yn awyddus iawn i gael cyfle i ddysgu'r plant bach, ac mae hwythau wrth eu bodd gyda'i wersi.

Trefnwyd Race Night yn y Ring ar gyfer yr ysgol. Er mai prin oedd y niferoedd y noson honno codwyd bron i £400 ar gyfer yr ysgol. Diolch o galon i Andrew a Sally am drefnu'r noson, ac i Mark yn y Ring am fod mor barod ei gymwynas.

Daeth PC Brian Jones draw i'r ysgol eto i roi un o'i sgyrsiau diddorol. Y tro hwn peryglon cyffuriau oedd ganddo dan sylw. Mae'r plant yn bendant yn dysgu llawer.

Aeth yr Adran Iau i rapio yn ystod y mis hefyd. Cafwyd cynnig i fynd i Lanberis i gael creu CD rap gyda Martin. Mae'n werth clywed y rap ac rydym am ei roi ar y safle We yn fuan er mwyn i chi gyd ei werthfawrogi.

Dathlwyd blwyddyn newydd Seiniaidd yn yr ysgol hefyd. Bu'r plant ieuengaf yn dysgu am y traddodiadau ynghlwm a'r dathliadau gan orffen gyda pherfformiad dawns y ddraig i weddill yr ysgol.

Benthycwyd offer mathemategol datrys problem am wythnos yn ystod y mis. Sôn am achosi penbleth i'r plant, ond wedi dyfalbarhau cafwyd llwyddiant yn eu datrys.

Ac yn olaf y mis yma mae 'na gryn dipyn o lanast ar do'r ysgol. Bu Miss Hughes yn ceisio gwneud crempogau gyda'r plant. Roeddynt yn flasus tu hwnt ond roedd taflu'r crempogau i'r awyr ychydig yn hit and miss!!! Tan tro nesaf - hwyl fawr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý