Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Eglwys Gatholig Amlwch Eglwys Gatholig Amlwch
Medi 2007
Hanes yr eglwys unigryw yma sydd wedi bod ar gau ers 2004 gan fod ei chyflwr yn methu cyfarfod gofynion rheolau Iechyd a Diogelwch.
Mae'r adeilad ar restr adeiladau cofrestredig sy'n golygu amodau i'w cadw wrth ystyried ei adnewyddu. Amcan y gost adnewyddu yw £1.2 miliwn ond mae brwdfrydedd mawr i fynd ymlaen a'r gwaith.

Mae'r Swyddogion yn hyderus y daw cyfraniadau sylweddol o arian o Gronfa CADW ae o Gronfa Treftadaeth y Loteri. Os digwydd hynny yna rhagwelir rhagor o grantiau llai gan Gynghorau, elusennau eraill, ymgyrchoedd codi arian a rhoddion gan unigolion.

Unwaith y bydd yr arian wedi ei sicrhau rhagwelir gwaith trin am tua 12 mis a'r gobaith yw cael y cyfan wedi ei adnewyddu erbyn 2010.

Cyd-gysylltydd y prosiect yw Christopher Thomas a gellir cysylltu ar y We: ChristopherThomas 154@BTintemet .com. Hefyd mae John Langley, Y Bryn, Llanfechell yn barod iawn i drafod unrhyw sylwadau.

Dyma fraslun o hanes yr eglwys
Cafodd yr eglwys ei chynllunio gan un o'r Eidal, Signor G. Rinvolucri a oedd yn byw yng Nghonwy. Gŵr o'r Rhyl, Mr Perey Iball oedd yn arolygu'r gwaith adeiladu i gwmni John Mayers, Canal Street, Gaer. Cwmni ddaeth i ben yn 1942.

At ddechrau 1935 roedd rhan isaf yr eglwys wedi ei osod mewn carreg gan weithiwr lleol, Mr Roberts, a oedd yn rhedeg busnes gyda'r saer coed, Mr Williams. Roedd gweithdy bychan ganddynt ger Swyddfa'r Post.

Gwaith cyntaf Perey Iball oedd cyflogi gweithwyr lleol ar dâl o swllt yr awr. Nid gwaith hawdd oedd codi fframiau yr adeilad anghyffredin.

Un o'r problemau mwyaf wrth adeiladu oedd y gwyntoedd cryfion. Sawl gwaith gorfu i Perey Iball alw ei gydweithwyr yng nghanol y nos i roi rhaffau ychwanegol i ddal y gwaith pan oedd y gwynt ar ei anterth.

Cerrig lleol a ddefnyddiwyd a chludwyd hwy i'r safle gyda throl a cheffyl ac roedd digon o ddŵr i'w gael mewn ffynnon gyfagos. Daeth y trawstiau dur a'r dur i gryfhau y gwaith conerit gyda'r rheilffordd i Stesion Amlwch a daeth deunydd i wneud y eonerit o chwarel ithfaen Penmaenmawr.

Mae ffenestri'r to yn ddwy fodfedd o drwch ac wedi eu gwneud yn Ffrainc.

Nodwedd o'r eglwys yw'r groes fawr chwe troedfedd o uchder sydd ar frig yr eglwys. Cafodd y groes ei ffurfio ar y llawr gan ei chodi i'w lle gyda blocyn a rhaff. Gwnaed y ffenestr serenog metal gan gwmni o Gaer.

Y gred yw fod yr eglwys ar ffurf llong ar ei phen i waered gyda'r ffenestri erynion o amgylch rhan isaf yr adeilad yn cynrychioli ffenestri llong.

Cafodd yr eglwys ei chysegru yn 1937 gan yr Archesgob McGrath ac ar dalcen blaen yr eglwys roedd ysgrifen 'Nodda ni Seren y Môr'. Yn anffodus cafodd yr ysgrif yma ei guddio pan wnaed gwaith adnewyddu yn ddiweddarach.

Bellach mae 70 mlynedd wedi mynd heibio a'r tywydd wedi gadael ei ôl ar y dur a'r gwaith concrit a dyna paham mae'r gost enfawr yn gwynebu cefnogwyr yr eglwys. Da nodi fod awydd a brwdfrydedd i wneud y gwaith.

O.N. Balch fyddem o gynnwys hanesion/lluniau o'r adeiladu yn Yr Arwydd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý