Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Torth o fara - handi i lanhau! Cynghorion Buddiol
Tachwedd 2004
Deg o gynghorion buddiol ar gyfer y cartref oedd testun un cystadleuaeth yn yr Adran Lenyddiaeth yn Eisteddfod Marian-Glas eleni.
Dwy chwaer yn wreiddiol o'r Marian, sydd wedi anfon eu cynnyrch ar gyfer Yr Arwydd, a hynny ar anogaeth y beirniad, Mr Alan Wyn Roberts. Dyma rai o'r cynghorion:

Casgliad Mrs Mair Williams, Eryl-y-don.

Staen biro: Defnyddiwch ysbwng gyda methylated spirits a golchwch wedyn gyda dŵr oer.
Gwaed: Mwydwch y dilledyn mewn dŵr a halen am 10 munud. Yna golchwch gyda dŵr oer.
I lanhau papur wal: Torrwch grystyn oddi ar dorth ddau ddiwrnod oed a rhwbiwch y papur yn ofalus gyda strôc i lawr bob tro. Fel y bydd y dorth yn clirio'r llwch, torrwch sleisen arall o'r dorth.
Crayon ar bapur wal: Pwyswch ddarn o fara gwyn ar y staen i sugno'r saim a'r lliw.
Crayon ar bapur wal: Gellir defnyddio past dannedd gwyn i symud crayon oddi ar bapur wal golchadwy.
Staen ffrwyth: Gorchuddiwch y staen gyda halen ar unwaith a mwydwch mewn llefrith cyn ei olchi.
Staen glaswellt: Mwydwch mewn methylated spirits, gadewch iddo sychu ac wedyn golchwch ef.
Saim ar ddilledyn: Gorchuddiwch gyda phapur brown a smwddiwch ef gyda haearn claear. Defnyddiwch nifer o bapurau glân nes bydd y saim i gyd wedi ei glirio.
I lanhau metal: Rhwbiwch gyda lemon wedi ei sleisio, golchwch ef i ffwrdd ar unwaith a sychwch ef gyda chadach.
I symud gwm cnoi: Rhowch y teclyn yn y rhewgell am chwarter awr ac fe ddaw'r gwm i ffwrdd yn hawdd iawn.

Rhan o gasgliad Mrs Nans Williams Owen, Bodhunod, Amlwch
(wedi eu dewis yn ôl mympwy'r golygydd)

  • I gadw eich sbectol yn lân, golchwch hi mewn dŵr gyda diferyn o finegr ynddo a bydd y gwydrau yn sgleinio.
  • I wneud i ffwrdd ag arogl cas mewn fflasg, rhowch fymryn o finegr yn y dŵr. Medrwch falu plisgyn ŵy a'i roi mewn dŵr a finegr mewn fflasg a'i ysgwyd yn dda ac fe ddaw'r staen i ffwrdd hefyd.
  • Peidiwch â thaflu dŵr berwi wyau. Gellwch ei ddefnyddio i lanhau llwyau wyau neu os oes gennych chwyn yn yr ardd, mae'r dŵr yn ardderchog i'w lladd. Ond medrwch ei ddefnyddio fel tonic i blanhigion tÅ· gan ei fod yn llawn mwyn!
  • I gadw pryfed oddi ar y ffenestri, yn enwedig yn ystod yr Haf, sychwch y ffenestri efo lledr golchi gyda finegr wedi ei chwistrellu arno.
  • Rhag i fara lwydo yn y bin bara, sychwch y bin efo cadach wedi ei ddipio mewn finegr.
  • Mae halen yn cadw blodau yn fyw yn hirach os rhowch chi fymryn yn y dŵr glân bob tro y byddwch yn ei newid.
  • Er mwyn i'r halen ddod allan o'r pot yn rhwydd, rhowch ychydig ronynnau o reis yn y pot.
  • Rhowch lwmp o fenyn yn y sosban wrth ferwi llysiau ac ni wnânt ferwi drosodd.
  • Rhowch lysiau gwyrdd mewn dŵr berwedig a'u cogonio'n gyflym, gyflym.
  • Tatw newydd - dŵr berwedig. Hen datw - dŵr oer.
  • Mae'r dail tu allan i'r letys yn llawn o fitaminau - mwy o lawer na dail y galon, felly ceisiwch ddefnyddio'r rhai y tu allan.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Oes ganddoch chi gynghorion buddiol i'w rhannu?
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

    Sylw:




    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý