Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Capten William Owen Cofio'r Capten
30 Gorffennaf 2003
Teyrnged i'r Capten William Owen, Hayden Villa, Llanbedrog.
Cyhoeddir y deyrnged hon ym mhapur bro Yr Arwydd, drwy ganiatâd caredig Panel Golygyddol Llanw Llŷn a'r awdur R. Glyn Williams.

Oherwydd fy ngwyliau blynyddol, a oedd wedi'i drefnu ymlaen llaw, methais â mynd i arwyl fy hen gyfaill, Capten William Owen, Hayden Villa, Llanbedrog.

Er imi ymddeol o fod yn weinidog arno ers rhai blynyddoedd, yr oedd yn parhau i'm hystyried felly. Gelwais i'w weld, fel roedd yn digwydd. y prynhawn cyn iddo gael ei gymryd oddi wrthym. Yr oedd yn rhy wael i siarad, ond deallais iddo ynganu'r gair 'gweinidog' ac ychydig a feddyliais y byddai wedi'n gadael drannoeth ar ei fordaith olaf.

Ychydig ddyddiau wedyn cafodd angladd parchus yng Nghapel Rehoboth (E.F.) Llanbedrog (lle magwyd ei annwyl briod, Ellen Catherine Owen) dan arweiniad y Parchedig Peter James, Botwnnog.

Yn ystod y blynyddoedd, cefais aml sgwrs ag ef, ac ni fyddai'n hir cyn mynd â mi i siarad am y môr ac am Ynys Môn. Ganwyd ef yng Nglandon, ym mhentref enwog Moelfre ar 21 Mai 1914 yn fab i William ac Annie Owen, yr ail o chwech o blant. Yr oedd yn gefnder i'r enwog Richard Evans. Moelfre. Fe'i addysgwyd yn Ysgol y Cyngor, Llanallgo ac yn un ar ddeg oed llwyddodd ef a'i gydymaith, yr actor enwog Hugh Grifths, i basio'r Scholarship.

Rhedodd y filltir a hanner adref i roi'r newydd da i'w fam, ond pan glywodd hi synhwyrodd ei bod ar un llaw yn falch ac ar y llaw arall yn drist. Wrth dywallt paned o de iddo dywedodd na allai fforddio ei anfon i'r Ysgol Ramadeg ac fel y gwyddom, digwyddodd hyn i lawer yn y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag ni chythruddodd ac ni chafodd ei siomi yn ormodol: dywedodd wrth ei fam am beidio â phoeni gan ei fod am fynd i'r môr, yr unig alwedigaeth a oedd ar gael ym Moelfre y pryd hynny i fachgen ar fin gadael yr ysgol.

Wedi iddo ddychwelyd ir ysgol y prynhawn hwnnw, gofynnodd y Prifathro, (R. M. Edwards) iddo gymryd gofal o ddosbarth y Babanod am fod Miss Griffith yr athrawes wedi'i chymryd yn wael, a bu'n hapus iawn yn gwneud y gwaith hwnnw dros dro.

Wedi gadael yr ysgol cafodd gynnig mynd i baentio Stanley Street, Moelfre, siop groser a dillad am gyflog o dri swllt, ac wedi iddo gwblhau y gwaith hwnnw derbyniodd deligram yn cynnig iddo ymuno â'r llong Gracechurch a oedd wedi angori yn Sunderland, ac yntau ychydig fisoedd dros dair ar ddeg oed. Teithiodd ar y trên o Fangor a chael ei hun yn Sunderland am saith o'r gloch fore trannoeth, a'i Saesneg yn ddigon prin.

Sylwodd fod y llong yn newydd grai, ac wedi cael cyfweliad â'r Capten ymunodd â'r criw fel deck boy am gyflog o £1.10 swllt y mis.Hwyliodd i ddeheudir Cymru a glanio yn nociau'r Barri gerllaw Caerdydd ac wedi llwytho deuddeng mil o dunelli o lo, dyna hwylio am Buenos Aires a oedd yn fis o fordaith. Yr oedd bwyd ffres wedi gorffen ar ôl deuddydd ac nid oedd oergelloedd yn y dyddiau hynny, felly profodd brinder bwyd maethlon a chaledi bywyd y môr yn gynnar, ac yntau'n fachgen ar ei dyfiant.

Er hynny, ni ddigalonnodd a phenderfynodd wneud galwedigaeth fel morwr er garwed yr ymddangosai pethau ar y cychwyn. O Buenos Aires hwyliodd am Montevideo, ac ar ôl llwytho deuddeng mil o dunelli o indrawn (maize) yno, mynd ymlaen am ddeheudir Ffrainc i Marseilles, ac oddi yno drwy'r Mor Du heibio i hen ddinas Caercystennin, yna ymlaen i eithafoedd gogledd Rwsia, lle'r oedd yr hin yn gynddeiriog o oer. Sylwodd y Capten ar long arall wedi angori dros y bae, ac ar ôl gweld mai ei gefnder oedd Capten honno, cafodd ein cyfaill ifanc y gorchwyl o rwyfo'r Capten dros y bae i ymweld â'i gefnder!

Ar y llong cafodd deisennau i'w bwyta a llawer o groeso. Wrth adael Rwsia dysgodd y bachgen o Foelfre sut i lywio llong a chafodd fod wrth y llyw wrth iddynt fynd trwy Gulfor Medina, yr Eidal pan y'i goddiweddwyd gan storm arw. Wrth adrodd am y digwyddiad yn ddiweddarach, wedi cyrraedd porthladd Embden yn yr Almaen yn ddiogel, soniodd am ei ddychryn a'r ffaith ei fod wedi ystyried gadael y môr am byth.

Yr oedd yn anfon pymtheg swllt y mis o'i gyflog i'w fam a oedd yn ei adael gyda phymtheg swllt iddo'i hunan. Gadawodd y llong yng Nghasnewydd, Gwent ar ôl un mis ar ddeg o wasanaeth gyda phum punt o gyflog. Yna, wedi dychwelyd i Foelfre ar ôl ei fordaith gyntaf, aeth yn syth at ei daid i dalu dyled o bunt iddo, y swm a roes ei daid yn fenthyg iddo wrth gychwyn i'r môr.

Ei daid, Richard Mathews, oedd cigydd y pentref. Yr oedd mor falch o weld ei wyr wedi cael dod adref yn ddiogel, ac yn gwerthfawrogi ei onestrwydd yn talu'r ddyled, fel y rhoes £5 yn anrheg iddo. Yr oedd hyn yn wers bwysig i fachgen pymtheg oed ac ni anghofiodd y wers honno gydol ei oes.

Ar ôl ysbaid adref dychwelodd ir môr. Yn fuan pasiodd ei arholiadau ac yn dair ar hugain oed enillodd ei dystysgrif Capten: dipyn o gamp, gallwn feddwl, i fachgen mor ifanc. Adeg yr Ail Ryfel Byd bu'n cario llwythi o bob math ar draws yr Iwerydd ac o gwmpas traethau Cymru a gwledydd eraill Prydain: gwaith eithaf peryglus yng nghyfnod y rhyfel, ac ni ddihangodd heb gael ei fomio fwy nag unwaith - ond yn ffodus llwyddodd i arbed ei long bob tro, a chyrraedd y lan yn ddiogel.

Yr oedd yn flin, fel llawer o'i gydforwyr am na chafodd y Llynges Fasnachol (Merchant Navy) ei chydnabod am y gwaith aruthrol a gyflawnodd drwy gyfnod ofnadwy y rhyfel. Credaf fod cydnabyddiaeth wedi dod erbyn hyn, ond yn rhy hwyr i lawer o'r morwyr dewr a fentrodd eu bywydau mewn cyfnod anodd.

Bu'n feistr ar amryw o longau yn perthyn i wahanol gwmnïau o Lerpwl, yr Iwerddon, Bryste a Manceinion ac roedd yr amryfal gwmnïau yn ei barchu am y gwyddant ei fod yn gydwybodol a gonest a dibynadwy. Ymddeolodd ar ôl blynyddoedd hapus ar y môr yn y flwyddyn 1979 a setlo yn Llyn, lle mae ei blant, Dennis, Gwenda a Meryl yn byw gyda'u teuluoedd.

Bellach, hwyliodd i mewn ir porthladd tawel, clyd, o swn y storm a'i chlyw. I ddiweddu'r deyrnged anghyflawn hon, dyfynnaf o drosiad ardderchog ein cyfaill Dic Goodman, Mynytho o Crossing the Bar, Tennyson -

Machlud seren yr hwyr,
Ac i mi, un galwad clir.
Na fydded ubain oerllyd ar y bar
Wrth imi adael tir.

A'r llanw hwnnw'n llenwi'n swrth a llyfn
Rhy rymus i greu stwr,
Wrth droi am adref o'r diderfyn dyfn
I lan y dwr.

Sain cloch a therfyn dydd,
Ac yna'r caddug maith,
Na fydded tristwch, na ffarwelio prudd,
Pan af i'm taith.

Ac er i'r llong a'r llanw 'nwyn i ffwrdd
O fyd ac amser dyn,
Gobeithiaf y caf weled ar ei bwrdd
Y Peilot mawr ei hun

R. Glyn Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý