Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Cyn weinidogion a blaenoriaid Dathlu'r 100
Hydref 2005
Cafwyd dathliadau yng Nghapel Pengarnedd, Rhosgoch, i ddathlu carreg filltir arbennig yn hanes y capel.
Nos Iau, 14 Gorffennaf 2005, gwelwyd Capel Pengarnedd, Rhosgoch yn llawn i'r ymylon o aelodau, cyn-aelodau a chyfeillion a oedd wedi ymuno i ddathlu canmlwyddiant corffori'r eglwys.

Croesawyd pawb yn gynnes gan Mrs Ann Lewis, Llywydd y cyfarfod. Cymerwyd y rhannau arweiniol gan Mrs Gwenda A. Williams, yna estynnodd Ann Lewis groeso arbennig i Lywydd Henaduriaeth Môn, Mr Dafydd H. Roberts; yr Ysgrifennydd, Mr Ted Huws B.Sc.; Llywydd Cyfarfod Dosbarth Amlwch, Mr John C. Jones a'r Ysgrifennydd, Mr Owen Jones hefyd dau gyn weinidog yr eglwys, y Parchedig Fred Hughes, a Mrs J. Hughes a'r Parchedig Dafydd Rees Roberts B.Sc., B.D., a'r pregethwr gwadd, y Parchedig Emlyn Richards B.A., B.D.

Cyflwynodd y Llywydd Flaenoriaid presennol yr Eglwys, sef Mr Owen Jones (1955), Mr E. O. Jones (1962), (yn anffodus dydi iechyd Mr Jones ddim wedi bod yn arbennig o dda yn ddiweddar ac nid oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod ond anfonwyd ein cofion cynhesaf ato), Mr John R. Williams (1962) Mrs Eirlys M. Jones (2002), Mr Owen Glyn Jones (2002), ac Mr William Jones (C) (1978).

Eglwys PengarneddCafwyd peth o hanes yr Eglwys o'r corffori'r yn 1905 hyd 1955 gan Mr John R. Williams ac yna yn dilyn yr hanner canrif ddiwethaf gan Mr Owen Jones sydd wedi bod yn aelod yn Rhosgoch ers 1949.

Braf iawn oedd cael cwmni y ddau gyn weinidog a buont yn hel atgofion am eu cyfnod yn Rhosgoch. Y Parchedig Fred Hughes o 1956 hyd 1974 a'r Parchedig Dafydd Rees Roberts o 1977 hyd 1986 - yr unig ddau yn ystod y ganrif - mae'r Eglwys yn ddiweinidog ers dros ugain mlynedd ond yn dal i ymlafnio'n 'mlaen.

Cyflwynodd y Llywydd, y Parchedig Emlyn Richards gan fanteisio ar y cyfle i ddiolch iddo am ei wasanaeth a'i gefnogaeth i'r achos yn Rhosgoch dros y blynyddoedd. Yn ôl yr arfer cafwyd pregeth ardderchog a phwrpasol i'r achlysur. Yr organydd oedd Ann Lewis. Diolchodd Mr Owen Glyn Jones i bawb a oedd wedi cymryd rhan ac wedi gweithio i sicrhau llwyddiant y noson, hefyd i Mr Dei Owen a theulu Rhos Engan am ganiatáu inni gael defnyddio cae gerllaw i hwyluso gyda pharcio.

Yn dilyn y cyfarfod trwy garedigrwydd y Llawfeddyg, Mr Huw Griffith a Mrs Jane Griffith croesawyd pawb i Glasgraig i gael lluniaeth. Roeddynt ynghyd â merched Pengarnedd wedi darparu'n helaeth ar gyfer pawb. Hefyd cafwyd cacen pen blwydd wedi ei gwneud a'i haddurno gan Miss Rhiannon Jones. Diolchodd Ann Lewis yn gynnes iawn i Mr a Mrs Huw Griffith am eu croeso a chyflwynodd dusw o flodau i Mrs Griffiths fel arwydd o'u gwerthfawrogiad.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý