Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Porthladd Caergybi - sail dros sefydlu gweriniaeth Môn?! Holi cyfreithwyr
Ebrill 2005
Cymdeithas Lenyddol Bro Goronwy
Fe fyddwn yn arfer cael noson arbennig o ddiddorol pan fyddwn yn gwahodd tri o banelwyr i ddatgan barn ac i ateb cwestiynau'r aelodau.
Ac ni fu'r panelwyr a wahoddwyd eleni yn eithriad wrth i'r cyfreithwyr Eleanor Davies, Ieuan Redvers Jones a John Meredith wynebu cawod (wel, rhyw hanner dwsin!) o gwestiynau wedi eu dewis gan yr holwr craff-brofiadol, Vaughan Hughes.

Cafwyd atebion diddorol iawn i'r honiad mai asyn yw'r gyfraith. Hoff ddinas Ieuan Redvers Jones yw St Peterburg, gan iddo gael y wefr o weld y darlun Dychweliad yr Afradlon - ac yntau'n gorfod rhoi tro cofiadwy ac arwyddocaol yn ôl i weld y darlun yn iawn. Ond ar Foscow yr oedd bryd Eleanor Davies, a John Meredith yn profi hudoliaeth yn nes adref yn Sycharth.

Ym myd y drwgweithredwyr fe hoffai Eleanor wybod paham yr oedd Dr. Shipman eisiau cymryd rhan Duw. Hoffai John Meredith gyfarfod â Guto Ffowc a gwybod ai ysbïwr oedd Shakespeare. Hoffai Ieuan Redvers Jones wybod sut cafodd Hitler a Bin Laden y fath atgasedd tuag at eu cyd ddynion.

Yr oedd John Meredith am holi Goronwy ynglŷn â'i gymhelliad i adael Môn. Hoffai Eleanor Davies a Ieuan Redvers gael sgwrs â'r Barnwr Denning a buasai cael gair â Beethoven yn ateb ambell gwestiwn i Ieuan Redvers hefyd. Oes Victoria oedd yn apelio at Eleanor Davies ac Ieuan Redvers Jones ond fe fuasai cyfnod yn Oes yr Haearn yn ateb llu o gwestiynau i John Meredith.

Pa ddeddf sydd ei hangen ar Fôn? Yn ôl Eleanor Davies, deddf i warchod ein hadnoddau gwledig - post, banc ac ysgol. Fuasai Ieuan Redvers Jones ddim yn gwrthwynebu deddf i ail bobi Cyngor Sir Ynys Môn a chan fod gennym Faes Awyr, Porthladd a Gorsaf Bŵer fe groesawai John Meredith ddeddf fuasai'n cyhoeddi annibyniaeth gweriniaeth Môn.

Sut ddiwrnod fuasai diwrnod delfrydol i aelodau'r panel? John Meredith - brecwast da, cerdded dros y Carneddau, pryd ysgafn, gwely a photel ddŵr poeth. Eleanor Davies - eistedd dan goeden ar lan afon yn yr haf hefo llyfr da ac mewn heddwch pur. Ieuan Redvers Jones - codi 6.30 o'r gloch yn ei gell tan hanner dydd, gweld Lerpwl yn curo Manchester United, yna tanllwyth o dân a llymaid o gynhesrwydd i ymlacio.

Noson ddifyr yn wir ac y mae ein dyled yn fawr i'r cadeirydd ac i'r tri phanelydd am roi cymaint o fwynhad i ni - ac am eu haelioni. Cydnabyddir cefnogaeth yr Academi.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý