Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Dosbarth Mrs Tarrant ar Lwybr y Mwynwyr Ysgol Gynradd Rhosybol
Gorffennaf 2005
Dyma ddiwedd blwyddyn ysgol arall, i ble mae'r amser yn mynd? Bu'r wythnosau olaf yn rhai prysur iawn yn yr ysgol i'r plant a'r athrawon!
Llongyfarchiadau mawr i'r plant am gymryd rhan yn yr ymgyrch sillafu ac am liwio'r llun siapiau ar lan y mor i godi arian tuag at yr elusen NSPCC. Llwyddodd y plant i gasglu £367.86c tuag at yr NSPCC. Da iawn chi! Diolch o galon i bawb a gyfrannodd.

Daeth Mr Ambrose i'r ysgol i dynnu lluniau'r plant a'u gosod argylchau allweddi. Gobeithio i chi gofio gwenu!

Daeth y gwerthwyr gwisg ysgol Orchid Fashions i'r ysgol i bawb gael cyfle i weld a phrynu'r wisg ysgol swyddogol.

Daeth Mrs Gwyneth Jones a Mrs Linda Jones o Ysgol Syr Thomas Jones i Rosybol at blant Bl 6 i sgwrsio ychydig am yr Ysgol Uwchradd. Ar 28 Mehefin cafodd plant Bl 6 gyfle i dreulio diwrnod cyfan yn yr Ysgol Uwchradd. Dymunwn lwc dda i'r holl blant sy'n gadael Rhosybol am Ysgol Syr Thomas Jones.

I Barc Henblas a Llechwedd bu'r plant ar dripiau eleni. Dosbarth Mrs Hughes yn cael diwrnod o hwyl yn Henblas a dosbarthiadau Mrs Tarrant a Mr Jones yn mwynhau yn Llechwedd.

Mwynhau perfformiad o'r ddrama 'Y Daith' wnaeth plant dosbarth Mr Jones. Cawsant ymuno â phlant Moelfre a phlant Llanbedrgoch yn Ysgol Gynradd Moelfre.

Cerdded Llwybr y Mwynwyr ar lethrau'r Wyddfa ym mhentref Llanberis bu Mrs Tarrant a'r disgyblion. Cawsant ddiwrnod braf a phawb wedi mwynhau.

Mae eleni'n flwyddyn drist yn hanes yr ysgol. Mae'r Prifathro, Mr Gareth Jones yn ymddeol wedi 17 mlynedd fel Prifathro yma. Bu'r cyfnod hwn yn gyfnod hapus, llawen a hwyliog yn ei gwmni. Hoffai'r plant i gyd ddiolch yn fawr iddo a dymuno ymddeoliad hapus, hapus iawn iddo.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý