Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Y Parchedig Emlyn John Pen-blwydd yn 90
Chwefror 2007
Pen-blwydd hapus iawn y Perchedig Emlyn John, Cemaes, yn 90 oed.
Balch iawn yw'r Arwydd o gael llongyfarch y Parchedig Emlyn John ar ei ben blwydd arbennig.

Mae'r gweinidog hynaws wedi treulio 62 o flynyddoedd yn yr ardal a gellid yn hawdd ychwanegu rhes o deitlau i roi darlun llawn ohono dros y blynyddoedd - Pregethwr, Ysgrifennydd a Chlerc Cyngor, garddwr, heddychwr, pleidiwr ac ymgyrchwr dros y Gymraeg.

Ar ben hyn oll mae'n selog gyda'r tîm sy'n plygu'r Arwydd yn fisol ac mae'n dosbarthu tua 100 rhifyn yn fisol yn ardal Cemaes. Yn wir mae'n cael ei adnabod gan rai fel Mr Arwydd.

Dyma ddethol ychydig o frawddegau o'r bennod ar Bregethwrs Môn trwy garedigrwydd ei gyd weinidog yng Nghemaes am 45 o'r blynyddoedd, y Parchedig Emlyn Richards :

"wedi'i fagu ym Mro'r Preselau ac, yn bwysig iawn, yn hannu o deulu enwog y Johnsiaid - teulu gyda gwreiddioldeb naturiol a rhyw lewder dihafal. Y glewder hwnnw a'i gyrrai ymlaen yn wyneb pob rhwystr".

"Edrych yma, os oedd yna gymhelliad o gwbwl i'r weinidogaeth, cymhelliad o'r tu fas ac nid o'r tu fewn oedd o."

"Taniwyd fflam yr heddychwr, nas diffoddwyd yn enaid Emlyn."

"cyfarfu â Gwyneth - merch o'r un anian ac yn rhannu'r un argyhoeddiadau cenedlaethol."

"bu Emlyn John fel lefain yn holl fywyd y gymdeithas ¬bod o wasanaeth cyffredinol i bawb, heb falio beth fyddai natur y gwasanaeth hwnnw - dyna ystyr ei weinidogaeth." "rhinwedd na flina Emlyn John eu canmol oedd 'dal ati' a bathodd y gair 'dalifyndrwydd."

"cafodd yr un argyhoeddiad ac angerdd eu trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall- mae'n amlwg ar y plant Eleri a Gwilym."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý