Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Chwaraewyr pêl-droed Ambell Damaid
Medi 2004
gan Dafydd Islwyn
Ail echdoe, flynyddoedd yn ôl a hithau yn fore Sadwrn, rydw i, Thompson, Tecsas ac un neu ddau arall yng nghegin 1 Nant Terrace.
Rydan ni yno gan fod Phuan - Ieuan Owen, ail fab Mr a Mrs Edward Owen, sy'n byw yno, wedi trefnu gêm bêl-droed rhwng Hogia Pentraeth a Hogia Llansadwrn. Rydan ni yno ers meitin yn disgwyl a disgwyl i rhywun ddweud wrthym bod tîm Llansadwrn yn disgwyl amdanom ar y Bryniau.

Blynyddoedd yn ddiweddarach:

Canslio'r Gem
Mae rhywbeth o'i le
wrth droed Mynydd Llwydiarth

Mae'r tonnau yn torri
yn dristach yn Nhraeth Coch

Mae rhyw ddieithrwch yn
Rhes y Nant
a hiraeth ym Maes Geraint

Mae saith ohonom
ar gae Y Bryniau
yn hel ein pac
i gicio'n sodla
o flaen Cloth Hall.

Dydy Thompson na Tecsas,
Seus na Phuan
ddim ar gael.

Os oedd yna Thompson yn nhîm Hogia Pentraeth yr oedd yna un hefyd yn chwarae i dîm Rhyl Athletic - tîm cryfa Gogledd Cymru am rhyw ddeng mlynedd wedi'r Ail Ryfel Byd. Enillodd y tîm nifer o gwpanau ac yn eu mysg Cwpan Cymru dwy flynedd ôl yn ôl.

Curo Merthyr Tudful yng Nghaerdydd ym 1952 a blwyddyn yn ddiweddarach ar gael Ffordd Farrar, Bangor, curo Caer o ddwy gôl i un. Aelodau amlwg i'r tîm hwnnw oedd Eric Ferguson, Torn McKillop, y Capten a Don Spendlove y centre forward. Don Spendlove sgoriodd y gôl a enillodd y gêm i Rhyl.

Y chwaraewr a basiodd y bêl iddo oedd John Thompson, Albanwr a chwaraeai inside left. Daeth ef a nifer eraill o Albanwyr i chwarae i Rhyl dan adain y rheolwr, Billy Russell. Bu'n chwarae i Rhyl am nifer o flynyddoedd. Ychydig fisoedd ar ôl chwarae i Rhyl yn rownd derfynol Cwpan Cymru ymunodd â Bangor City am dymor 1953-54. Ei bartner ar yr asgell chwith i Fangor oedd Beriah Moore. Doedd gan y ddau fawr o wallt!

Bu farw William Thompson mis Mai 2002. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach bu farw Tecsas, Tecwyn Parry, Bronwen. Ynghanol mis Gorffennaf 2003 bu farw Seus, Eifion Roberts, 6 Nant Terrace, Pentraeth a rnis Mehefin eleni bu farw Phuan, Ieuan Owen, 28 Maes Geraint. Diwrnod olaf o fis Mawrth eleni y bu farw John Thompson yn y Rhyl. Fe setlodd nifer o'r Albanwyr yn y Rhyl ar ôl iddynt orffen chwarae pêl-droed.

Gan fod gen i ddiddordeb mawr yn hanes pêl-droed Cymru dros ddegawd y pumdegau ysgrifennais at Mrs Patricia Thompson, gweddw John Thompson, y Rhyl. Yn sgîl yr ohebiaeth rydw i wedi derbyn dau lun ganddi, llun tîm Y Rhyl 1952-53 a thîm Bangor City 1953-54. Yn ystod y cyfnod dan sylw roedd Walter Rowlands wedi symud i fyw o Gefn Hir ac Yncl Hugh ac Anti Mary wedi symud o Rhos Farm i ffarmio Cefn Hir.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý