Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Arwydd ar y ffordd enwog ei hun Route 66...
Tachwedd 2007
Dewi Wyn Williams yn sôn am ei daith ar hyd y Route 66 enwog yn yr Unol Daleithiau.
20 Ebrill Yng nghefn gwlad Missouri, rhan mwya' gwyrdd Route 66, sylwi bod y coed i gyd yn ddu, di-ddail. Tân, tybed? Na, 'storm rew' a dreisiodd y coed ryw dair wythnos ynghynt. Y berthynas rhwng tân a rhew yn agosach nag o'n i'n feddwl. Rhew yn rhywbeth diarth yma yng nghanol mis Ebrill. Be' nesa'? Yr eirth brown yn troi'n rhai gwyn?

Ymweliad byr a'r Gay Parita, hen garej draddodiadol, gyda llaw. Ei pherchennog, un o ysbrydion Route 66, wrth ei fodd yn cyfarfod dau o 'Wales, is that in England?'

Yna crwydro rownd Red Oak Two, pentre' ffug, rhyw fath o Sain Ffagan Canol America. Yn yr ysgol fechan, teimlo'n hen unwaith eto wrth sylwi bod y cadeiriau, desgiau, potiau inc, y gloch, y cloc, y gansan fedw a'r bwrdd du yn union fel rhai Ysgol 'Sarn yn y 60au ac ysbryd Jos Sgŵl i'w deimlo o'm cwmpas.

'Sgwennodd Bambŵ bob lythyren o 'Llanfairpwll' ar y bwrdd du gyda sialc ae mae pob ymwelydd siwr o fod yn crafu pen hyd heddiw.

Gyrru trwy Kansas am 13 milltir wrth i ni dorri'i chongol cyn cyrraedd talaith Oklahoma - Welcome to Native America. Bellach roedd Route 66 mewn sawl man yn fwd sych a phridd ar ei gwaetha' ac yn gerrig man ar ei gorau.

Yn dyllog hefyd a 'doedd fan 'ma ddim yn le i gael pynctiar! Y dalaith yn f'atgoffa o Fôn - gwastad, gwyntog, agored - ac yn brolio'r Totem Pole mwya'n y byd. Ond roedd o'n dipyn llai na Thŵr Marcwis.

21 Ebrill - Dinas Oklahoma.
Yng nghân Nat King Cole Get Your Kicks On Route 66, disgrifiwyd hi fel Mighty Pretty. Yn y 30au gadawodd 30% o boblogaeth Oklahoma - eu gobeithion a'u breuddwydion yn eu trycia' a'u carafanau.

Dioddefodd y ddinas yn yr 80au hefyd pan aeth y diwydiant olew i'r wal. Ac yna'r 90au ... Ymweld â'r Ardd Goffa sy'n coffau'r drychineb a ddigwyddodd yn y man hwnnw ym mis Ebrill1995 pan, yn ôl yr honiad, parciodd Timothy McVeigh ei dryc Ryder wrth ddrws Adeilad Ffederal Alfred P. Murrah, a chwythu 168 o bobol i ebargofiant ac anafu dros wyth cant.

Glanio ar y lleuad, marwolaeth Elvis - rwy'n cofio'r digwyddad hwn yn glir hefyd. Llyn sydd bellach ble'r oedd y stryd a 168 o gadeiriau mawr a bach lle bu'r adeilad, i goffau'r oedolion a'r plant.

Ar un pen i'r llyn, gwelir yr amser 9.01 'pan gollwyd diniweidrwydd' ac ar y pen arall 9.03 pan 'newidiodd popeth am byth'. Bwriad McVeigh oedd dial ar lywodraeth Clinton am ei ymyrraeth tanllyd yn Waco ddwy flynedd union yn gynt.

Wel, dyna'r honiad. Heddiw mae amheuaeth fawr ynglÅ·n a chyfraniad McVeigh i'r bomio gyda nifer o arbenigwyr yn honni ei bod yn amhosib i un bom gwrtaith greu ffasiwn ffrwydriad a bod pum bom wedi chwythu'r adeilad i fyny'r bore hwnnw am 9.02.

Inside job, terfysgwyr estron a'r FBI, y Llywodraeth eu hunain, at y rhain mae'r bysedd yn anelu bellach. Ond McVeigh a ddienyddiwyd yn 2002, yr useful idiot fel y'i gelwir.

Taith rwystredig ac ofer yn aml yw'r un i ganfod y gwir, hyd yn oed ar Route 66. Tydan ni ddim yn gwybod ei hanner hi ...

Wedi fy sobri gan gyfrinachau Oklahoma, gyrru 'mlaen i ganol gwynt cryf yn Clinton lle bu Elvis yn aros yng Ngwesty'r Trade Winds (enw addas iawn!)

Cael ein hatgoffa mewn amgueddfa am gefndir y Depression wrth edrych yn gegrwth ar luniau o stormydd llwch yn codi gannoedd o droedfeddi i'r awyr gan ladd cnydau ac anifeiliaid a llwgu'r bobol.

Doedd dim i'w wneud ond llwytho'u ceir a'u tryciau gyda'u holl feddiannau a 'nelu am y Gorllewin (210,000 ohonynt i Galiffornia) a'r Dwyrain (Chicago) ar hyd Route 66, y ffordd a'u hachubodd.

Ar ôl deall mewn diner mai Burn the British oedd toast and English muffin a taw burger with breath oedd byrgar efo nionyn, mi ddechreuais fyddaru Bambŵ trwy ganu Is this the way to Amarillo? drosodd a throsodd gan taw Amarillo, tref gowbois hyd heddiw, oedd man nesaf y daith.

Croesi'r paith yn Texas, cartref oil-field roughnecks a self-made millionaires, cowbois go iawn a llwythau'r Indiaid Cochion gynt, y Cheyenne a'r Arapaho.

Dyma lle bu bison yn cael eu hela, miloedd o aceri o wastatir gwag, gwyntog, wedi ei grasu'n felynfrown yn yr haul tanbaid ... nes i ni gyrraedd blanced o awyr ddu dros Amarillo, glaw trwm a chorwynt! Rhybudd ar y newyddion, 'Stay indoors and beware of hail the size of tennis balls!'

Gair ola'r frawddeg oedd fy ymateb inna' wrth feddwl beth fyddai'n digwydd petai'r peli tennis yn taro'r car benthyg! Ond o drwch pluen Sitting Bull, aeth y storm heibio ac mi fwynheais briodas 'gowboi' yn y gwesty - pawb mewn Stetsons a phar o jins, a line-dancing oedd y smooch!

Fet Rhosybol ar nos Sadwrn dda.

22 Ebrill - Ar gyrrion Amarillo.
Ymweld â deg Cadillac, symbolau o oes aur Route 66, wedi eu claddu mewn cae a'u chwistrellu gyda phaent graffiti - yn enw 'celf, be' arall?

Cyrraedd y 'caffi hanner ffordd' a'r geiriau doeth If a man could have half his wishes he would double his troubles, cyn croesi i dalaith New Mexico, Land of Enchantment, a theimlo'n 'fengach wrth droi'n watsus yn ôl awr! Am unwaith, tydi amser ddim yn fflio!

23 Ebrill - Santa Fe.
Caru'r lle yn syth. Sbaeneg ei phrif iaith a'i phensaernïaeth yn gymysgfa o Sbaen, Mecsico a pueblos yr American Brodorol. Saith mil o droedfeddi uwchben y môr, heb os, dinas fwyaf unigryw Route 66.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý