Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
HMS Victory Mynydd Parys a Brwydr Trafalgar
Mawrth 2005
Caiff deucanmlwyddiant Brwydr Trafalgar ei ddathlu eleni. Baner long Nelson yn y frwydr wrth gwrs oedd yr HMS Victory.
Ac un o'r rhesymau dros lwyddiant y llong hon oedd y ffaith ei bod yn hawdd ei thrin a'i symud yn gyflym.

Rhoddwyd y diolch am hyn yn rhannol i'r gorchudd o gopr oedd yn gwarchod ei gwaelod rhag y llyngyr môr oedd yn ei bwyta, a'r cregyn llong oedd yn tyfu arni ac yn ei harafu.

Mae perthynas agos iawn rhwng y gorchudd ar y Victory a'r ardal hon gan mai o byllau Thomas Williams, Parys a Mona y daeth y copr. Ac nid yn unig hynny, roedd y bolltau a oedd yn cysylltu'r haenen ar gorff pren y llong hefyd wedi'u gwneud o gopr o Gymru.

Ym 1761 dechreuodd y Llynges Frenhinol arbrofi trwy roi haenen gopr ar waelod ei llongau, a'r ffrigâd The Alarm oedd y gyntaf i gael ei thrin. Y syniad oedd i adeiladu haen ychwanegol ar du allan y rhannau hynny o'r llong oedd o dan y dŵr er mwyn eu gwarchod rhag ei difrodi a'u baeddu. Awgrymai'r profion cyntaf bod yr haenen gopr yn daclus iawn, a heb fod yn rhy drwm na'n rhy ddrud. Gan ei bod yn aros yn lân, roedd yn golygu y gallai llongau hwylio'n gyflymach, treulio llawer mwy o amser ar y môr cyn gorfod cael eu trwsio, a threulio llai o amser yn yr ierdydd yn cael eu trwsio.

Er hynny, roedd y Llynges ar fin rhoi'r gorau i ddefnyddio haenau copr erbyn 1782 oherwydd iddi golli nifer o longau. Ym 1780 roedd yr HMS Royal George wedi'i hangori yn Harbwr Portsmouth pan holltodd ei chorff o gwmpas lefel y dŵr. Roedd 900 o bobl ar fwrdd y llong a bu farw pob un ohonynt. Yn yr ymchwiliad a ddilynodd, penderfynwyd bod y bolltau haearn a ddefnyddid i ddal yr haenen gopr wrth gorff y llong wedi rhydu oherwydd i'r ddau fetel adweithio a'i gilydd. Roedd hyn, yn ei dro, wedi achosi i'r pren oddi tanodd bydru.

Gan sylweddoli ei fod mewn perygl o golli marchnad fawr i'w gopr, aeth Thomas Williams ati i annog nifer o bobl i archwilio'r broblem. Llwyddodd Westwood i galedu a ffurfio bolltau trwy ddefnyddio rholeri a rhigolau o faint penodol, a defnyddio dŵr i oeri'r metal yn ystod y broses anelio.

Yn sgîl ei waith ef, a gwaith Collins ar y broses gynhyrchu, rhoddwyd patent ar folltau newydd wedi'u gwneud o gopr Mynydd Parys. Cant eu cynhyrchu yn Greenfield, Sir y Fflint, a rhoddwyd hwy ar werth gan Thomas Williams ym 1784.

Oherwydd y patent hwn ar y bolltau copr, a'r ffaith bod digonedd o gopr ar gael ym Mynydd Parys, roedd gan Thomas Williams fonopoli llwyr bron ar gyflenwi'r Llynges Frenhinol.

Cafodd yr HMS Victory ei hadnewyddu'n ddiweddar i ddathlu dau gan mlwyddiant Brwydr Trafalgar. Llwyddodd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch i gael gafael ar ddarn o'r haenen gopr gwreiddiol oddi ar y Victory, a chaiff ei arddangos erbyn hyn yn y Ganolfan Dreftadaeth a fydd yn ail-agor yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Y gobaith yw y bydd model o'r HMS Victory, wedi'i gynhyrchu'n lleol, yn cael ei arddangos yno hefyd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý