Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Heddlu newydd Amlwch? Ysgol Gynradd
Gorffennaf 2008
Blwyddyn gyfan wedi gorffen erbyn hyn ond y bwrlwm yn parhau yn Ysgol Gynradd Amlwch.
Adeg y tripiau, y mabolgampau a'r chwaraeon ydi hi rŵan a phawb yn mwynhau cyn hamdden dros yr haf.

Mae plant BI 6 yn barod wedi ymweld a'r Ysgol Uwchradd yn ddiweddar ac wedi cael rhywfaint o flas ar yr hyn fydd yn eu hwynebu mis Medi.

Bu nifer helaeth o'r plant yn llwyddiannus ym Mabolgampau Cylch yr Urdd ond yn anffodus, oherwydd y tywydd bu raid gohirio'r Mabolgampau Sirol. Gresyn am hyn ond ni allwn newid y tywydd!

Daeth tîm pêl-droed y merched yn fuddugol mewn twrnament a gynhaliwyd yn Ysgol Syr Thomas Jones ganol y mis. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw.

Mae PC Brian Jones yn ymwelydd cyson a phob dosbarth yn yr ysgol ac yn trafod amrywiaeth o destunau gyda'r plant gan gynnwys peryglon yn y cartref, rôl yr Heddlu a sut i gysylltu a'r gwahanol wasanaethau argyfwng. Mae'r plant wrth eu bodd yn gwrando ac yn cael cyfle i chwarae rôl drwy ddysgu agweddau holl¬ bwysig yr un pryd.

Mae'r dosbarthiadau i gyd wedi bod ar amrywiol ymweliadau yn ystod y mis.

Y rhai cyntaf i deithio oedd plant BI 5 pan gawsant lawer iawn o hwyl yn sgïo ac yn cael mynd ar dobogan yn Llandudno.

I Gelli Gyffwrdd yr aeth plant BI 3 a 4 gan fwynhau eu hunain yn fawr yn blasu'r amrywiaeth o weithgareddau a oedd yn cael eu cynnig yno ar eu cyfer.

Bl 1 a 2 oedd y rhai nesaf i fynd i Sŵ Caer a phawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr yng nghanol yr anifeiliaid.

Mentrodd Bl 6 dros y môr i'r Iwerddon gan ymweld a Dulyn. Dyma'r tro cyntaf i nifer ohonynt gael y cyfle i ymweld a'r Ynys Werdd ac roedd yn brofiad bythgofiadwy.

Aeth plant y Dosbarth Meithrin, y staff a'u rhieni i Sŵ Bae Colwyn a'r plant wedi gwirioni'n lân ar gael trip mewn bws!

I Sbri Môn yr aeth y Dosbarth Derbyn ac roedd hyn yn brofiad newydd iddynt hwythau hefyd gan mai dyma'r tro cyntaf iddynt fynd allan ar drip o'r ysgol heb eu rhieni pawb wedi cael hwyl fawr!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý