Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Jean Hughes gyda'r plât goffa Hanes y plât goffa
Mehefin 2008
Noson Gymdeithas y Leinws ydoedd yn niwedd Chwefror eleni a minnau yn ystod y dydd wedi bod yn edrych ar feddau yr hen deulu ym Mynwent Amlwch.
Yno mae bedd fy hen, hen nain, Ann Jones, Pont Felin Hen, a fu farw 8 Awst 1910 yn 102 mlwydd oed.

Nepell o'i gorweddfan saif carreg fedd ei merch, Ann Parry a'i phriod Henry Williams Parry, 11 Stryd Wesla. Hwy oedd fy hen nain a thaid.

Tua 1880, derbyniodd Henry William Parry ddau gant a hanner o bunnoedd, swm enfawr yr adeg honno, fel rhan o ewyllys ei ewythr a fu fawr ym Milwaukee, America.

Gan fod teulu Jean Hughes wedi trigo yn Stryd Wesla ers blynyddoedd lawer, cyn gadael y Leinws gofynnais iddi a fyddai ei mam hwyrach yn cofio clywed rhywbeth am yr hen wraig Ann Jones.

Bythynnod

Drannoeth cysylltodd Jean â mi gan ddweud fod ganddi blât coffa am Ann Jones, Y Bont, Amlwch.

Cyn creu ffordd osgoi Stryd Wesla, safai gynt rhwng Capel Wesla a Garej Rock & Roll res o fythynnod gwyngalchog, melin ddwˆ r ger yr afon a chapel bach gerllaw.

Yn y bwthyn ger y felin a phont Melin Hen y trigai Ann Jones yn 102 mlwydd oed.

Roedd yn fywiog ac iach ond wrth sefyll ar stôl i gyrchu tun o ben rhyw silff uchel disgynnodd a thorri ei chlun. Canlyniad y ddamwain fu iddi farw o niwmonia.

Pan fu farw Ann Jones, talodd ei merch Ann Parry i grochenydd yn Amlwch i lunio plât goffa i'w gyflwyno i ffrindiau a chymdogion ei mam.

Roedd rhes o dai â llofft yr ochr arall i'r ffordd gul gyferbyn â'r bythynnod, ac yno trigai Ann ac Ebenezer Pritchard yn 52 Stryd Wesla.

Fel cyfaill agos y teulu y derbyniodd Ann Pritchard y plât coffa.

Gofal

Pan fu farw Ann ac Ebenezer Pritchard aeth y plât i ofal tyner Ann May Hughes a oedd yn byw yn 38 Stryd y Farchnad.

Wedi marwolaeth Ann May Hughes daeth y plât i feddiant Mrs Jane Hughes, mam Jean ac wrth ei gludo o Stryd y Farchnad torrodd yn ddwy ran yn y fasged.

Nid oedd gan Jean na'i mam syniad pwy oedd Ann Jones, Y Bont, ac er fod y plât wedi torri cadwodd Jean ef yn ofalus.

Wedi gwrando ar hanes fy nheulu estynnodd Jean y ddau ddarn i mi a chyda nerth y Super Glue mae'n blât cyfan unwaith eto.

Diolch i Mrs Jane Hughes a Jean am ei warchod dros yr holl flynyddoedd.

Mae'r delyneg sydd arno yn eithriadol o dlos a theimladwy ac yn werth ei chofio.

Rhodder pridd ar ei gorweddfan
Tyfed glaswellt dros ei gwedd
Gwywed oerwynt llawer gaeaf
Flodau'r haf ar lan ei bedd.
Byth ni thyfa glaswellt anghof
Dros ei henw yn fy mron
Byth ni wywa blodau'i chofio
Nes y gwywa'r galon hon.
Donald Glyn Pritchard


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý