Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Ceiros y Wern Ceirios y wern
Medi 2005
Yn ystod y tywydd poeth diweddar mae llawer ohonom wedi yfed diod llugaeron neu geirios y wern (cranberry).
Gelwir ef yn cranberry yn Saesneg am fod coes a phen y blodyn yn debyg i wddf a phen y crëyr. Awgryma'r enw llugaeron ei fod yn ffisig da i wella pla, a'r enw ceirios y wern ei fod yn tyfu mewn corsydd. Mae'r llysiau sydd yn pydru mewn corsydd mawnog yn gwneud y pridd yn sur ac er bod y rhan fwyaf o'r planhigion yn methu dygymod a'r surni, mae ceirios y wern yn ffynnu arno.

Mae gan y ffrwyth y gallu i gadw bwyd rhag pydru a byddai brodorion Gogledd America yn gwneud defnydd o'r rhinwedd yma. Byddent yn cymysgu cig neu bysgod wedi eu sychu gyda ceirios y wern a'u ffurfio yn gacennau cyn eu sychu yn yr haul. Yn ystod misoedd hirion y gaeaf byddai'r cacennau hyn yn fwyd maethlon, cyfoethog mewn proteinau a fitaminau. Oherwydd eu bod yn cynnwys fitamin C byddai llongwyr yn cludo barilau o'r ffrwyth i'w diogelu rhag y llwg (sgyrfi). Mae yfed sudd ceirios y wern yn rhwystro bacteria rhag ymosod ar y bledren ddŵr ac achosi cystitis.

Os torrwch aeronen yn ei hanner fe welwch fod pedair coden aer tu mewn iddi. Mae hyn yn golygu nad oes raid i dyfwyr y ffrwythau eu casglu'n llafurus gyda'u dwylo. Gellir gorlifo y caeau a gwneud i'r aeron arnofio ar wyneb y dŵr a'u caglu gyda rhawiau.

Heddiw mae peiriannau i'w cael sydd yn gwahanu'r aeron gorau oddi wrth y gweddill trwy wneud iddynt sboncio. Gwerthir y sboncwyr gorau fel ffrwyth cyfan a'r lleill fel sudd neu jeli.

Bwyteir ceirioes y wern ar ddydd Diolchgarwch, sef y pedwerydd dydd Iau o Dachwedd yn Unol Daleithiau America ac ar yr ail ddydd Llun o Hydref yng Nghanada. Cynhyrchir 250 miliwn cilogram o'r ffrwyth mewn blwyddyn yn UDA a Chanada.

Beth am i ni i gyd fwyta'r ffrwyth yma? Gall ein gwarchod rhag clefyd y galon a chancr.

Mair Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý