Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Safle Palas y Tylwyth Teg (neu Cartre'r Peilon fel y mae heddiw). Pen yr Orsedd yw'r fferm. TÅ· newydd (Bwthyn Daisey), lle y dychmygwn yr oedd Rhyd Lasgrug, Glasgraig Fawr ar y chwith, Llyn Alaw yn y cefndir. Stori Dylwyth Teg o Rosybol
"Dwi'n coelio dim ar y diawl. Cena' c'lwyddog fuo fo erioed". "Ewadd, ti'n meddwl?" "Wel mi fuo ni trwy bob gwrych a nant heddiw heb weld sôn o'r hen Wilias. All o ddim diflannu oddi ar wynab y ddaear siwr".
Cymrodd Iwnc o'i gwrw, yn amlwg yn teimlo'i fod wedi setlo'r ddadl. "Ond mae Robat yn taeru'i fod wedi mynd yn syth yn ôl at Rhyd Lasgrug pan ruthrodd y ceffyl heibio, ac na doedd 'na ddim golwg o Wilias yn unlle".

Roedd ei gyfaill yn anfodlon i feddwl y gwaetha'. "Mewn difri' calon, ydi Robat yn disgwyl i ni gredu mai'r tylwyth teg aeth a fo?" Chwarddodd pawb. "Ffraeo wnaethon nhw debyg ar ôl cael peint neu ddau yn ormod yn farchnad Llan." Edrychodd ar ei gilydd. "Be ti'n awgrymu? Mai fo laddodd Wilias?"

Doedd yr un o'r criw wedi sylwi ar Robat TÅ·n Llan yn dod i mewn. Trodd hwnnw ar ei sawdl a cherdded allan i'r gwyll.

Sylwodd Robat ddim ble roedd o'n cerdded bron a sgwrs y dafarn fel tôn gron yn ei feddwl. Yn sydyn, bwriodd i mewn i hen ŵr â gwallt a locsyn claerwyn, a sylweddolodd ei fod yng nghanol y goedwig. Er ei waethaf cafodd ei hun yn adrodd hanes ei drafferthion, wedi i'r dyn holi'n gwrtais. "Peidiwch â phoeni", cysurodd hwnnw. "Ewch i ben Gorsedd Lasgrug am hanner nos, nos lau ac mi welwch blasdy. Curwch y drws ac mi gewch hyd i'ch ffrind y tu mewn. Daliwch eich gafael ynddo ac mi ddowch ag o adre'n ddiogel". Rhoddodd wên radlon ac aeth ar ei ffordd.

Erbyn nos Iau roedd Robat druan yn gweld cysgodion a chlywed sibrydion o gwmpas pob cornel. Oedd pwrpas gwrando ar yr hen ŵr? Oedd o wedi'i weld o gwbl mewn gwirionedd? Ond penderfynodd fynd. Wedi'r cwbl, beth oedd ganddo i'w golli?

Ac yn wir i chi, dyna lle oedd y plasty, a golau a sain cerddoriaeth yn llifo allan i'r nos. Wedi curo'r drws, cafodd Robat ei arwain i mewn i'r Neuadd wychaf a welodd erioed. Roedd yna gerddorion, a thyrfa'n chwerthin a dawnsio'n ysgafndroed, gan wau trwy'i gilydd fel glöynnod byw. Pob un yn ifanc a hardd, eu gwisgoedd yn ddrud a blodau yn eu gwalltiau oedd yn llenwi'r Neuadd ag orogl hyfryd. Toc canwyd cloch, ac aeth pawb i Neuadd arall ble'r oedd byrddau wedi'u gosod â gwledd ddigon i dynnu ŵwr o'ch dannedd. Syllai Robat yn syn a'i geg yn agor, heb yngan gair. Yna pwy welodd yn cerdded heibio dan gario dysgl ffrwythau, fel petai'n byw yno erioed ond Wilias. Y Wilias roedd y pentref i gyd yn meddwl iddo'i lofruddio ar y ffordd adref o farchnad Llannerch-y-medd! Cofiodd am gyngor yr hen ŵr a daeth ato'i hun mewn chwinciad. Neidiodd am Wilias. Gwingodd hwnnw fel peth gwallgof a disgynnodd y ddau i'r lIawr. Ac fel tarth yn haul y bore, diflannodd y plasty a phopeth oedd ynddo gan adael y ddau gyfaill yn cicio a rhegi yn y mwd.

Bu antur y ddau gyfaill yn destun sgwrs am flynyddoedd ac os codai unrhyw un amheuon roedd Wilias wrth ei fodd yn dangos y ddysgl ffrwyth fel prawf o'r hanes.

Seiliwyd yr uchod ar stori mewn lIawysgrif sy'n dwyn y teitl gwych 'Pastai i'r sawl a'i Profo'. Fe'i ysgrifennwyd gan William Williams, Llandygái yn 1800 ond ni ŵyr neb beth yw oedd y stori wreiddiol. Fe'i hailadroddwyd gan Dafydd Glyn Jones, Bangor, mewn erthygl yn Nhrafodion Hynafiaethwyr Môn yn 1995.

Yn ôl William Williams fe gadwyd dysgl y tylwyth teg yn y Caerau, Llanfairynghornwy, am flynyddoedd. Erbyn heddiw 'Glasgraig' yw'r enw a ddefnyddir ar y ffermydd cyfagos. Yn rhyfedd iawn, mae yna draddodiad lIeol o fwgan yn Nhŷ Newydd, hen dŷ sydd wedi ei leoli yn agos i safle tebygol Rhyd Glasgrug. Mae gwraig bresennol y tŷ - Bwthyn Daisy erbyn hyn - yn tystio i bresenoldeb ysbryd yn rhan hynaf yr adeilad.

Hoffai Dafydd Glyn Jones gael mwy o wybodaeth am leoliad stori arall debyg. Os gwyddoch am Gors yr Eira (ar y ffordd i Lannerch-y-medd) ac am Ryd Mari Benwen rhowch wybod i'r Arwydd.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanrug):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý