Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Aelodau ffyddlon o Eglwysi Dosbarth Amlwch yny Gymanfa Blant a gynhaliwyd yng Nghapel Ifan. Cymanfa Blant yr Annibynwyr
Mehefin 2003
Cynhaliwyd Cymanfa Blant Dosbarth Amlwch (A) yng Nghapel Ifan, Llannerch-y-medd. Roedd yn agos i 70 yn bresennol yn y pnawn a'r nos.
Trefnodd Mrs Tegwen Owen a'r merched de rhagorol rhwng y ddau gyfarfod.Cafwyd canu swynol dan arweiniad Mrs Eirlys Ryder a Mrs Grês Pritchard yn offrymu gweddi.

Gwrandawyd ar y plant a'r bobl ifanc yn adrodd eu hadnodau a'u holi gan Mrs Eluned Jones.Cyflwynwyd tystysgrifau am bresenoldeb i ddeunaw o blant o Ysgolion Sul Carmel, Seilo a Capel Ifan.

Gwobrwywyd Siôn Glyn Pritchard, Llio Owen, Non Owen, Haf Owen, Beth Owen (oll o Gapel Ifan), Garmond Williams (Seilo) am bresenoldeb llawn.Llywydd yr hwyr oedd Mrs Carys Lisk gyda Llio Owen yn darllen, offrymwyd gweddi gan Mrs Elizabeth ap Thomas. Safodd pymtheg o blant a phobl ifanc yr arholiad llafar. Wrth gyflwyno y tystysgrifau a'r marciau llawn canmolodd Mr Donald Glyn Pritchard safon uchel yr Ysgolion Sul.

Gwobrwywyd y canlynol: Garmon Llyr Williams (Seilo), Osian Dafydd Jones, Iwan Robat Jones, Beth Owen, Mari Gwenllian Evans, Alison Marie Burford, Haf Owen, Nia Owen, Non Owen, Carwyn F. Thomas, Cai ab Arfon, Sîon Glyn Pritchard, Nia Woodcock (Carmel).

Cyflwynwyd eitemau a roddodd fawr fwynhad i'r gynulleidfa gan Ysgolion Sul Carmel a Chapel Ifan. Talwyd y diolchiadau i bawb am Gymanfa lewyrchus gan y Cadeirydd, Mr Owie Jones (Seilo) ac anogodd gefnogaeth y dosbarth i'r dyfodol. Roedd casgliad y diwrnod yn £100. Roedd trefniant llwyddiannus y Gymanfa yng ngofal Mr Donald Glyn Pritchard, Ysgrifennydd y Pwyllgor.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý