Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Capel y Llaethdy o gyfeiriad Mynydd Parys Capel y Llaethdy
Mawrth 2008
Daeth defnyddioldeb Capel y Llaethdy i ben fel addoldy. Ni fu gwasanaeth yno ers dros ddwy flynedd a bellach mae'r capel ar fin mynd ar y farchnad gyda hawl cynllunio i'w droi yn dÅ· annedd.
Dyma fel y cofnodir amdano yn Capeli Môn (Geraint I. L. Jones).

"Mae'r adeilad ym Mhentrefelin ar gyrion Amlwch. Sefydlwyd yr Ysgoldy yn 1860 fel cangen o Gapel Mawr, Amlwch. Mae'r adeilad (a gostiodd £564) yn dyddio o 1905. Adeiladwyd yn y dull lleol diweddaraf gyda mynediad talcen. Y pensaer oedd Richard Davies, Bangor. Mae'r adeilad mewn cyflwr gweddol dda ".

Fel y nodir cangen o'r Capel Mawr oedd y Llaethdy gyda'r addolwyr wedi eu cofrestru yn y Capel Mawr. Yn bennaf gwasanaetha'r capel ardal Pentrefelin a chynhelid oedfa ac Ysgol Sul yno yn gyson.

Y daith sabathol fyddai i'r pregethwr gwadd fod yn y Capel Mawr nos a bore ac yn y Llaethdy yn y pnawn. Fe fu cyfnod llwyddiannus iawn yn hanes y Llaethdy gyda nifer o ddosbarthiadau yn yr Ysgol Sul a phartïon i'r plant ar achlysuron arbennig.

Ysywaeth, gwanhau wnaeth mynychwyr gwasanaethau y Llaethdy. Dros y blynyddoedd olaf cafodd cyfrifoldeb rhedeg y Llaethdy ei ysgwyddo gan Mr William John Roberts a gartrefai gyfagos.

Bellach mae Mr Roberts yn cartrefu yn y Brwynog. Mae ein diolch yn fawr iddo am ei ddyfalbarhad.

Os oes hanesion, lluniau neu atgofion am y Llaethdy byddem yn falch o'u cynnwys yn Yr Arwydd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý