Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Dawnswyr Ffidl Ffadl yn Dalkey Ffidl Ffadl
Tachwedd 2005
Ar ddiwedd mis Medi treuliodd grŵp dawns werin Ffidl Ffadl benwythnos difyr iawn yn nhre fechan arfordirol Dalkey, rhyw bum milltir i'r de o Ddulyn.
Gwahoddwyd y grŵp yno i gymryd rhan yng Ngŵyl Rhannu Dau Ddiwylliant Gŵyl o amrywiol weithgareddau a drefnwyd i goroni dwy flynedd o gyfnewid diwylliannol rhwng Ynys Môn a Dalkey. Yn rhan o'r prosiect bu dawnswyr a cherddorion Ffidl Ffadl yn diddanu nifer o Wyddelod a ymwelodd â Môn yn ystod y cyfnod a chafwyd sawl noson hwyliog a chofiadwy yn eu cwmni. Mae'r noson pan fynnai un Gwyddel bach fod yn 'Ddafad Gorniog' yn y ddawns arbennig honno, yn sicr o aros yn y cof am beth amser.

Yn ogystal â Ffidl Ffadl roedd nifer o artistiaid, beirdd a chantorion Cymru wedi croesi i'r Ynys Werdd i gyfrannu yn y dathliadau. Yn ystod yr Ŵyl bu Ffidl Ffadl yn rhannu gweithdy yn y Ganolfan dreftadaeth gyda'r Wild Geese - tair o offerynwyr a dawnswyr traddodiadol hynod o ddawnus a ... del iawn!! Cafwyd hwyl garw pan ddaeth nifer dda o'r trigolion lleol i brofi'r dawnsiau Cymreig ac yr oedd yr 'Ymryson Clocsio' yn dipyn o ffefryn - tua dwsin o Wyddelod mewn clocsia yn ceisio efelychu camau Bethan yr hyfforddwraig. Wel, sôn am sbort!!

Yn ogystal â chyfrannu at y gweithdy, bu Ffidl Ffadl yn perfformio ddwywaith ar y stryd yn ystod y penwythnos gan ddenu cynulleidfa sylweddol o flaen yr eglwys, y castell a'r Ganolfan Dreftadaeth. Roedd pawb wedi dotio at set glocsio'r plantos, Siôn a Gwen, a'r hen delyn deires unwaith eto yn hudo sawl un i holi yn ei chylch!

Ar nos Sadwrn roedd y grŵp yn rhannu llwyfan â Chôr ABC o Aberystwyth a Chôr o gyffiniau Dulyn mewn cyngerdd gerbron dros ddau gant o bobl yn Neuadd y Dref. Wedi'r perfformio 'swyddogol' cafwyd sesiwn o ganu ac o chwarae'r hen alawon yn un o'r tafarndai lleol ac yna yn y gwesty tan oriau mân y bore!

Penwythnos gwerth chweil - pawb wedi mwynhau - a'r 'cwrw du' mor flasus ag erioed!! Mae sôn bod yr aelodau am ddychwelyd i'r Ynys Werdd i gynnal eu parti Nadolig.

Cafwyd amser difyr iawn yn Nulyn llynedd, felly pam lai?!

Cyn cloi fe hoffai Ffidl Ffadl ddiolch i Alun a Louise o Oriel Ynys Môn am drefnu 'gigs y Gwyddelod' dros gyfnod y prosiect, ynghyd â Margaret Dunne yn Dalkey, am holl drefniadau'r penwythnos.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý