Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Rhai o aelodau Clwb Rhosybol Clwb Ffermwyr Ifanc
Rhagfyr 2005
Cafodd Clwb Rhosybol gyfnod prysur a llwyddiannus dros yr ychydig fisoedd olaf.
Bu llawer o'r Clwb yn cystadlu yn Eisteddfod y Mudiad ym Môn. Cawsom y canlyniad terfynol gorau ers blynyddoedd maith. Daeth Rhosybol yn gydradd ail, dim ond tri phwynt tu ôl i Glwb Llangefni, yr enillwyr.

Ymysg y llwyddiant i'r Clwb oedd ennill Cadair Norman Ponsonby (Llenyddiaeth), Tarian Siân Emlyn (Eitem Mwyaf Doniol) a Tharian Dr a Mrs Haydn Edwards (Celf a Chrefft).

Bu Mared Huws yn cystadlu wedyn yn Eisteddfod Cymru yn y gystadleuaeth Llefaru dan 26 oed. Bu Sgets Rhosybol yn cystadlu hefyd yn Eisteddfod Cymru a chawsom drydydd. Da iawn i pawb a fu'n cymryd rhan ac i bawb a gafodd lwyddiant. Fel Clwb buasem yn falch iawn o ddiolch i Mrs Sandra Owen, Mr Gwyndaf Jones ac i Mr Iwan Evans am ein hyfforddi.

Cawsom lwyddiant yn y Ffair Aeaf hefyd. Dyma rai o'r canlyniadau - Catrin Jones - 2il barnu gwartheg; Gareth Parry 3ydd dangos oen; Llion Jones a Natasha Williams - 1af yn addurno coeden Nadolig ac hefyd cafodd Natasha 2il yn unigol efo'r collage. Da iawn i bawb.

Rydym wedi bod yn cael ein diddori yn y Clwb hefyd. Ar ddechrau'r tymor bu'r Fyddin yn egluro ychydig am eu gwaith a phawb wedi mwynhau. Daeth Elfed Hughes atom i wneud Cwis, pawb wedi dysgu llawer ac wedi cael hwyl fawr yn twyllo!

Cawsom weithdy gwneud gemwaith gan Eirian Williams ac roedd pawb yn llawer mwy crefftus erbyn diwedd y noson. Hefyd daeth Siôn Roberts i'n diddori gyda straeon am ei drip yn Seland Newydd. Roedd gan pawb lawer o gwestiynau diddorol. Diolch i bawb a fu yn y Clwb.

Bu rhai o aelodau'r Clwb yn y Range ym Mangor yn saethu ar 22 Tachwedd. Diolch i Swyddogion y Range, i George Stuart ac i Enfys Huws am helpu ar y noson. Yr enillwyr oedd Rhys Williams ac Eirian Williams. Mae gan y Clwb noddwyr newydd.

Mae'r Bedol ym Mhenysarn wedi helpu i dalu am grysau Rygbi i aelodau'r Clwb. Bydd y bartneriaeth yma yn parhau oherwydd maent yn mynd i baratoi Lobscows i ni ar ôl bod yn canu Carolau ar 22 Rhagfyr. Diolch i'r Bedol. Mae Parti Nadolig y Clwb yn y Lastra ar 29 Rhagfyr


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý