Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Mr Robin Hughes wrth y gofeb i Siôn Morris Cymdeithas Morrisiaid Môn
Gorffennaf 2004
Dygaf sylw'r darllenwyr at rai o weithgareddau Cymdeithas Morrisiaid Môn.
Yn yr Henblas, Llangristiolus, yn ddiweddar bu Dr Gwawr Jones, Bangor, yn darlithio ar Elin, ferch Lewis Morris. Bu Elin yn forwyn yn yr Henblas am oddeutu dwy flynedd pan oedd hi'n enethig. Trwy garedigrwydd y perchenogion, cymwys oedd cynnal y cyfarfod yno. Buan y sylweddolwyd fod y darlithydd wedi cwblhau paratoadau manwl a daliodd ddiddordeb y gynulleidfa yn ei phortread o'r gwrthrych gyda'i chyflwyniad a'i thraddodi huawdl.

Yn ystod y cyfarfod manteisiwyd ar y cyfle i gyflwyno rhai o drysorau'r ynys i ofal Cyngor Ynys Môn. Yr oedd y Gymdeithas wedi prynu llungopi o Llyfr Hir Porthamal, sef llyfr o farddoniaeth ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg. Hefyd, prynwyd copi o'r Llyfr Gweddi Cyffredin (1770), a olygwyd gan Richard Morris. Ar y noson cyflwynwyd y ddwy gyfrol i'r Cyfarwyddwr Addysg, Mr Richard Parry Jones, a derbyniodd hwynt yn ddiolchgar ar ran y Cyngor Sir.

Yn ddiweddar sicrhaodd y Gymdeithas ganiatâd i osod cofeb i Siôn Morris (1713-40), yr ieuengaf o'r Morrisiaid, ar bared Eglwys Blwyf Penrhosllugwy. Cyflawnwyd hynny ar fore hyfryd, Sadwrn, 12 Mehefin, mewn cyfarfod arbennig, ac yr oedd yr eglwys yn llawn. Cynhaliwyd y gwasanaeth dan nawdd y Gymdeithas. Dechreuwyd a'r Defosiwn a weinyddwyd yn fyr ond yn rymus gan y Parchedig Ganon Ddr. Graham D. Loveluck, Marian-glas.

Yna'r dadorchuddio a chymwys oedd gweld y Parchedig Ddr. Dafydd Wyn Wiliam, cofiannydd y Morrisiaid, a phrif sylfaenydd y Gymdeithas, yn cyflawni'r weithred o ddadlennu. I ddilyn cafwyd tair alaw o'r ddeunawfed ganrif ar y Delyn Deires gan y delynores feistrolgar Llio Rhydderch. Daeth Dafydd Wyn Wiliam ymlaen drachefn i draddodi crynodeb o fywyd byr Siôn Morris fel prydydd, cerddor, morwr, llythyrwr ac anturiaethwr, o gyfnod ei fagwraeth ar aelwyd ddiwylliedig Pentre-eiriannell hyd at ei farw cynnar ar draeth yn Dominica, 22 Rhagfyr 1740. Cafwyd gwrandawiad astud, ac wrth gwrs, codwyd awydd y gynulleidfa am hanes Siôn Morris am fod y siaradwr wedi goleuo ein hadnabyddiaeth ohono trwy gyfrwng ei gyfrol ddiweddaraf.

Yn nesaf daeth Mrs Mair Williams ymlaen i draddodi 'Portread o Mr Robin Hughes', rhoddwr a naddwr y goflech. A hithau'n dra chyfarwydd a'i hardal, cyfeiriodd at amryw gysylltiadau diddorol gan ddal ar naws a chefndir y cyfnod.

O glywed ymateb y crefftwr lleol, Mr Robin Hughes, hawdd gweld ei fod yntau, fel Siôn Morris gynt, yn adnabod ei ardal ei hun yn dda, a bod y rhan yma o Fôn, a'r byd natur o amgylch, yn agos iawn at ei galon. Mynegodd fel y bu'n dewis y llechen, a'i llunio'n ofalus gan weithio ysgrythiad o gwch hwyliau arni, ac yr oedd hynny, meddai, yn gais pur anghyffredin. Lluniodd y llechfaen ar batrwm cofeb Marged, mam Siôn Morris, a hyfrydwch oedd gweld y ddwy gofeb ar fur mewnol yr eglwys, y naill wrth ochr y llall.

Canwyd rhai emynau yn ystod y gwasanaeth, a'r organydd ifanc, Mr Ieuan Jones o Benrhosllugwy, yn cyfeilio. Roedd hwn yn gyfarfod teilwng a chofiadwy. Dyfynnir yma y gwpled a welir ar gofeb Siôn Morris:

Cyfaill i bawb, fe'i cofir,
Sion hael, na thariasai'n hir!

M. Ll. W.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý