主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

主播大秀 主播大秀page
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Amazing Grace (2007)
Capten Ffantastic - yn Amazing?

Amazing Grace (2007) PG

Pedair seren allan o bump

Y s锚r
Ioan Gruffudd, Romola Garai, Benedict Cumberbatch, Albert Finney, Michael Gambon

Cyfarwyddo
Michael Apted

Sgrifennu
Steven Knight.

Hyd
109 munud

Sut ffilm
Ffilm hanes barchus a theilwng i gyd-fynd 芒 dau ganmlwyddiant pasio deddf seneddol i ddileu'r fasnach mewn caethwasiaeth o fewn yr ymherodraeth Brydeinig.

Mae o ddiddordeb arbennig yng Nghymru am mai Ioan Gruffudd sy'n chwarae rhan yr arwr, Sais o Swydd Efrog, William Wilberforce - g诺r y mae rhai yn mynnu ei ganmol am ddileu caethwasiaeth er mai dileu'r fasnach wnaeth o. Parhaodd caethwasiaeth ei hun er gwaethaf ei ddeddf.

Ond yr oedd y g诺e hwn o argyhoeddiadau crefyddol dyfnion yn un a aberthodd yn fawr dros ei achos - "Rhoddaist dy ieuenctid a dy iechyd dros yr achos hwn," meddir wrtho.

Y stori
Brwydrodd William Wilberforce (Ioan Gruffudd) am ddeunaw mlynedd i gael mesur yn dileu'r fasnach mewn caethwasiaeth drwy'r senedd yn Llundain gan gychwyn gyda gwrthwynebiad sylweddol iawn. Dim ond un ar bymtheg bleidleisiodd gydag ef y tro cyntaf!

Ei ymdrech ddiflino i argyhoeddi aelodau seneddol yw testun y ffilm hon a'i frwydr hefyd yn erbyn salwch sy'n ei ysu gymaint ei fod yn ymgreinio mewn poenau ar y llawr ac yn dod yn gaeth i laudnum a ddefnyddiai i leddfu'r boen.

Y gwrthwynebiad ffiaidd iddo ar ran rhai fel Dug Clarence (Toby Jones) a'r pwysau arno o du cefnogwyr fel Yr Arglwydd Fox (Michael Gambon), Thomas Clarkson (Rufus Sewell) a John Newton (Albert Finney) cyn fasnachwr caethweision a edifeiriodd ond sy'n cael ei ysu gan "20,000 ghosts" y rhai a ddioddefodd dan ei law dros y blynyddoedd.

Newton oedd awdur yr emyn Amazing Grace sy'n rhoi i'r ffilm ei theitl - emyn sy'n deillio o brofiad Newton ac effaith yr hyn a welodd ac a wnaeth arno.

Yn gweu drwy hyn mae hanes carwriaeth, betrus i ddechrau, Wilberforce a Barbara Spooner (Romola Garai).

Y canlyniad
Er yn ffilm hawdd ymgolli ynddi maeAmazing Grace yn nes at fod yn ffilm ddogfen nag yn ddrama arferol gyda'r pwyslais fel pe byddai ar addysgu yn hytrach nag ar greu tyndra dramatig.

Hanes y frwydr seneddol ac effaith hynny ar iechyd Wilberforce yw diddordeb Michael Apted sydd wedi bodloni ar ddarlun cwbl undimensiwn o'r arwr. Mae'n sant a dyna fo; gyda chyflwr ei iechyd bregus ei unig wendid arwahan i gyfnod yn ei faboed.

Carwriaeth Ysgol Sul yw un Wilberforce gyda Barbara Spooner - carwriaeth sy'n ymylu ar fod mor ddi-ryw a'i gyfeillgarwch 芒'r prif weinidog, William Pitt, (Benedict Cumberbatch) - cyfaill mynwesol sydd, er yn gefnogol i Wilberforce, yn gorfod atal rhag dangos hynny er mwyn diogelu ei le ei hun fel prif weinidog.

Yn ei phortread gafaelgar o'r elfennau gwleidyddol hyn a'r cynllwynion a'r triciau seneddol y mae'r ffilm yn rhagori yn hytrach na'i threiddgarwch cymeriadol.

Yr anhawster y mae hyn yn ei achosi yw nad oes lle ar 么l i gyfleu'n ddarluniadol yr arfer ysglyfaethus y mae Wilberforce yn brwydro mor daer yn ei erbyn.

Mae hon bron a bod yn ffilm am erchylltra caethwasiaeth heb gaethwas yn agos ati oni bai am un olygfa fer a chyfraniad Youssou N'Dour fel y cyn gaethwas, Olaudah Equiano - yn sicr ni welir dim cam-drin a phan gawn olwg ar y llongau cludo maen nhw'n wag a ninnau heb weld cyflwr y sawl a gludid.
Ac er bod digon o gadwyni i'w gweld ni welwn neb yn eu gwisgo.

Dewisodd Michael Apted beidio 芒 dangos dim mewn cyfrwng sydd yn ei hanfod yn un gweledol!
Er bod digon o 蝉么苍 am ddioddef - a hynny mewn geiriau cignoeth a lliwgar am waed yn llifo a chyrff yn cael eu dryllio - nid oes dioddefaint i'w weld.

A chan adolygydd yr Observer, Philip French, mae'r dewis hwn ar ran Michael Apted yn cael ei gymeradwyo o ystyried cyd-destun y ffilm.

Mae Ioan Gruffudd hefyd wedi amddiffyn y penderfyniad mewn cyfweliad ar y wefan hon a ddarlledwyd ar y rhaglen radio Bwrw Golwg.

Perfformiadau

  • Yn 么l y disgrifiadau dyn bychan, disylw, oedd yr William Wilberforce go iawn ac oherwydd hynny yr oedd rhywun yn amau addasrwydd actor golygus fel Ioan Gruffudd ar gyfer y rhan.

    Cawn ein siomi ar yr ochr orau. Ydi, mae mor olygus ag erioed ond y mae ei bortread yn un sy'n argyhoeddi ac mae'n dal ei dir yn well nag y byddai rhai wedi disgwyl ochr yn ochr ag actorion sylweddol iawn fel Gambon a Finney.

    Ac er nad yn edrych yn gorffilyn gwantan - wedi'r cyfan ef yw Captain Fantastic hefyd - mae'r golygfeydd ohono mewn afiechyd yn wych.

    Un peth sy'n cael ei anghofio, fodd bynnag, yw mai dim ond 21 oedd Wilberforce pan etholwyd ef i'r senedd ond er i ddeunaw mlynedd fynd heibio cyn ei fuddugoliaeth ychydig iawn newid sydd yn ei bryd a'i wedd - ond mae amryfusedd o'r fath yn wir am nifer o ffilmiau sy'n rhychwantu cyfnod maith.
    Ond y mae hon yn rhan sy'n bluen yn het Ioan Gruffudd ac yn llawer mwy teilwng ohono na rhyw stwnsh fel y Fantastic Four.

  • Ond er mai Ioan Gruffudd biau'r prif gymeriad y rhannau sy'n rhoi gwir bleser yw rhai Albert Finney fel John Newton, Michael Gambon fel Fox a Rufus Sewell fel Thomas Clarkson.

  • Agwedd arall o'r ffilm sy'n gweithio o ran cymeriadu yw'r cyfeillgarwch rhwng William Pitt a Wilberforce gyda Ioan Gruffudd a Benedict Cumberbatch yn gweithio'n dda a'i gilydd.

    Ambell i air
  • Yr ydw i yng Nghaerfaddon i gael fy iachau o wleidyddiaeth.
  • Waeth pa mor uchel y gwaeddwch wnewch chi ddim boddi llais y bobl.
  • "Fel dy Brif Weinidog rwy'n dy gymell i fod yn ofalus." "Ac fel ffrind?" "A, i'r diawl a bod yn ofalus."

    Darnau gorau
  • Pob un o'r dadleuon a'r ymrafael geiriol yn y senedd.
  • Araith Fox sy'n cychwyn gyda'r geiriau: "Pan ydych yn meddwl am wyr mawr yr ydych yn meddwl am ddynion treisgar . . ."

    Ambell i farn
    Mae Amazing Grace yn haeddu mwy o ganmoliaeth nac a gafodd mewn rhai lleoedd ac er bod elfennau o wirionedd yn y beirniadu mae'r adolygiadau yn rhoi'r argraff fod hon yn salach ffilm nag yw hi mewn gwirionedd.
  • Deborah Ross yn y Spectator yn dweud bod ei gwylio fel gwylio fersiwn wedi'i ffilmio o'r hyn sydd gan yr Encyclopaedia Britannica i'w ddweud am Wilberforce
  • Yn y Guardian dywed Peter Bradshaw i'r ffilm gael ei mwydo mewn bwriadau da . . ."ond mae'n sych ac yn ddisymud o ran drama," meddai.
  • Diffyg cyffro a phrif gymeriad anniddorol yw cwyn y
  • Daily Mirror hefyd.
  • "Mae rhywbeth ychydig bach yn 'wedi-ei-gwneud-ar-gyfer-ysgolion' yngl欧n ag Amazing Grace meddai gwefan Saesneg y 主播大秀 ond y mae'r adolygydd yn cydnabod fod y ffilm yn diddori yn ogystal ag addysgu.

    Gwerth ei gweld?
    Pe byddai ond i ryfeddu sut y gallai aelodau seneddol gyfiawnhau y fath fasnachu am ddeunaw mlynedd!

    Ac yng Nghymru, mae gennym ni oll ddiddordeb, siwr iawn, yn beth wnaeth Ioan Gruffudd nesaf!

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Ioan Gruffudd yn siarad am y ffilm

  • Cymru a chaethweision

  • Wilberforce y misfit


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    G诺yl Cymru Ddu
    G诺yl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Si么n a Si芒n
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    拢500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    D茅j脿 Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgr卯n Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    G诺yl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    G诺yl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy